Parhau i storio bwyd yn ddiogel wrth ei gadw mewn warws

URN: SFL153
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â pharhau i storio bwyd yn ddiogel wrth ei gadw mewn warws. 

Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sydd yn ofynnol gan weithredwyr yn y sector logisteg sy’n ymdrin â bwyd. Mae’n ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (yn cynnwys bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i fod â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.

Mae’r safon hon yn berthnasol i’r holl weithrediadau warws mewn gweithrediadau logisteg sy’n ymdrin â bwyd. Gallai gweithredwyr warws fod yn gweithio ym maes warws a storio, anfon nwyddau ymlaen, neu unrhyw ran o’r gadwyn gyflenwi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cofnodi gwybodaeth am y labelu yn unol â gofynion sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer storio bwyd wrth ei gadw mewn warws
  2. paratoi bwyd ar gyfer ei storio a’i roi yn yr ardal storio ofynnol i gadw ei ansawdd, yn unol â gofynion y cyflenwr, y sefydliad a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  3. cadarnhau bod ardaloedd storio’n lân, yn bodloni’r gofynion ar gyfer y math o fwyd sydd yn cael ei storio, a’u bod yn cael eu cadw ar y tymheredd cywir yn y warws
  4. storio bwyd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol perthnasol i atal croes-halogiad
  5. dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc y warws, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. gwaredu unrhyw fwyd, gwastraff bwyd neu ddeunydd pacio nad yw’n bodloni gofynion diogelwch yn ofalus, yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a gofynion amgylcheddol
  7. cadw cofnodion storio warws yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  8. defnyddio dulliau ymdrin â bwyd sydd yn cynnal diogelwch bwyd
  9. dilyn y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol yn ymwneud â Chyfarpar Diogelu Personol (PPE) a hylendid personol
  10. ymateb i sefyllfaoedd lle ceir arwyddion posibl o beryglon diogelwch bwyd, o fewn terfynau eich awdurdod
  11. adrodd am arwyddion o beryglon diogelwch bwyd posibl wrth y cydweithiwr(cydweithwyr) perthnasol, pan fydd hyn y tu hwnt i derfynau eich awdurdod
  12. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â pharhau i storio bwyd yn ddiogel wrth ei gadw mewn warws


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pam y mae’n bwysig cadarnhau bod bwyd a’i ddeunydd lapio/pacio heb ei niweidio ac o fewn dyddiad y cynnyrch tra’n cael ei storio
  2. y gofynion rheoli tymheredd ar gyfer mathau gwahanol o storio bwyd a’r dulliau ar gyfer cynnal y rhain
  3. y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer cofnodi gwybodaeth yn ymwneud â storio bwyd yn ddiogel wrth ei gadw mewn warws
  4. sut i baratoi bwyd a chynnyrch bwyd ar gyfer ei storio’n ddiogel wrth ei gadw mewn warws a’r gofynion ar gyfer labelu
  5. pam y mae’n rhaid i ardaloedd storio bwyd fod yn lân, yn daclus ac wedi eu cynnal a beth i’w wneud os nad ydynt
  6. sut i gydymffurfio â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer storio bwyd yn ddiogel wrth ei gadw mewn warws
  7. y gofynion sefydliadol ar gyfer defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a sut i gynnal hylendid personol
  8. y gweithdrefnau rheoli amgylcheddol sefydliadol perthnasol
  9. y gweithdrefnau sefydliadol i osgoi croes-halogiad
  10. sut i adrodd am arwyddion o beryglon diogelwch bwyd posibl a’u cofnodi
  11. sut i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth pwysig mewn perthynas â storio bwyd yn ddiogel wrth ei gadw mewn warws
  12. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol wrth fonitro effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch i’r llygaid, menig, esgidiau uchel

Croes-halogiad: mewn amgylchedd logisteg ceir dau fath o groes-halogiad y mae angen i chi warchod yn eu herbyn: trosglwyddo bacteria niweidiol rhwng bwydydd trwy gyswllt uniongyrchol (e.e. hylifau cig amrwd yn diferu ar gig wedi ei goginio) neu gyswllt anuniongyrchol (trwy’r dwylo, dillad, llieiniau, cyfarpar neu arwynebau eraill); a chroes-halogiad bwydydd yn cynnwys alergenau penodol (e.e. cnau, llaeth, wyau) gyda bwydydd eraill (bwyd yn cymysgu am fod deunydd pacio wedi torri, gollyngiadau neu trwy’r dwylo, dillad, llieiniau neu arwynebau eraill)

Rheolyddion storio bwyd: tymheredd, olrhain a sganio (digidol neu bapur), cofnodion cynnal a chadw

Bwyd: bwyd, diod, porthiant anifeiliaid

Dyddiad y cynnyrch: ar ei orau cyn, defnyddio erbyn, oes silff, dyddiad cyrraedd

Peryglon diogelwch bwyd: rhywbeth a allai achosi niwed i’r defnyddiwr ac sy’n gallu bod yn ficrobiolegol (e.e. bacteria, llwydni, feirysau), yn gemegol (e.e. plaladdwyr a ddefnyddir ar ffrwythau a llysiau, cemegau a ddefnyddir ar gyfer glanhau neu i reoli plâu), yn ffisegol (e.e. pryfed, parasitiaid, gwydr), yn alergenaidd (e.e. cnau, llaeth, wyau)

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd: polisïau, arferion, rheolyddion a dogfennau sydd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr. Gallai hyn gynnwys Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)

Arwyddion o beryglon diogelwch bwyd posibl: pethau a allai wneud bwyd yn anniogel i ddefnyddwyr, yn cynnwys pecynnau wedi eu niweidio, gollyngiadau ar fwyd arall, stoc y mae ei ddyddiad wedi dod i ben, bwyd heb ei storio lle dylai fod, cyfleusterau a cherbydau storio nad ydynt yn gweithredu ar y tymheredd cywir, gwastraff bwyd i’w waredu, baw, plâu fel cnofilod neu bryfed

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth, deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol, LOLER, COSHH, Deddf Diogelwch Bwyd

Hylendid personol: canllawiau iechyd a diogelwch a gofynion sefydliadol ar gyfer safonau personol glendid ac ymddangosiad yn y gwaith, sy’n hanfodol ar gyfer atal croes-halogiad wrth ymdrin â storio bwyd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL153

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Storio a Manwerthu, Galwedigaethau Storio Nwyddau Sylfaenol, Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

warws; storio; bwyd; diogelwch