Cynnal iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gweithrediadau logisteg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gweithrediadau logisteg trwy nodi a lleihau'r risg i'ch hunan ac i gydweithwyr. Mae'n cynnwys defnyddio Offer Amddiffynnol Personol a sut i ddilyn gweithdrefnau ar gyfer gwacáu cyfleusterau logisteg.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon llwythi ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dilyn rheoliadau a gweithdrefnau sefydliadol i gynnal iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gweithrediadau logisteg
- rhoi cymorth i gydweithwyr gynnal iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gweithrediadau logisteg
- defnyddio Offer Amddiffynnol Personol (PPE) yn unol â pholisi sefydliadol
- nodi a hysbysu cydweithwyr perthnasol ynghylch peryglon iechyd a diogelwch a materion diogeledd
- gweithredu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad er mwyn atal anafiadau, lladrad neu niwed, a rhoi blaenoriaeth i ddiogelu pobl cyn tasgau gweithredol
- ymateb i ddigwyddiadau sy'n effeithio ar iechyd, diogelwch a diogeledd, gan ddefnyddio'r offer diogelwch perthnasol tra'n dilyn gweithdrefnau diogelwch sefydliadol
- nodi adegau pan fydd angen gwacáu'r gweithle, gan ddefnyddio llwybrau dianc a mannau ymgynnull cymeradwy
- hysbysu'r cydweithwyr perthnasol ynghylch damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd a chadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- cydymffurfio â gweithdrefnau eich sefydliad a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gweithrediadau logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i gynnal iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gweithrediadau logisteg
- cyfrifoldebau cydweithwyr mewn perthynas â chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gweithrediadau logisteg
- y mathau o Offer Amddiffynnol Personol (PPE) y dylid eu defnyddio ar gyfer gweithrediadau logisteg, a sut i’w defnyddio’n gywir
- y mathau o faterion iechyd, diogelwch a diogeledd a allai ddigwydd yn y gweithle
- pa offer diogelwch a gweithdrefnau y dylid eu defnyddio ar gyfer y mathau gwahanol i ddigwyddiadau a allai ddigwydd
- gweithdrefnau damweiniau ac argyfwng y sefydliad, yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau unigol
- systemau larwm y sefydliad a’r gweithdrefnau ar gyfer cysylltu â’r gwasanaethau brys
- lleoliad llwybrau dianc cymeradwy a mannau ymgynnull sy’n berthnasol i’ch maes gwaith o fewn gweithrediadau logisteg
- eich cyfrifoldebau ar gyfer adrodd am argyfyngau a chadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr ar gyfer ymdrin â damweiniau ac argyfyngau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
*Cydweithwyr:* parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Dillad Amddiffynnol Personol (PPE): festiau llachar, esgidiau amddiffynnol, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch i'r llygaid, menig
*
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu:* rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiae
**Offer diogelwch:** cewyll, cadwyni, switshys torri, ynyswyr, arwyddion, PPE, rhodfeydd, larymau