Monitro cludo cyflenwadau
URN: SFL132
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol,Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro cludo cyflenwadau. Mae’n cynnwys cydgrynhoi a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â chludo cyflenwadau, darparu canlyniadau’r dadansoddiad, a gwneud argymhellion. Mae hefyd yn cynnwys nodi unrhyw broblemau yn ymwneud â chludo cyflenwadau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi sydd yn gweithio mewn swyddi prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth sydd yn gyfrifol am fonitro cyflenwadau. Gallai’r safon fod yn berthnasol ar gyfer y rheiny sy’n gofalu am nifer o staff ac â chyfrifoldeb rheolwr llinell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio’r wybodaeth berthnasol am y cyflenwadau sydd yn cael eu cludo
- cadarnhau’r wybodaeth am y mathau a’r dulliau cludo ar gyfer y cyflenwadau sydd yn cael eu cludo
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro cludo cyflenwadau
- monitro cludo cyflenwadau gan ddefnyddio’r systemau neu’r dyfeisiadau olrhain perthnasol
- cydgrynhoi a pharatoi data ar gludo cyflenwadau
- dadansoddi data ar gludo cyflenwadau
- darparu canlyniadau’r monitro a’r dadansoddi ar gyfer y cydweithwyr perthnasol
- gwneud argymhellion i wella cludo cyflenwadau
- cymryd y camau gofynnol i ddatrys unrhyw broblemau yn cludo cyflenwadau
- cysylltu â’r cydweithwyr neu bartner perthnasol y gadwyn gyflenwi, os na ellir datrys y problemau a nodir
- cyfathrebu gyda chydweithwyr a’r gadwyn gyflenwi trwy gydol y broses fonitro
- hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw oedi, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i oedi
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a’r gofynion gweithredu perthnasol yn ymwneud â monitro cludo cyflenwadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau gwybodaeth a’r dogfennau perthnasol ar gyfer y cyflenwadau sydd yn cael eu cludo a’r mathau a’r dulliau cludo
- y dulliau a’r gweithdrefnau cludo a ddefnyddir yn eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro cludo cyflenwadau
sut i fonitro cludo cyflenwadau gan ddefnyddio systemau olrhain a thracio
sut i gydgrynhoi a pharatoi data am fonitro cludo cyflenwadau
- sut i ddadansoddi monitro data ar gludo cyflenwadau
- sut i gyflwyno canlyniadau’r broses fonitro i gydweithwyr
- y ffynonellau gwybodaeth am brosesau’r gadwyn gyflenwi yn eich sefydliad
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gludo cyflenwadau a sut i ddatrys y rhain
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a’r gadwyn gyflenwi trwy gydol y broses fonitro, a sut gellir cyflawni hyn
- pwysigrwydd cyfathrebu unrhyw oedi i’r cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu gymaint o amser â phosibl i ymateb i’r problemau
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a’r gofynion gweithredu perthnasol yn ymwneud â monitro cludo cyflenwadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau cludo, arferion gwaith, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau’r diwydiant
Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu cyflwyno neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Trafnidiaeth: symud cyflenwadau neu adnoddau yn fewnol neu’n allanol yn eich sefydliad eich hun, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL132
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol
Cod SOC
1241
Geiriau Allweddol
monitro; trafnidiaeth; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi