Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid
URN: SFL12
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid.
Mae'r rôl yn cynnwys creu a chynnal bodlonrwydd cwsmeriaid a datblygu perthynas trwy gyfathrebu. Mae'n cynnwys deall cyfrinachedd busnes a chwsmeriaid, delwedd y sefydliad a therfynau eich awdurdod eich hun wrth gyfathrebu gyda chwsmeriaid.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai'r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, neu anfon llwythi ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrannu at ddatblygu perthynas gyda chwsmeriaid tra'n gweithio o fewn lefel eich cyfrifoldeb chi
- cynnal eich ymddangosiad personol, dillad arbennig, offer a'r ardal waith yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- cyfrannu at ddarparu cytundebau cwsmeriaid sy'n bodloni gofynion cwsmeriaid, sydd o fewn cyfyngiadau sefydliadol/gweithredol a therfynau eich awdurdod eich hun
- cyfrannu at ddarparu lefel y gwasanaeth cwsmeriaid sy'n ofynnol gan eich sefydliad
- cyfathrebu gyda chwsmeriaid mewn ffordd sydd yn cynnal perthynas waith effeithiol ac sy'n ennyn hyder ac ymddiriedaeth
- gwrando ar anghenion cwsmeriaid a rhoi'r wybodaeth iddynt am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu, gan ddilyn polisi a gweithdrefnau sefydliadol
- cyfeirio ceisiadau cwsmeriaid y tu hwnt i derfynau eich awdurdod at y cydweithwyr perthnasol yn eich sefydliad
- cyfrannu at gynnal cyfrinachedd busnes a chwsmeriaid bob amser
- cyfathrebu gyda chwsmeriaid ac ymdrin â chwynion o fewn terfynau eich cyfrifoldeb, yn cynnwys sefydlu natur cwyn am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol os na fydd y gwasanaeth a gytunwyd yn cael ei ddarparu i gwsmer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ymagwedd y sefydliad at ddatblygu a chynnal perthynas gyda chwsmeriaid
- pwysigrwydd cynnal eich ymddygiad personol fel cynrychiolydd eich sefydliad
- ystod a nodweddion y gwasanaethau sydd ar gael, a sut y mae'r rhain yn berthynasol i ofynion cwsmeriaid
- sut y mae cyfyngiadau gweithredol a therfynau eich awdurdod eich hun yn effeithio ar ddarparu'r gwasanaeth
- pwysigrwydd cyfathrebu clir, deall anghenion cwsmeriaid a goblygiadau peidio â chyfathrebu'n glir gyda chwsmeriaid
- pam y mae'n rhaid i wybodaeth am y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu fod yn glir a beth i'w wneud pan nad yw gwybodaeth i fodloni anghenion cwsmeriaid ar gael
- pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd sefydliadol a'r cwsmer bob amser
- pam y mae cofnodion cwsmeriaid yn bwysig, gyda pha gydweithwyr yn eich sefydliad y mae angen eu rhannu, a chanlyniadau posibl cadw cofnodion anghywir
- pwysigrwydd darparu'r lefel gywir o wasanaeth cwsmeriaid a chanlyniadau methu â gwneud hynny
- ymagwedd y sefydliad tuag at ddarparu gwybodaeth yn ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid
- y math o gais gan gwsmer y mae'n rhaid ei gyfeirio at gydweithwyr eraill a phwysigrwydd hysbysu cwsmeriaid ynghylch unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd
- yr ystod o gwsmeriaid yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws y tu allan ac o fewn y sefydliad
- gweithdrefn gwyno eich sefydliad a chanlyniadau peidio â dilyn y gweithdrefnau hyn
- pwysigrwydd bodloni amserlenni a gytunwyd gyda'r cwsmeriaid a'r camau i'w cymryd os byddwch yn methu bodloni'r amserlen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfathrebu: llafar, electronig, ysgrifenedig
* *
Cwsmer(iaid): mewnol ac allanol
* *
Dillad arbennig: Offer Amddiffynnol Personol (PPE), dillad amddiffynnol, dillad gwaith brand
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFL12
Galwedigaethau Perthnasol
Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Gweithredu a chynnal a chadw trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiol Trafnidiaeth, Rheolwyr Dosbarthu
Cod SOC
8239
Geiriau Allweddol
cwsmer; gwasanaeth; cwynion; cyfathrebu