Cyfrannu at lwyddiant y busnes gweithrediadau logisteg trwy eich gwaith

URN: SFL11
Sectorau Busnes (Suites): Cludwr,Gweithrediadau Logisteg,Swyddog Traffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at lwyddiant y busnes gweithrediadau logisteg trwy eich gwaith.  Mae’n cynnwys deall nodau a gweithdrefnau’r sefydliad er mwyn gwneud cyfraniad i’r busnes trwy weithgareddau eich gwaith. Mae’n cynnwys nodi targedau, gofynion a chyfrifoldebau unigol a grŵp. Mae’n ymwneud â chynorthwyo cydweithwyr a gwybod sut i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau logisteg. Mae’n ei wneud yn ofynnol i unigolion ystyried sut gallant wella eu perfformiad eu hunain.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon cludiant ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau tasgau, blaenoriaethau a chyfrifoldebau gyda chydweithwyr a/neu’r person sy’n eu gosod
  2. cyfrannu at lwyddiant y busnes gweithrediadau logisteg trwy gyflawni eich gwaith mewn ffyrdd sydd yn cyd-fynd â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. cynnal eich ymddangosiad personol, dillad arbennig, cyfarpar a’r ardal waith yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. adrodd wrth y person perthnasol pan fydd amgylchiadau yn eich atal rhag cyflawni blaenoriaethau gwaith, gweithgareddau a chyfrifoldebau
  5. nodi eich meysydd eich hun ar gyfer gwella yn sgil adborth a’r tîm rheoli’n arsylwi eich perfformiad

  6. ceisio cyfleoedd i fodloni’r meysydd hyn ar gyfer gwella er mwyn cyfrannu at lwyddiant y busnes gweithrediadau logisteg

  7. cynnig cymorth i gydweithwyr sy’n berthnasol i’w blaenoriaethau ac yn cyd-fynd â bodloni eich cyfrifoldebau eich hun
  8. nodi a datrys camddealltwriaeth a gwrthdaro sydd yn niweidiol i berthnasoedd gwaith a llwyddiant busnes
  9. ymdrin â cheisiadau gan eraill sydd yn dod o fewn eich cyfrifoldeb
  10. cyfathrebu gyda phobl eraill mewn ffordd sy’n cyfrannu at lwyddiant y busnes gweithrediadau logisteg
  11. gofyn i gydweithwyr am wybodaeth a chymorth i’ch helpu i ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  12. cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, rheoliadol, iechyd a diogelwch a gweithredu perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd rôl a chyfrifoldebau eich gwaith chi a sut mae’r rhain yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y busnes gweithrediadau logisteg

  2. gofynion ansawdd a chynnyrch eich rôl a’ch cyfrifoldebau eich hun a rhai eich cydweithwyr

  3. y gofynion ar gyfer dillad arbennig, safonau ymddygiad a dulliau ar gyfer cynnal eich cyfarpar a’ch ardal waith
  4. yr amgylchiadau a allai eich atal rhag bodloni gweithgareddau a blaenoriaethau eich gwaith a pha gamau i’w cymryd pan fyddant yn digwydd
  5. pwysigrwydd adborth yn gwella perfformiad gwaith personol
  6. sut i nodi eich anghenion dysgu eich hun a meysydd ar gyfer gwella i gyfrannu at lwyddiant y busnes gweithrediadau logisteg
  7. y mathau o gyfleoedd ar gyfer dysgu sydd ar gael a sut i ddewis y rhai sy’n berthnasol i chi
  8. sut i wybod pan fydd angen cefnogaeth a chymorth ar gydweithwyr
  9. pwysigrwydd cefnogi cydweithwyr a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i gynhyrchiant a llwyddiant busnes
  10. pwysigrwydd cydnabod anawsterau a chamddealltwriaeth a ffyrdd o unioni materion sy’n niweidiol i berthnasoedd gwaith a llwyddiant busnes

  11. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad

  12. sut i wneud ac ymateb i geisiadau am gymorth, yn cynnwys sut i ymateb pan na fyddwch yn gallu gweithredu ar geisiadau
  13. gweithdrefnau’r sefydliad a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, iechyd a diogelwch, rheoliadol a gweithredu perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cyfathrebu: llafar, electronig, ysgrifenedig

Dillad arbennig: Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), dillad amddiffynnol, dillad gwaith brand


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

4134

Geiriau Allweddol

cyfathrebu; cymorth; busnes