Gweithredu systemau teleffoni a chyfrifiadurol ar gyfer gwasanaethau brys

URN: SFJZH13
Sectorau Busnes (Suites): Cyfiawnder Cymunedol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 29 Mai 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu'r systemau teleffoni a chyfrifiadurol perthnasol sy'n cael eu defnyddio mewn gwasanaethau brys.

Mae'n ymwneud â deall a gallu llywio'r systemau hyn yn gymwys.  Hefyd, mae'r safon hon yn ymwneud â phwysigrwydd storio gwybodaeth yn ddiogel a dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol a gweithdrefnau'r sefydliad wrth gofnodi gwybodaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cael mynediad i systemau pwrpasol gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair diogel i gael at swyddogaethau sy'n briodol i'ch rôl
  2. Llywio systemau teleffoni a chyfrifiadurol priodol wrth ateb galwadau, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
  3. Gweithredu systemau teleffoni a chyfrifiadurol yn gymwys er mwyn delio â galwadau, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol, a gweithdrefnau'r sefydliad
  4. Defnyddio swyddogaethau arbenigol y system deleffoni neu gyfrifiadurol er mwyn mynd i'r afael ag anghenion galwyr
  5. Cyfeirio unrhyw broblemau â systemau neu ymholiadau at yr unigolyn neu'r adran berthnasol, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. Ceisio cymorth gan yr unigolyn neu'r adran berthnasol i ddatrys unrhyw broblemau gyda'r system. 
  7. Gweithredu nodweddion a swyddogaethau diogelwch systemau teleffoni a chyfrifiadurol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  8. Recordio rhyngweithiadau â galwyr yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
  9. Storio recordiadau o ryngweithiadau â galwyr yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, a gofynion y sefydliad
  10. Rhannu gwybodaeth dim ond gyda'r bobl y mae angen y wybodaeth arnynt ac sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a'r gweithgareddau a wneir
  2. Y canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid mynd atynt
  3. Cylch gwaith eich rôl ac ymwybyddiaeth o bryd i uwchgyfeirio a gweithdrefnau uwchgyfeirio
  4. Y systemau teleffoni a chyfrifiadurol sydd ar gael i'w defnyddio yn eich sefydliad
  5. Sut i gael at a mewngofnodi i systemau teleffoni a chyfrifiadurol sy'n berthnasol i'ch sefydliad, a sut i'w gweithredu
  6. Sut i osod cyfrineiriau i sicrhau cyfrinachedd gwybodaeth
  7. Sut i ddiogelu gwybodaeth ar systemau cyfrifiadurol
  8. Y nodweddion a'r rheolyddion sydd ar gael i chi o fewn cylch gwaith eich rôl a'r sefydliad
  9. Y swyddogaethau arbenigol y mae eu hangen i lywio systemau teleffoni a chyfrifiadurol yn eich sefydliad
  10. Sut i gyfathrebu â galwyr gan ddefnyddio systemau teleffoni a chyfrifiadurol
  11. Polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer delio â galwadau ffug a niwsans
  12. Gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer delio â systemau teleffoni a chyfrifiadurol pan nad ydynt yn gweithredu yn ôl y disgwyl
  13. Ble i gyfeirio ymholiadau am help gyda phroblemau â system deleffoni a chyfrifiadurol
  14. Sut i weithredu nodweddion diogelwch o fewn systemau teleffoni a chyfrifiadurol
  15. Gofynion a gweithdrefnau cyfreithiol, rheoleiddiol, a rhai'r sefydliad ar gyfer cofnodi, storio ac adalw cofnodion
  16. Sut i storio ac adalw rhyngweithiadau gyda galwyr
  17. Yr ystod o wybodaeth y dylid ei chofnodi a'i storio yn dilyn galwadau
  18. Sut i sicrhau bod nodiadau clir, heb jargon, yn cael eu gadael ar systemau cyfrifiadurol o ryngweithiadau â galwyr
  19. Ymha amgylchiadau y gellir mynd at y rhyngweithiadau â galwyr, a phwy sydd â'r awdurdod i wneud hynny, a'u rhannu. 
  20. Diben ymarfer myfyriol a gwerthuso a sut mae'n llywio'ch ymarfer
  21. Gofynion y sector a chanllawiau arfer da ar gyfer datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Mai 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJZH13

Galwedigaethau Perthnasol

Y sector cyfiawnder a chymunedau mwy diogel

Cod SOC

7213

Geiriau Allweddol

Galwad; cyfrifiadurol; teleffoni; diogelu data; cyfrinachedd; perthynas; systemau; swyddogaethau; ymholiadau; gweithredu; llywio; arbenigol; diogelwch data