Sefydlu gofynion am fesurau arbennig yn y llys
URN: SFJWCDE8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phennu a yw amgylchiadau’r achos yn gofyn am wneud trefniadau arbennig i’r unigolyn yn y llys. Lle y nodir amgylchiadau o’r fath, mae’n cynnwys gwneud y trefniadau priodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu amgylchiadau’r achos a gofynion yr unigolion am gymorth, a gwerthuso cymhwysedd posibl unigolion am fesurau arbennig wrth fynd i’r llys
- nodi lle y gellir cyfiawnhau mesurau arbennig, ac archwilio a fyddai’n well gan unigolion fesurau o’r fath gyda nhw
- esbonio’r mesur(au) arbennig a all fod ar gael, a’u goblygiadau i unigolion
- esbonio’r manteision, ac unrhyw anfanteision, i unigolion ynghylch y mesura(au) arbennig o ran bodloni eu gofynion
- esbonio’r mesurau mewn modd ac ar gyflymder sy’n annog dealltwriaeth i unigolion
- trafod a chytuno gydag unigolion ar eu dealltwriaeth o’r mesurau arbennig a rhoi eglurhad, lle bo angen
- esbonio’r broses a’r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau mesurau arbennig
- cofnodi’r holl wybodaeth a ddarperir yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad a deddfwriaeth berthnasol
- darparu gwybodaeth gywir a pherthnasol, gan amlinellu’r amgylchiadau a’r rhesymeg ategol dros ddarparu’r mesur(au) arbennig a nodwyd
- adolygu’r achos gydag unigolion, gan gadarnhau eu hangen am gymorth, yr hyn sy’n well ganddynt, ac y byddai’n effeithiol darparu’r mesur(au) arbennig perthnasol
- mynd i’r afael ag ymholiadau perthnasol yn brydlon ac yn gywir
- cofnodi’r cytundeb y dewch iddo yn gywir, a’r camau gweithredu canlyniadol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- rhoi gwybod i bob parti perthnasol, gan gynnwys unigolion, am y canlyniad yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- esbonio’r rhesymeg i unigolion mewn modd adeiladol a phroffesiynol, pan fydd y cais am fesurau arbennig wedi cael ei wrthod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- sut i ddelio â thystion a phobl berthnasol eraill yn foesegol
- hawliau a rolau unigolion a thystion, a’r gweithdrefnau y byddant yn ymwneud â nhw o fewn y system cyfiawnder troseddol
- yr ystod o fesurau arbennig sydd ar gael a’u manteision a’u hanfanteision cymharol i unigolion ac i’r broses gyfreithiol
- ffactorau sy’n effeithio ar gymhwysedd unigolion am fesurau arbennig
- sut i bennu categori unigolion a sut bydd hyn yn dylanwadu ar eich dull
- sut i asesu cyflwr corfforol ac emosiynol unigolion er mwyn sefydlu eu hanghenion wrth dystio yn y llys
- y camau i’w cymryd pan fydd gennych bryderon am briodoldeb unigolion i dystio
- y gweithdrefnau ar gyfer trefnu mesurau arbennig mewn llysoedd
- beth i’w wneud pan fydd angen gwneud pethau’n wahanol i arferion arferol
- sut i gynnal diogelwch a lles unigolion
- y ffyrdd cywir o roi gwybod i unigolion a phobl berthnasol eraill am eu rolau a’r gweithdrefnau y byddant yn ymwneud â nhw yn y system cyfiawnder troseddol
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- sut i fynd i’r afael yn gywir ac yn foesegol ag amharodrwydd unigolion i roi tystiolaeth neu eu hofn gwneud hynny
- yr asiantaethau a’r trydydd partïon sydd ar gael i ddarparu cymorth a sut i gychwyn eu hymglymiad
- sut i roi diweddariad i bobl berthnasol eraill a’r wybodaeth y bydd arnynt ei hangen
- gofynion presennol am ddogfennaeth a sut i lenwi dogfennau’n gywir
- pa wybodaeth sy’n gyfrinachol a sut i sicrhau ei bod ar gael dim ond i’r rhai sydd ag awdurdod i gael ati
- sut i gofnodi gwybodaeth yn gywir, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Justice
URN gwreiddiol
SFJDE8
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig
Cod SOC
3229
Geiriau Allweddol
amgylchiadau, nodi, trefniadau, asesu anghenion; tyst; cymorth; cyfiawnder troseddol; llys; mesurau arbennig;