Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol a thechnegol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd
URN: SFJPG1
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n darparu cyngor ac arweiniad arbenigol a thechnegol i bobl eraill ar faterion technegol yn gysylltiedig â gwaith, yn unol â gofynion a gweithdrefnau sefydliadol. Bydd disgwyl i chi ddarparu cyngor ac arweiniad technegol arbenigol i bobl eraill a allai fod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac i gydweithwyr a rhanddeiliaid. Bydd gofyn i chi nodi cyfleoedd addas ar gyfer cynnig cyngor ac arweiniad technegol arbenigol ac adolygu eich dulliau'n rheolaidd, er mwyn i chi allu addasu'ch dull pan fydd angen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal eich gwybodaeth a’ch cymhwysedd o ran llysoedd a thribiwnlysoedd
2. bod yn ymwybodol o’r ffynonellau gwybodaeth ac arweiniad sydd ar gael
3. dadansoddi a dehongli ffynonellau gwybodaeth ac arweiniad
4. cyflwyno gwybodaeth ac arweiniad i bobl eraill
5. cynnal asesiad risg i nodi atebion
6. defnyddio’r adnoddau, yr arweiniad polisi a’r ddeddfwriaeth briodol i ddatrys problemau wrth iddynt godi
7. rhagweld problemau, a chymryd camau priodol i ddelio â nhw, yn unol â gofynion sefydliadol
8. rhoi gwybodaeth ddilys a chyfoes, cyngor ac arweiniad arbenigol a thechnegol i gydweithwyr a rhanddeiliaid, yn unol â’u hanghenion a’u gofynion sefydliadol
9. cadarnhau bod y wybodaeth a dderbynnir yn bodloni anghenion yr unigolion
10. cyfeirio unigolion at ffynonellau gwybodaeth a chyngor eraill pan fydd angen
11. ymchwilio i gŵynion, yn unol â gofynion sefydliadol
12. ymateb i gŵynion, yn unol â gofynion sefydliadol
13. cymryd camau i ddatrys neu fynd i’r afael â chwynion, yn unol â gofynion sefydliadol
14. dewis y dull cyfathrebu priodol wrth ddarparu cyngor arbenigol a thechnegol
15. hyfforddi cydweithwyr a darparu cymorth i’w helpu i gynnal eu gwybodaeth a’u cymhwysedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich rôl, eich cyfrifoldebau a’ch cymhwysedd, ac i bwy i ofyn am gymorth a chyngor pan fydd angen
2. deddfwriaeth, arweiniad a gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i rôl y swydd
3. amrywiaeth y wybodaeth a sut i ddarparu gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau
4. sut i ddehongli gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau y gellir ei defnyddio wrth roi cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol
5. sut i nodi cyfleoedd ar gyfer rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol
6. sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer darparu cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol
7. sut i sicrhau bod gwybodaeth yn gyfoes, yn ddilys ac yn ddibynadwy
8. sut i rannu eich gwybodaeth a’ch profiad gyda phobl eraill
9. y technegau y gellir eu defnyddio ar gyfer darparu neu gyflwyno cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol
10. pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd a sut i wneud hyn
11. systemau a gweithdrefnau cwyno
12. dulliau cyfathrebu a sut i’w haddasu i fodloni anghenion unigol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJPG1
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Llysoedd
Cod SOC
4161
Geiriau Allweddol
Cyngor arbenigol, amgylchedd llys, technegau cyngor ac arweiniad