Cynnal yr ardoll

URN: SFJOD6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Darparu Gweithredol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Lluniwyd y safon hon i sicrhau bod unigolion yn cynnal proses yr ardoll yn effeithiol, trwy gadarnhau manylion y cwsmer a'r nwyddau sydd i'w hatafaelu.

Bydd angen i chi gydymffurfio â safonau ymddygiad a gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad wrth ddelio gyda chwsmeriaid sy'n cydweithredu a rhai sy'n gwrthod cydweithredu. Mae angen i chi wneud penderfyniadau o ran gorfodi'r ardoll a dod â chamau ardoll i ben.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​​1 cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
2 cymhwyso'r mesurau diogeledd gofynnol, diogelu data, rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ar draws eich dyletswyddau gwaith eich hun, gan gynnwys safonau:
2.1 cyfathrebu
2.2 gwasanaeth cwsmeriaid
3 cwblhau gwiriadau diogeledd gyda chwsmeriaid, yn unol â rheoliadau diogelu data a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys:
3.1 prawf adnabod
3.2 safleoedd
4 cadarnhau'r nwyddau sydd i'w hatafaelu gyda chwsmeriaid, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
5 gwirio perchnogaeth y nwyddau sydd i'w hatafaelu gyda chwsmeriaid, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
6 esbonio hawliau cwsmeriaid, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol, gan gynnwys:
6.1 gwirio eu dealltwriaeth o'r hawliau hyn
7 gwirio bod cwsmeriaid yn ymwybodol o'r camau sydd i'w cymryd yn dilyn yr ardoll, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
8 trafod yr ardoll gyda chwsmeriaid, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys:
8.1 sancsiynau sydd i'w cyflwyno
8.2 cosbau sydd i'w cyflwyno
9 delio gyda chwsmeriaid sy'n gwrthod cydweithredu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
10 nodi asedau symudol y mae perygl i'r dyledwr eu symud, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
11 cymryd camau i sicrhau asedau symudol y mae perygl i'r dyledwr eu symud, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
12 monitro marchnadoedd o ran y cyfleoedd gorau i werthu asedau symudol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
13 adolygu cost-effeithiolrwydd optimwm y broses o sylweddu asedau oddi mewn i derfynau amser sefydliadol
14 cofnodi'r camau gweithredu a gymerwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
15 adrodd am achosion lle mae diffyg cydymffurfio'n parhau oddi mewn i amserlen sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal ardollau
2 y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau cyfredol ar gyfer cynnal ardollau, gan gynnwys:
2.1 rheoliadau iechyd a diogelwch
2.2 rheoliadau diogeledd
2.3 rheoliadau diogelu data
3 y broses ardoll
4 y gofynion cyfreithiol yng nghyswllt y broses ardoll
5 terfynau eich awdurdod eich hun
6 yr awdurdodau cyfreithiol sy'n ymwneud â gorfodi
7 pryd a sut mae cyflwyno hysbysiadau cosb ac ataliad
8 yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer yr ymweliad, ac unrhyw gyfyngiadau sydd ynghlwm wrthynt
9 technegau cyfweld
10 yr wybodaeth a'r fformat sy'n angenrheidiol ar gyfer adroddiadau
11 gofynion siarter cwsmeriaid eich sefydliad
12 pwysigrwydd addysgu'r cwsmer
13 technegau ar gyfer delio gyda chwsmeriaid sy'n gwrthod cydweithredu
14 amgylchiadau pryd y dylid tynnu nôl o'r ardoll
15 gweithdrefnau taliadau cwsmeriaid
16 gweithdrefnau unrhyw drydydd partïon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Llywodraeth

URN gwreiddiol

O22N6.5.15

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion gweithredol y Gwasanaeth Sifil, Swyddogion a chynorthwywyr gweinyddol y Gwasanaeth Sifil

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ardoll; proses; gorfodi; tynnu'n ôl; gweithredu; cydweithredol; cwsmeriaid; anghydweithredol; nwyddau; asedau; gweithredol; darparu;