Cefnogi cyflogwyr i ymgysylltu â gwasanaethau cysylltiedig â swyddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio gwahanol ddulliau marchnata er mwyn sicrhau ymrwymiad cyflogwyr.
Bydd angen i chi gytuno ar amcanion a lefelau gwasanaeth gyda'r cyflogwr; defnyddio'r cyfrwng ymgyrchu i ddenu'r ymgeiswyr mwyaf addas; sicrhau bod swyddi gwag a chynigion yn cael eu diweddaru'n gyson, a bod cyflogwyr ac ymgeiswyr hefyd yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill bob amser, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
2 cymhwyso'r mesurau diogelu gofynnol, diogelu data, rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ar draws eich dyletswyddau gwaith eich hun
3 sicrhau ymrwymiad cyflogwyr i'r ymgyrch gysylltiedig â swyddi, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol
4 cytuno gyda chyflogwyr ar lefel y chwynnu ceisiadau sydd i ddigwydd trwy law pob parti, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
5 datblygu cynllun swyddi gwag sy'n cyflawni amcanion cyflogwyr, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol
6 cytuno ar y cynllun swyddi gwag gyda'r holl bartïon, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
7 dewis y cyfrwng ymgyrchu angenrheidiol i ddenu ymgeiswyr addas, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
8 gwirio bod swyddi gwag yn cael eu prosesu o fewn y terfynau amser a nodwyd yn y cynllun swyddi gwag
9 darparu adborth i ymgeiswyr i wella ansawdd cyflwyniadau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol
10 rhoi diweddariad i gyflogwyr ynghylch cynnydd ar adegau y cytunwyd arnynt, yn unol â'r cynllun swyddi gwag, gan gynnwys:
10.1 datblygiadau
10.2 materion
11 gwirio bod gwybodaeth am newidiadau i swyddi gwag a'u canslo yn cael ei diweddaru oddi mewn i'r terfynau amser sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig â swyddi
2 deddfwriaeth a rheoliadau ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig â swyddi, gan gynnwys:
2.1 rheoliadau iechyd a diogelwch
2.2 rheoliadau diogeledd
2.3 rheoliadau diogelu data
2.4 gofynion deddfwriaethol
3 sut mae sicrhau ymrwymiad cyflogwyr
4 nodweddion y farchnad lafur leol
5 technegau dylanwadu a chyd-drafod
6 sut mae rhoi gwybodaeth a chyngor sy'n glir ac yn gywir
7 y meini prawf dethol ar gyfer swyddi gwag
8 sut mae llunio cynllun swyddi gwag manwl
9 cryfderau a gwendidau y gwahanol gyfryngau ymgyrchu
10 yr adnoddau sydd ar gael ac unrhyw gyfyngiadau sydd ynghlwm wrthynt