Ymchwilio i achosion lle'r amheuir bod diffyg cydymffurfio

URN: SFJOD2
Sectorau Busnes (Suites): Darparu Gweithredol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Tach 2004

Trosolwg

​​

Mae'r safon hon yn ymwneud â chadarnhau natur diffyg cydymffurfio a lefel euogrwydd cyn gwneud defnydd effeithiol o bwerau sefydliadol i gynnal ymchwiliadau mewn achosion cymhleth a ddiffiniwyd. 

Dylech nodi ac adrodd am feysydd eraill lle'r amheuir bod diffyg cydymffurfio, a amlygwyd gan eich ymchwiliad, a monitro cynnydd yr ymyrraeth, gan gyfeirio at eraill yn ôl y galw, ac adrodd ar ganlyniad yr ymchwiliad a'i fesur.

Bydd angen i chi roi ystyriaeth i ystod o ffactorau a goblygiadau wrth gynnal eich ymchwiliadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1 cynnal eich diogelwch eich hun ac eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
2 cymhwyso'r mesurau diogeledd gofynnol, diogelu data, rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ar draws eich dyletswyddau gwaith eich hun
3 gwirio bod y dystiolaeth a ddarparwyd yn gywir ac yn gyflawn, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
4 cadarnhau natur y diffyg cydymffurfio, yn unol â'r rheoliadau cymwys
5 cofnodi lefel cyfrifoldeb yr unigolyn, yn unol â rheoliadau a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
6 datblygu cynllun ymchwilio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
7 cynnal ymchwiliad i'r achos a amheuir o ddiffyg cydymffurfio, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
8 adrodd am feysydd eraill lle'r amheuir bod diffyg cydymffurfio, a ddarganfuwyd yn sgîl yr ymchwiliad, oddi mewn i derfynau amser sefydliadol
9 dewis yr ymyrraeth sy'n ofynnol i ymateb i'r diffyg cydymffurfio, yn unol â phwerau a gweithdrefnau'r sefydliad
10 monitro cynnydd yr ymyrraeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
11 diweddaru'r cynllun ymchwilio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau diogeledd a diogelu data, gan gynnwys:
11.1 ail-ddyrannu adnoddau mewn ymateb i amgylchiadau newidiol
12 cyfeirio materion achosion sydd y tu hwnt i'ch lefel eich hun o awdurdod at y bobl gymwys, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
13 cofnodi natur a chanlyniadau'r ymchwiliad, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a diogelu data
14 adrodd am ganlyniadau'r ymchwiliad, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys:
14.1 dilysu casgliadau
14.2 cyflwyno argymhellion
15 cyfleu canfyddiadau a'r gwersi a ddysgwyd i bobl eraill berthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol a chyfrinachedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymchwilio i achosion o ddiffyg cydymffurfio
2 deddfwriaeth a rheoliadau sy'n ymwneud ag ymchwilio i ddiffyg cydymffurfio, gan gynnwys:
2.1 rheoliadau iechyd a diogelwch
2.2 rheoliadau diogeledd
2.3 rheoliadau diogelu data
2.4 codau ymarfer
3 pwysigrwydd cymhwyso gweithdrefnau a rheoliadau i'ch rôl eich hun
4 y gwahaniaethau rhwng cydymffurfiaeth a diffyg cydymffurfiaeth
5 terfynau eich awdurdod a'ch pwerau eich hun
6 sut mae cyfeirio materion y tu hwnt i'ch awdurdod eich hun
7 yr effeithiau ar enw da'r sefydliad os caiff ymchwiliad ei gwestiynu
8 sut mae cyrchu a defnyddio cynseiliau o achosion eraill tebyg
9 cyfyngiadau sy'n berthnasol i ledaenu a datgelu gwybodaeth
10 cryfderau ac arbenigeddau cydweithwyr
11 sut mae dilysu gwybodaeth
12 technegau cyfweld
13 sut mae dehongli a dadansoddi gwybodaeth
14 yr adnoddau sydd ar gael a beth sy'n creu gwerth am arian
15 pwy yw'r rhanddeiliaid a beth yw eu hanghenion
16 goblygiadau'r camau gweithredu a gyflawnwyd
17 unrhyw gyfyngiadau o ran y terfynau amser
18 sut mae cofnodi data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Llywodraeth

URN gwreiddiol

O22N6.15.2

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion gweithredol y Gwasanaeth Sifil, Swyddogion a chynorthwywyr gweinyddol y Gwasanaeth Sifil

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cymhlethdod; cymhleth; goblygiadau; cydymffurfio; diffyg cydymffurfio; euogrwydd; monitro; cynnydd; adrodd; mesur; gwersi; dysgwyd; gweithredol; darparu; amheus; amheuir; rheoliadau; ymyrraeth