Ymdrin â bylchau yn yr wybodaeth a ddarparwyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwirio am unrhyw fylchau, gwallau ac anghysondebau yn yr wybodaeth a ddarparwyd. Mae'n cynnwys cymryd perchnogaeth ar faterion a nodwyd i geisio datrysiadau. Gall hyn ddigwydd trwy gasglu mwy o wybodaeth ac eglurhad, neu trwy gyfeirio'r mater i fod yn destun ymchwiliad pellach.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bawb sy'n casglu, yn derbyn, yn dilysu ac yn prosesu gwybodaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 cymhwyso'r mesurau diogeledd gofynnol, diogelu data, rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ar draws eich dyletswyddau gwaith eich hun
2 gwirio bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn gywir ac yn gyflawn, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
3 cofnodi unrhyw fylchau yn yr wybodaeth a ddarparwyd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gan gynnwys:
3.1 gwallau
3.2 anghysondebau
4 cymryd camau i ymateb i fylchau, gwallau neu anghysondebau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
5 rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr yn unol â rheoliadau diogelu data
6 amlygu achosion a allai fod yn enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio i'r bobl berthnasol, oddi mewn i'r terfynau amser sefydliadol
7 cyfeirio achosion o ddiffyg cydymffurfio i fod yn destun ymchwiliad gan yr awdurdod perthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
8 prosesu achosion oddi mewn i derfynau amser sefydliadol
9 cofnodi'r camau gweithredu a gymerwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 polisïau sefydliadol a pholisïau a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â gwybodaeth
2 deddfwriaeth a rheoliadau ar gyfer ymdrin â gwybodaeth, gan gynnwys:
2.1 rheoliadau iechyd a diogelwch
2.2 rheoliadau diogeledd
2.3 rheoliadau diogelu data
3 sut mae canfod bylchau, gwallau ac anghysondebau yn yr wybodaeth a ddarparwyd
4 y camau gweithredu sydd i'w cymryd i ymateb i fylchau, gwallau ac anghysondebau yn yr wybodaeth
5 pwysigrwydd cymryd perchnogaeth ar fater
6 ffactorau sy'n arwyddion o ddiffyg cydymffurfio gwirioneddol neu bosibl
7 awdurdodau sy'n medru cynnal ymchwiliad pellach i ddiffyg cydymffurfio
8 pryd a sut dylid cyfeirio achosion ar gyfer ymchwiliad gan arbenigwr
9 sut gall eich ymddygiad eich hun effeithio ar enw da'r sefydliad
10 sut mae cyfathrebu mewn modd sy'n sicrhau bod y rhai sy'n darparu gwybodaeth yn deall yr angen am ddarparu gwybodaeth a phwysigrwydd gwneud hynny
11 pwysigrwydd prosesu achosion oddi mewn i'r terfynau amser