Cynnwys, symbylu a chadw gwirfoddolwyr

URN: SFJHK5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda gwirfoddolwyr i ganolbwyntio ar natur eich perthynas â gwirfoddolwyr. O’r adeg cyn eu bod yn ymrwymo i wirfoddoli, trwy gydol eu hamser gyda’ch sefydliad, a’r tu hwnt i derfyn eu cytundeb gwirfoddoli ffurfiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio dulliau cytunedig i nodi:
    • y mathau o bobl a all ddymuno gwirfoddoli
    • ffyrdd o gael at ddarpar wirfoddolwyr
    • y symbyliadau allweddol sydd gan bobl dros ddymuno i wirfoddoli
  2. defnyddio dulliau cyfathrebu cost effeithiol ac amser effeithiol priodol i gael at grwpiau o ddarpar wirfoddolwyr
  3. helpu darpar wirfoddolwyr i ddeall:
    • pwysigrwydd gwirfoddoli i fodloni nodau eich sefydliad
    • sut gall pobl â galluoedd, arddulliau a symbyliadau amrywiol wneud cyfraniadau gwerthfawr fel gwirfoddolwyr
    • y cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli a beth sydd ynghlwm
    • yr ymrwymiad y mae angen iddynt ei wneud fel gwirfoddolwyr
    • buddion posibl gwirfoddoli a sut gall gwirfoddoli fodloni eu hanghenion a’u disgwyliadau
  4. darparu tystiolaeth ffeithiol er mwyn dangos sut mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu ac elwa’n bersonol yn y gorffennol
  5. darparu cyfleoedd i bobl archwilio cyfleoedd i wirfoddoli ac ymrwymo i ddod yn wirfoddolwr
  6. cyfeirio pobl at sefydliadau gwirfoddoli eraill, lle bo hynny’n briodol
  7. gwerthuso a dadansoddi’r ymateb i’ch gweithgareddau hyrwyddo
  8. helpu gwirfoddolwyr i ddod o hyd i leoliadau sydd:
    • yn bodloni eu hanghenion a’u disgwyliadau sy’n esblygu
    • yn caniatáu iddynt gyfrannu eu profiad, eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u cymhwysedd mewn ffyrdd pendant at gyflawni nodau eich sefydliad
  9. darparu digon o gymorth a goruchwyliaeth i ganiatáu i wirfoddolwyr gyflawni eu rôl a’u tasgau yn effeithiol ac yn ddiogel
  10. darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr fyfyrio ar eu profiad o wirfoddoli a mynegi’r profiad hwn
  11. darparu adborth rheolaidd, cywir a chytbwys i wirfoddolwyr am eu cyfraniadau unigol a chyfunol, a’u gwerth i’ch sefydliad
  12. annog gwirfoddolwyr i ymestyn eu rolau o fewn cyfyngiadau eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u cymhwysedd
  13. cadarnhau bod gwirfoddolwyr yn deall beth mae angen iddynt ei wneud os ydynt yn dymuno newid eu rôl a’u cyfraniad at eich sefydliad
  14. gwahodd gwirfoddolwyr i drafod eu cyfraniad at eich sefydliad, pryd bynnag y bydd arwyddion nad yw eu rôl bresennol yn briodol mwyach
  15. gwirio bod gwirfoddolwyr yn dychwelyd holl eiddo eich sefydliad pan ddaw eu cytundeb i derfyn
  16. rhoi gwybod i bobl berthnasol am y rhesymau pam mae gwirfoddolwyr yn dod a’u cytundebau i derfyn a sut gallai profiad gwirfoddoli gyda’ch sefydliad gael ei wella
  17. cofnodi gwybodaeth yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. sut i adnabod y mathau o bobl a all ddymuno gwirfoddoli eu gwasanaethau
  4. dulliau o adnabod symbyliadau pobl a sut i ddewis a defnyddio dulliau priodol
  5. egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i’w cymhwyso
  6. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion unigolion
  7. gwerth amrywiaeth o alluoedd, arddulliau a symbyliadau ymhlith gwirfoddolwyr a sut i feithrin amrywiaeth o’r fath
  8. pwysigrwydd cadw cofnodion clir a chywir a sut i wneud hynny
  9. egwyddor cyfrinachedd a pha wybodaeth all gael ei darparu i bwy
  10. egwyddorion sylfaenol symbyliad a sut maent yn berthnasol i’ch gwaith
  11. sut i helpu pobl i fynegi eu symbyliadau a deall sut gall gwirfoddoli fodloni eu hanghenion a’u disgwyliadau sy’n esblygu
  12. pwysigrwydd annog gwirfoddolwyr i ymestyn eu rolau gwirfoddoli a sut i wneud hynny
  13. pwysigrwydd cael adborth gwybodus gan bobl a sut i wneud hynny
  14. gweithgareddau ehangach eich sefydliad, y gallai gwirfoddolwyr gymryd rhan ynddynt
  15. y mathau o berthynas bosibl sydd gan wirfoddolwyr gyda’ch sefydliad ar ôl i’w cytundeb ddod i derfyn
  16. aelodau eich sefydliad y mae angen iddynt wybod am y rhesymau pam mae gwirfoddolwyr yn dymuno dod â’u cytundebau i derfyn a sut gall y profiad gwirfoddoli gael ei wella
  17. pwysigrwydd sicrhau bod dulliau cyfathrebu yn gost effeithiol ac yn amser effeithiol a sut i wneud hynny
  18. y lefelau cymorth a goruchwyliaeth gwahanol y mae ar wirfoddolwyr eu hangen, sut i asesu’r lefelau hyn a darparu cymorth priodol
  19. y cymorth y gall gwirfoddolwyr ei ddarparu i wirfoddolwyr a staff eraill a sut i’w hannog i ddarparu’r cymorth hwn
  20. pwysigrwydd adolygu cyfraniad gwirfoddolwyr yn rheolaidd gyda gwirfoddolwyr a sut i wneud hynny
  21. yr amrywiaeth o arwyddion nad yw rôl bresennol gwirfoddolwr yn briodol mwyach a sut i adnabod y rhain
  22. pwysigrwydd gwirfoddoli i fodloni nodau eich sefydliad
  23. yr amrywiaeth o rolau y gall gwirfoddolwyr eu cyflawni a ffyrdd y gallant gyfrannu at nodau’r sefydliad
  24. yr ystod o alluoedd, arddulliau a symbyliadau sydd gan wirfoddolwyr a sut mae’r rhain yn effeithio ar y mathau o rolau a gweithgareddau y maent yn eu cyflawni
  25. y cyfleoedd i wirfoddoli sydd ar gael yn eich sefydliad
  26. y buddiant a gaiff gwirfoddolwyr o wirfoddoli
  27. y math o ymrwymiad y mae angen i wirfoddolwyr ei wneud
  28. cyfleoedd i bobl ymrwymo i ddod yn wirfoddolwr
  29. sefydliadau gwirfoddoli eraill y gall fod yn briodol cyfeirio gwirfoddolwyr atynt
  30. manylion am rolau gwirfoddol penodol y mae angen i wirfoddolwyr wybod amdanynt
  31. pwysigrwydd dod â chytundebau gyda gwirfoddolwyr i derfyn mewn ffyrdd sy’n gadael siawns am gyfleoedd yn y dyfodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

UKWH B2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Eiriolydd Annibynnol ynghylch Trais Rhywiol, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Cynnwys, gwirfoddolwyr, cadw