Gwerthuso cyfraniad gwirfoddolwyr tuag at nodau eich sefydliad

URN: SFJHK4
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso effaith gwirfoddoli ar eich sefydliad. Mae’n cynnwys hyrwyddo gwirfoddoli o fewn eich sefydliad a’r tu hwnt iddo, a gwella’r ffordd y mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno pa nodau sefydliadol a chyfraniadau gan wirfoddolwyr y mae angen i chi eu hasesu
  2. cytuno ar y meini prawf y byddwch yn eu defnyddio i asesu cyfraniadau gan wirfoddolwyr
  3. nodi’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch a’r dulliau mwyaf effeithiol o’i chasglu
  4. casglu gwybodaeth berthnasol a gwirio ei bod yn gywir ac yn gyfredol
  5. dadansoddi gwybodaeth i asesu gwerthu cyfraniadau gan wirfoddolwyr at nodau eich sefydliad ac effaith gwirfoddoli ar eich gwirfoddolwyr
  6. gwirio gyda gwirfoddolwyr, cydweithwyr, rhanddeiliaid eraill a phobl sy’n gwneud penderfyniadau bod eich asesiad yn realistig
  7. cofnodi eich asesiad o gyfraniadau gan wirfoddolwyr a’r dystiolaeth sy’n ategu’ch asesiad
  8. nodi’r rhanddeiliaid a’r gwirfoddolwyr rydych am gyfathrebu â nhw a’r wybodaeth y mae angen iddynt ei chael
  9. nodi’r dulliau a’r arddulliau mwyaf effeithiol o gyfathrebu â’ch gwirfoddolwyr a’ch rhanddeiliaid
  10. llunio a chyflwyno eich dadansoddiad a’ch tystiolaeth mewn ffordd sy’n bodloni anghenion eich gwirfoddolwyr a’ch rhanddeiliaid
  11. hyrwyddo gwerth gwirfoddoli i’r sefydliad ac i wirfoddolwyr
  12. ymateb i geisiadau am eglurhad a rhagor o wybodaeth
  13. gwerthuso effeithiolrwydd asesu a chyfleu cyfraniadau gwirfoddolwyr a chofnodi eich gwerthusiad er gwybodaeth yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. pwysigrwydd nodi’r meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i fesur cyfraniadau gan wirfoddolwyr a’r meini prawf y gallech eu defnyddio
  4. sut i ddadansoddi gwybodaeth feintiol ac ansoddol
  5. egwyddorion cyfathrebu effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
  6. pwysigrwydd nodi anghenion gwybodaeth
  7. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion y gynulleidfa
  8. pwysigrwydd ceisio dulliau cyfathrebu newydd ac arloesol
  9. y dulliau y gallwch eu defnyddio i gasglu gwybodaeth.
  10. pwysigrwydd monitro a gwerthuso
  11. sut i sefydlu prosesau a dulliau monitro a gwerthuso
  12. pwysigrwydd a gwerth gwirfoddoli i’ch sefydliad ac i wirfoddolwyr
  13. nodau gwirfoddoli eich sefydliad
  14. pwysigrwydd asesu cyfraniad gwirfoddolwyr at nodau eich sefydliad a sut y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

UKWHA5

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Gwirfoddolwyr; gwerthuso; gwerthusiad; cyfraniad; sefydliad; nodau; effaith;