Datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn yn ymwneud â chefnogi rheolwyr sy'n gweithredu ar lefel strategol ac sydd â'r awdurdod i wneud penderfyniadau a'u rhoi ar waith ar ran eu sefydliadau. Nhw fydd yn gyfrifol am reoli'r broses bartneriaeth yn gyffredinol, ond ni fyddant o reidrwydd yn rheoli staff y bartneriaeth o ddydd i ddydd.
Mae `Partneriaeth' yn cynnwys partneriaethau statudol yng Nghymru a Lloegr a phartneriaethau anstatudol. Mae'r safon yn fwy strategol na gwaith amlasiantaeth, sy'n gallu bod ar lefel weithredol.
Fe'i hargymhellir ar gyfer uwch-reolwyr sy'n ymwneud â datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithredu gyda phartneriaid i sefydlu fframweithiau strategol i oruchwylio gwaith y bartneriaeth
- sefydlu a chytuno gydag aelodau'r bartneriaeth ar y nodau strategol a'r cynllun gweithredu ar gyfer y bartneriaeth
- sefydlu a chytuno ar y cyfraniad y bydd pob partner yn ei wneud i waith partneriaethau
- canfod ac ymgysylltu â phartneriaid priodol er mwyn datblygu agendâu partneriaeth cyffredinol
- sefydlu a chytuno ar brosesau a gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso llywodraethu, aelodaeth a rheolaeth partneriaethau
- datblygu, cytuno a gweithredu protocolau ar gyfer cyflawni nodau ac amcanion partneriaeth
- sefydlu, cytuno a gweithredu prosesau ar gyfer lledaenu gwybodaeth am waith y bartneriaeth oddi mewn i asiantaethau unigol ac i'r gymuned ehangach
- sefydlu a chytuno ar brosesau ar gyfer casglu a rhannu gwybodaeth ac arfer da am waith partneriaeth, i wella cyflawniad nodau ac amcanion
- sefydlu, cytuno a gweithredu prosesau i werthuso effeithiolrwydd partneriaethau
- adolygu canlyniadau prosesau gwerthuso gyda phartneriaid
- cytuno ar argymhellion o werthusiadau a'u gweithredu er mwyn gwella effeithiolrwydd partneriaethau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae datblygu protocolau llywodraethu
- nodau ac amcanion strategol gwahanol bartneriaid a sut gall hynny effeithio ar lywodraethu partneriaethau
- pam mae'n bwysig adnabod gwrthdaro a allai godi rhwng nodau partneriaethau ac amcanion sefydliadau unigol sy'n aelodau
- y cyfraniadau y gall gwahanol bartneriaid eu gwneud i waith partneriaethau, gan gynnwys adnoddau a rennir
- pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a pham gall hynny wella'r gwasanaeth a gyflwynir a chynyddu hyder y cyhoedd
- ffactorau a blaenoriaethau newidiol yn genedlaethol ac yn lleol sy'n gallu cael effaith ar bartneriaethau, yr aelodau a'r nodau strategol
- y fframwaith deddfwriaethol mae gwaith partneriaeth yn gweithredu oddi mewn iddo
- sut mae tystio i waith partneriaeth effeithiol a'i werthuso
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn datblygu ac yn cyfathrebu nodau strategol yn glir, ochr yn ochr â gwrando ar farn pobl eraill ac ymateb iddynt
- Rydych yn dangos sensitifrwydd i ddiwylliant a gwerthoedd asiantaethau partner
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- Rydych yn arddangos ymddygiad sy'n dangos parch at eraill a pharodrwydd i gydweithio ag eraill
- Rydych yn deall agendâu a blaenoriaethau pobl eraill ac yn cyd-drafod yn unol â hynny
- Rydych yn creu cyfleoedd ar gyfer perthnasoedd gwerth ychwanegol
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno ac mewn fformat sy'n hybu dealltwriaeth ac yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau
- Rydych yn cyfathrebu'n effeithiol â phartneriaid gan ddefnyddio dull ac arddull priodol
- Rydych yn creu ymdeimlad o ddiben ac agenda cyffredin
- Rydych yn cael hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rydych yn cydnabod anghenion eraill i adolygu penderfyniadau gyda phobl eraill yn eu sefydliadau eu hunain
- Rydych yn adnabod y cyfleoedd a gyflwynir gan amrywiaeth pobl
- Rydych yn gosod gwerth ar gyfraniad pobl eraill i'r bartneriaeth
Sgiliau
Meddwl yn strategol
Cyfathrebu
Cyd-drafod
Ymgynghori
Pennu amcanion
Cynllunio
Adolygu
Datrys problemau
Dadansoddi
Monitro
Gwneud penderfyniadau
Rheoli risgiau a manteision
Dylanwadu a darbwyllo
Cynnwys eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn sefyll ar ei phen ei hun, ond gellid ei chysylltu â safon HG1: Sefydlu a rheoli cysylltiadau â chymunedau ehangach
MCI HD11: Cadeirio cyfarfodydd a chyfranogi ynddynt