Rheoli perthnasoedd gwleidyddol a lobïo am ddylanwad
URN: SFJHG101
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfiawnder Cymunedol
                    Datblygwyd gan: Skills for Justice
                    Cymeradwy ar: 
2023                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â meithrin a chynnal perthnasoedd gweithio effeithio gyda llywodraeth leol neu ganolog, grwpiau cymunedol a grwpiau pwyso tuag at ddatblygu eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o faterion sy’n bwysig i chi.
Mae’n cynnwys deall eu man cychwyn, gan ddatblygu negeseuon a thargedu’r rhai y dylid cysylltu â nhw, a chymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau perthnasol trwy lobio’r grwpiau neu’r unigolion hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi gwahanol grwpiau rhanddeiliaid o fewn yr amgylchedd gwleidyddol, a sefydlu eu gofynion a’u buddiannau yn gysylltiedig ag amcanion eich sefydliad
 - monitro amgylcheddau gwleidyddol, a nodi materion sy’n berthnasol i amcanion eich sefydliad
 - asesu effaith bosibl materion a nodwyd a deddfwriaeth arfaethedig ar eich sefydliad, gan nodi cyfleoedd a bygythiadau posibl
 - rhagweld senarios tebygol yn y dyfodol ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau
 - datblygu a chytuno ar amcanion a strategaethau i fynd i’r afael â chyfleoedd a bygythiadau, gan gynnwys nodi:
• grwpiau rhanddeiliaid allweddol i’w targedu
• gweithgareddau i sicrhau’r dylanwad mwyaf - nodi gweithgareddau a dulliau cyfathrebu gwleidyddol sy’n anelu at gyflawni’r amcanion a’r strategaethau cytunedig
 - cymryd rhan mewn lobïo gwleidyddion a rhanddeiliaid yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol er mwyn cyflawni amcanion cytunedig, gan ddefnyddio gwahanol dechnegau i gyflwyno syniadau a dadleuon yn effeithiol
 - gwrando’n weithgar, a gofyn cwestiynau, gan gadarnhau pwyntiau i wirio bod y naill a’r llall ohonoch yn deall
 - monitro a gwerthuso effeithiolrwydd lobïo a gweithgarwch cysylltiedig, gan addasu cynlluniau a gweithredoedd o ganlyniad er mwyn cyflawni’r amcanion datganedig
 - meithrin a chynnal perthnasoedd proffesiynol effeithiol gyda rhanddeiliaid gwleidyddol allweddol
 - gweithredu o fewn fframweithiau a chodau ymarfer cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
 - y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
 - datblygiadau mewnol ac allanol allweddol sy’n effeithio ar eich sefydliad, ei wasanaethau, eu heffaith, a’r goblygiadau i ymgyrchoedd materion cyhoeddus a lobïo am ddylanwad
 - rhanddeiliaid allweddol eich sefydliad, eu buddiant a’u gofynion yn gysylltiedig â’ch sefydliad
 - strwythur llywodraeth ar lefel leol a chanolog, a’r prif wahaniaethau rhwng y rhain
 - gweithdrefnau a phrotocolau llywodraeth, gwaith y llywodraeth, a rôl y lobïwr wrth arfer dylanwad
 - proses polisi a gweinyddu cyhoeddus
 - y broses ddeddfwriaethol, a gweithdrefnau cysylltiedig
 - technegau materion cyhoeddus a sut i ddefnyddio’r rhain i ddylanwadu ar lywodraeth a rhanddeiliaid
 - pam mae’n bwysig dangos sensitifrwydd i anghenion a buddion pobl eraill
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
        3
        
    
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Skills for Justice
        
    
URN gwreiddiol
        SFJHG101
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethau Cyhoeddus        
    
Cod SOC
        3229
        
    
Geiriau Allweddol
            Rheoli; gwleidyddol; perthnasoedd; lobïo; dylanwadu; lobïo; gwleidyddion; grŵp pwysau