Sefydlu a rheoli cysylltiadau â'r gymuned ehangach

URN: SFJHG1
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwasanaethau'r Sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu cysylltiadau â grwpiau, sefydliadau a chymunedau y mae'r Sector Cyfiawnder yn gweithio oddi mewn iddynt. Nid yw hynny'n golygu'r 'Gymuned Gyfiawnder' yn unig, nac wedi'i fwriadu'n unig ar gyfer cysylltu â 'grwpiau anodd eu cyrraedd'. Mae cymunedau'n cyfeirio at unrhyw un sydd â diddordeb neu fudd yng ngwaith y Sector Cyfiawnder. Nod y safon yw annog rheolwyr ar draws y Sector Cyfiawnder i gyfathrebu ac ymgysylltu â'r cymunedau y maent yn gweithio gyda hwy ac yn eu plith. Nid yw'r safon yn golygu datblygu strategaeth gyfathrebu; yn hytrach mae'n pwysleisio'r angen am gytuno ar nodau ac amcanion ymgysylltu â chymunedau ehangach a pha ganlyniadau a ddymunir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu gweledigaeth glir a strategaeth ar gyfer ymgysylltu â chymunedau ehangach
  2. gweithio gyda chydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol i ddatblygu a chytuno ar y strategaeth a'i gweithrediad
  3. nodi a chytuno ar ddulliau a sianeli priodol ar gyfer ymgysylltu â chymunedau ehangach
  4. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau o fewn y sefydliad er mwyn hyrwyddo a datblygu strategaethau ymgysylltu
  5. nodi ac ymgysylltu ag unigolion a sefydliadau yn y gymuned, gan sicrhau eu hymrwymiad i ddatblygu ymgysylltiad cymunedol
  6. gweithio gyda phartneriaid i greu cysylltiad â sefydliadau cymunedol a chytuno ar broses ymgynghori ystyrlon a'i rhoi ar waith
  7. defnyddio gwybodaeth i nodi anghenion a disgwyliadau cymunedau a gwella ymgysylltiad
  8. defnyddio dulliau a chyfryngau cyfathrebu priodol i hybu ymwneud y gymuned gyfan â datblygu perthnasoedd cadarnhaol
  9. hyrwyddo diwylliant o hybu parch at amrywiaeth a gosod gwerth ar wahaniaethau diwylliannol o fewn y sefydliad, i wella'r perthnasoedd gyda chymunedau
  10. gweithio gyda phartneriaid o fewn y sefydliad ac yn y cymunedau ehangach i ganfod camau gweithredu a fydd yn helpu cymunedau i ymgysylltu'n gadarnhaol â'r sector a meithrin hyder y cyhoedd
  11. sefydlu a chynnal partneriaethau a rhwydweithiau i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda grwpiau a chymunedau
  12. gwirio bod camau gweithredu a gweithgareddau'n dilyn arfer gorau o ran cydraddoldeb, parch at amrywiaeth a gosod gwerth ar wahaniaethau diwylliannol
  13. adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd strategaethau i wella'r ymgysylltu â'r cymunedau ehangach
  14. nodi meysydd lle gallai newid strategaethau wella ymgysylltiad cymunedau
  15. gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i roi newidiadau ar waith i wella ymgysylltiad cymunedau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth sy'n cael ei olygu gan gymunedau ehangach yng nghyd-destun eich sefydliad eich hun
  2. beth mae'r sefydliad yn ceisio'i gyflawni trwy sefydlu a chynnal cysylltiadau â'r cymunedau ehangach
  3. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i wella ymgysylltiad cymunedol
  4. pwy yw'r partneriaid posibl a sut mae ymgysylltu â nhw
  5. pam mae'n bwysig bod unrhyw ymgynghori â chymunedau ehangach yn gynhwysol ac yn ystyrlon a ffyrdd o ddangos hynny
  6. y diwylliannau a'r credoau gwahanol mewn cymunedau ehangach a pham mae'n bwysig eu deall 
  7. sut gall diwylliannau a chredoau effeithio ar deimladau ac ymddygiad cymuned
  8. pwysigrwydd hyrwyddo arfer gorau a'i roi ar waith yng nghyswllt cydraddoldeb, parch at amrywiaeth a gosod gwerth ar wahaniaethau diwylliannol
  9. sut mae sefydlu a chynnal sianeli ymgynghori a chyfathrebu â sefydliadau, grwpiau a chymunedau a pham mae hynny'n bwysig
  10. pwysigrwydd gwerthuso cynlluniau ymgysylltu â'r gymuned a'u heffeithiau
  11. sut mae darparu tystiolaeth o ymgysylltu effeithiol â chymunedau ehangach a'i werthuso

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn cyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau eu dealltwriaeth a'u hymrwymiad
  2. Rydych yn dangos dealltwriaeth o faterion a all fod yn sensitif i'r grwpiau a'r cymunedau hyn a'r pryderon a all fod ganddynt, ac yn gweithio gyda nhw i'w goresgyn
  3. Rydych yn adnabod y cyfleoedd a gyflwynir gan amrywiaeth pobl ac yn gosod gwerth ar y manteision a ddaw i'r sefydliad yn eu sgîl
  4. Rydych yn creu ymdeimlad o ddiben cyffredin
  5. Rydych yn sicrhau bod nodau ac amcanion y strategaeth ymgysylltu a'r cynllun wedi'u gwreiddio yn nodau ac amcanion eich sefydliad eich hun
  6. Rydych yn dangos bod gennych ddealltwriaeth o anghenion, disgwyliadau a symbyliad pobl eraill, yn cymryd diddordeb byw yn eu pryderon, ac yn rheoli eu disgwyliadau
  7. Rydych yn cael hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
  8. Rydych yn defnyddio arddulliau a dulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
  9. Rydych yn gwerthuso effaith eich gweithredoedd a'ch profiadau eich hun a rhai pobl eraill ac yn defnyddio hynny i lywio strategaethau a chamau gweithredu i'r dyfodol
  10. Rydych yn creu cyfleoedd ar gyfer perthnasoedd gwerth ychwanegol

Sgiliau

​Cyfathrebu
Cyd-drafod
Ymgynghori
Cynllunio
Adolygu
Rhwydweithio
Dadansoddi
Monitro
Gwneud penderfyniadau
Blaenoriaethu
Dylanwadu a darbwyllo


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn sefyll ar ei phen ei hun, ond gellid ei chysylltu ag uned HG4: Datblygu a rheoli partneriaethau amlasiantaeth


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ HG1

Galwedigaethau Perthnasol

uwch-reolwyr a rheolwyr canol yng ngwasanaethau'r sector Cyfiawnder

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sefydlu cysylltiadau; rheoli cysylltiadau; y gymuned ehangach