Cynnal gwerthusiadau effeithiol o brosiectau a phrosesau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu rheolwyr i ddeall bod gwerthuso'n agwedd hanfodol ar eu swydd ac i gynnal gwerthusiadau'n effeithiol ac yn effeithlon. Bydd yn rhoi i reolwyr yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i gynnal gwerthusiad effeithiol. Mae'r safon yn un gyffredinol, a dylai rheolwyr ar bob lefel ymwneud â gwerthuso prosesau, gweithdrefnau a pherfformiad, boed y rheiny'n rhai newydd neu gyfredol, er mwyn canfod meysydd y gellid eu haddasu i wella'r gwasanaethau a ddarperir. Mae'n bwysig sicrhau bod y broses werthuso'n cael ei chynllunio cyn ei rhoi ar waith yn hytrach na'i rhoi ar waith yn ôl-weithredol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi diben prosesau gwerthuso o ran canlyniadau a pherfformiad, yn unol â phrosesau eich sefydliad
2. cynllunio prosesau gwerthuso i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu hamseru'n effeithiol
3. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau ar gyfer rheoli a gweithredu prosesau gwerthuso
4. hysbysu a chynnwys eraill mewn prosesau gwerthuso, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
5. cytuno gyda rhanddeiliaid ar y meini prawf tystiolaeth a'r fethodoleg ar gyfer gwerthuso prosesau, gan gynnwys;
5.1. y dystiolaeth sydd i'w chasglu
5.2. dangosyddion ar gyfer y tymor byr, canolig a hir
5.3. y gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwerthusiadau
6. cyfathrebu prosesau gwerthuso i eraill, rhai y gallent effeithio'n uniongyrchol arnynt ac eraill lle na fyddai effaith uniongyrchol o reidrwydd, gan sicrhau eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
7. cytuno ar brosesau casglu gwybodaeth a data, eu gweithredu a'u rheoli er mwyn llywio gwerthusiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
8. adolygu swm, ansawdd a dilysrwydd data a gwybodaeth a gasglwyd gydag eraill a chymryd camau i lenwi'r bylchau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
9. nodi ac argymell gwelliannau i weithrediad prosesau newid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
10. adolygu argymhellion prosesau gwerthuso gydag eraill
11. asesu effeithiau posibl argymhellion ar gynlluniau strategol a gweithredol ac ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid
12. cytuno ar weithredu addasiadau arfaethedig yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
13. hysbysu a chynnwys eraill yn y canlyniadau arfaethedig ac argymell a gweithredu newidiadau lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
14. cydymffurfio â gofynion moesegol a chyfreithiol ynghylch casglu a storio gwybodaeth a data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd deall a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli prosiectau
- pwysigrwydd gwerthuso canlyniadau ac allbynnau prosesau a gweithdrefnau
- pwysigrwydd cynnwys eraill mewn prosesau gwerthuso a ffyrdd o wneud hynny
- pwysigrwydd cytuno ar gyllideb ar gyfer prosesau gwerthuso a sicrhau cost-effeithiolrwydd
- pwysigrwydd cyfathrebu prosesau gwerthuso i eraill, gan sicrhau eu hymrwymiad a'u cydweithrediad, a dulliau ac arddulliau cyfathrebu priodol ar gyfer gwneud hynny
- pwysigrwydd cytuno ar feini prawf clir ar gyfer y gwerthusiad, beth yw eu ffurf bosibl, a sut gellir eu gweithredu
- y mathau o adnoddau sy'n angenrheidiol i gyflawni'r broses werthuso a sut mae eu cyrchu
- pwysigrwydd cadarnhau swm, ansawdd a dilysrwydd gwybodaeth a data a ffyrdd o wneud hynny
- pwysigrwydd dylanwadu ar y sefydliad fel ei fod yn gweithredu ar sail canlyniadau ac argymhellion y broses werthuso
- gofynion moesegol a chyfreithiol ar gyfer casglu a storio data a pham mae'n bwysig cydymffurfio â hwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn mynd ati i gynnwys eraill yn y gwaith o ddylunio a gweithredu'r broses werthuso
- Rydych yn cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol ag eraill, gan ddefnyddio arddulliau a dulliau cyfathrebu priodol, beth yw nodau ac amcanion y gwerthusiad, gan sicrhau eu dealltwriaeth a'u bod wedi ymrwymo i'r broses
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- Rydych yn datblygu meini prawf gwerthuso sy'n ddilys, yn wrthrychol, yn glir ac yn dryloyw, ac yn eu cymhwyso mewn modd cyson
- Rydych yn darparu adborth clir, amserol ac adeiladol ar y broses werthuso ac yn ei ddefnyddio i lywio a gwella'r gwasanaeth a gyflwynir
- Rydych yn defnyddio eich sgiliau i ddylanwadu ar eraill i roi argymhellion sy'n deillio o'r gwerthusiad ar waith
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i ffiniau eich rôl a'ch cyfrifoldeb eich hun
- Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol, ac yn sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â hwy hefyd
Sgiliau
Cyfathrebu
Cyd-drafod
Ymgynghori
Dylanwadu
Cynllunio
Adolygu
Datrys problemau
Dadansoddi
Monitro
Gwneud penderfyniadau
Blaenoriaethu
Pennu amcanion
Rheoli gwybodaeth
Casglu adborth
Darparu adborth