Pennu, comisiynu a rheoli contractau a chytundebau allanol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu rheolwyr i bennu, comisiynu a rheoli contractau a chytundebau allanol, gan gynnwys Cytundebau Lefel Gwasanaeth (CLGau). Fe'i lluniwyd i gynnwys pob math o gontractio gyda chyflenwyr allanol. Mae hefyd yn cynnwys rheoli grantiau a wnaed i asiantaethau a sefydliadau cymunedol am ddarparu gwasanaethau, e.e. arian grant ar gyfer prosiectau diogelwch cymunedol. Mae'r term 'cytundeb' yn cael ei ddefnyddio'n amlach na chontract mewn achosion o'r fath, felly defnyddiwyd y ddau derm yn y safon. Mae darparwyr gwasanaeth hefyd yn fwy tebygol o fod yn paratoi cynigion am grantiau yn hytrach na thendrau, felly eto mae'r ddau derm wedi cael eu defnyddio.
Gall y fanyleb fod ar gyfer nwyddau neu wasanaethau, felly defnyddiwyd 'cyflenwr a darparwr gwasanaeth' i gynnwys y ddau.
Argymhellir y safon hon ar gyfer uwch-reolwyr a rheolwyr canol sy'n gyfrifol am gynllunio, canfod a rheoli contractau gyda chyflenwyr allanol a darparwyr gwasanaethau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod yr angen am gael hyd i gynnyrch neu wasanaethau o'r tu allan, a chytuno gyda'r rhanddeiliaid priodol
- datblygu manylebau contract a chytundeb a chytuno gyda'r rhanddeiliaid priodol
- rhoi cyhoeddusrwydd i fanylebau contract mewn ffyrdd priodol a gwahodd tendrau a chynigion
- llunio rhestrau byr o ddarpar gyflenwyr a darparwyr gwasanaethau gan ddefnyddio meini prawf cytunedig
- dethol contractiwr gan ddilyn gweithdrefnau dethol cenedlaethol a sefydliadol cytunedig
- sefydlu cytundebau contractiol gyda chyflenwyr a darparwyr gwasanaethau
- cytuno ar weithdrefnau monitro cydymffurfiaeth o ran rheoli ansawdd a'u hadolygu
- sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn derbyn gwybodaeth reolaidd ynghylch prosesau contractiol
- datblygu cynlluniau monitro cydymffurfiaeth contractau a chytuno arnynt gyda rhanddeiliaid
- cytuno ar brotocolau a gweithdrefnau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth contractau a chytundebau gyda chyflenwyr allanol
- gweithredu a rheoli gweithdrefnau monitro cydymffurfiaeth contractau a chytundebau
- adolygu a gwerthuso cynnydd a chanlyniadau contractau gyda chyflenwyr a darparwyr gwasanaethau
- cytuno ar unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu rhoi ar waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a sefydliadol ynghylch comisiynu a chytundebau lefel gwasanaeth
- dulliau o roi cyhoeddusrwydd i'r contractau a'r cytundeb sy'n destun tendr
- ffynonellau cyflenwyr allanol a darparwyr gwasanaethau
- sut mae cynhyrchu manylebau ar gyfer contractau a chytundebau allanol
- sut mae dethol cyflenwyr allanol a darparwyr gwasanaethau
- gwahanol fathau o gytundebau contractiol y gellir eu defnyddio ar draws y Sector
- y gwahaniaeth rhwng mewnbynnau, allbynnau a chanlyniadau
- sut mae monitro a gwerthuso cynnydd a chydymffurfiaeth contractau a chytundebau
- pa gamau i'w cymryd os na chyflawnir gofynion contractau a chytundebau
- pa sancsiynau fydd yn cael eu gweithredu os na chyflawnir canlyniadau contract
- pa wobrau gellir eu gweithredu os bydd contractwyr yn rhagori ar delerau ac amodau contract
- y gofynion moesegol a chyfreithiol yng nghyswllt prosesau comisiynu a pham mae'n bwysig cydymffurfio â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn derbyn cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
- Rydych yn cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol gyda rhanddeiliaid ac yn sicrhau eu bod yn deall y broses ac yn ymroddedig iddi
- Rydych yn sicrhau bod eich cyhoeddusrwydd a'ch meini prawf a'ch arferion dethol yn deg, yn dryloyw ac yn dilyn arfer da o ran cyfle cyfartal
- Rydych yn cytuno'n eglur ar yr hyn a ddisgwylir gan bobl eraill ac yn eu galw i gyfrif
- Rydych yn annog cyflenwyr allanol a darparwyr gwasanaethau i drafod problemau posibl a darparu adborth mewn modd cadarnhaol
- Rydych yn monitro cynnydd contractau yn barhaus er mwyn canfod meysydd a allai fod yn destun pryder ac yn cymryd camau i'w gwrthweithio
- Rydych chi'n sicrhau tryloywder a chydraddoldeb y broses recriwtio ac yn cydymffurfio â'r gofynion moesegol a chyfreithiol ar gyfer comisiynu
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i ffiniau eich rôl a'ch cyfrifoldebau eich hun
Sgiliau
Cyfathrebu
Cynllunio
Adolygu
Datrys problemau
Monitro
Gwneud penderfyniadau
Blaenoriaethu
Pennu amcanion
Gwerthuso
Cyd-drafod
Dadansoddi
Dylanwadu
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn sefyll ar ei phen ei hun, ond gellid ei chysylltu â safon HF19: Datblygu cynigion i ymateb i ofynion tendro allanol