Asesu anghenion cyfathrebu unigolion sy’n agored i niwed cyn iddynt roi tystiolaeth
URN: SFJGM1
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn ag asesu anghenion a galluoedd cyfathrebu unigolion sy'n agored i niwed cyn iddynt ddarparu tystiolaeth i'r heddlu neu yn y llys.
Cydnabyddir bod gan rai unigolion anawsterau cyfathrebu, a byddwch yn helpu iddynt oresgyn eu hanawsterau er mwyn iddynt roi'r dystiolaeth orau y gallant pan fyddant yn cael eu cyfweld gan yr heddlu neu yn y llys.
Byddwch yn helpu gwneud y broses gyfiawnder yn hygyrch i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac, mewn rhai achosion, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i unigolion allu cymryd rhan yn effeithiol a chael achos llys teg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael caniatâd gan unigolion neu oedolion priodol i gynnal asesiadau, yn unol â gofynion sefydliadol
2. casglu gwybodaeth am unigolion gan asiantaethau eraill, yn unol â gofynion sefydliadol
3. casglu gwybodaeth o gyfweliadau neu asesiadau blaenorol, yn unol â gofynion sefydliadol
4. trefnu asesiadau gydag unigolion, yn unol â gofynion sefydliadol
5. esbonio diben cyfarfod, a’ch rôl i gynorthwyo unigolion sy’n agored i niwed
6. asesu anghenion cyfathrebu a galluoedd iaith unigolion ac:
6.1 ystyried eu gallu, eu ffafriaethau a’u hanghenion iaith
6.2 dehongli canlyniadau o asesiadau
7. gwirio dealltwriaeth unigolion o wybodaeth i fodloni eu hanghenion, ac:
7.1 addasu eich ffordd o gyfathrebu, yn ôl yr angen
8. gwerthuso addasrwydd defnyddio cyfryngwr
9. rhoi arweiniad i’r rheiny sy’n cymryd rhan mewn cyfweliadau am y ffordd orau o gyfathrebu ag unigolion
10. mynychu cyfweliadau gyda swyddogion ymchwilio ac unigolion, yn unol â gofynion sefydliadol
11. helpu swyddogion i ddelio ag unrhyw faterion sy’n effeithio ar gyfathrebu ag unigolion yn ystod cyfweliadau
12. cynnal asesiadau atodol, os bydd angen
13. darparu adroddiad ysgrifenedig i lysoedd, yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys:
13.1 anghenion a galluoedd cyfathrebu unigolion
13.2 argymhellion ar sut y dylid holi unigolion yn y llys
13.3 argymhellion ar fesurau arbennig
13.4 sut gellid gwella ansawdd tystiolaeth
14. cofnodi gwybodaeth berthnasol, yn unol â gofynion sefydliadol
15. cadw cofnodion tra’n ystyried rheoliadau diogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i’ch awdurdodaeth
2. sut i gadarnhau anghenion a galluoedd cyfathrebu unigolion o asiantaethau eraill
3. sut i gyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw, sy’n cefnogi:
3.1 parch
3.2 cydraddoldeb
3.3 amrywiaeth
4. yr amrywiaeth o gyflyrau sy’n gallu effeithio ar allu unigolion i gyfathrebu
5. sut i drefnu asesiadau gydag unigolion a’r ffactorau i’w hystyried
6. y rhesymau pam mae’n rhaid i drydydd unigolyn priodol fod gyda chi bob amser wrth gyfarfod ag unigolion
7. sut i gynnal a dehongli asesiadau o allu cyfathrebu, anghenion a galluoedd iaith unigolion
8. sut i ddefnyddio ffurfiau ac arddulliau cyfathrebu priodol i fodloni anghenion unigolion
9. pwysigrwydd gwirio dealltwriaeth pobl a chaniatáu iddynt ofyn cwestiynau
10. sut i sefydlu perthynas ag unigolion
11. rolau a chyfrifoldebau pawb yn ystod cyfweliadau, a sut i ddarparu adroddiadau asesu cychwynnol o wybodaeth a gasglwyd yn ystod asesiadau, gan gynnwys:
11.1 gwybodaeth am y ffyrdd gorau o gyfathrebu ag unigolion
11.2 ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth am anghenion a galluoedd cyfathrebu unigolion
12. rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth i bobl sydd â hawl ei derbyn, ac y mae angen iddynt ei derbyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJGM1
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngwyr
Cod SOC
3239
Geiriau Allweddol
cyfryngwyr; unigolion sy’n agored i niwed; tystiolaeth; asesu