Cyfathrebu, ymgysylltu a hybu perthynas llawn ymddiriedaeth gydag unigolion
URN: SFJGL103
Sectorau Busnes (Suites): Mentora a Chyfeillio Troseddwyr a'r rhai y mae risg y byddant yn troseddu
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
27 Ebr 2010
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu'n effeithiol ag unigolion, a meithrin a chynnal lefel o ymddiriedaeth yn eich ymwneud â nhw.
Lle mae'r safon yn cyfeirio at yr 'unigolyn', mae hyn yn cyfeirio at y person sy'n destun mentora/cyfeillio.
Mae un elfen
1 Cyfathrebu, ymgysylltu a hybu perthynas llawn ymddiriedaeth gydag unigolion
Grŵp Targed
Mae'r safon hon yn berthnasol i bawb sy'n ymwneud yn uniongyrchol â mentora a chyfeillio unigolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi lleoliadau ac amgylcheddau addas ar gyfer cysylltu ag unigolion, gan gynnal sgyrsiau mewn man ac ar adeg briodol
2. defnyddio dulliau a mathau priodol o gyfathrebu sy'n addas ar gyfer anghenion a galluoedd amrywiaeth o unigolion
3. cyfathrebu'n glir ac yn ddiamwys, gan annog cwestiynau a gwirio dealltwriaeth
4. gwrando'n weithredol ac ymateb yn adeiladol i unrhyw bryderon
5. neilltuo amser i gefnogi unigolion, gan gymryd diddordeb cadarnhaol ym mhryderon unigolion a'u meysydd gweithgaredd
6. ceisio deall anghenion a symbyliad unigolion, a beth maen nhw'n ceisio'i gyflawni
7. hysbysu, cynnwys a helpu unigolion i asesu gwahanol ffyrdd o weithredu, ac archwilio canlyniadau posibl pob un ohonynt
8. cynnwys unigolion, lle bo hynny'n briodol, mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, gan roi sylw i'w galluoedd a'u hamgylchiadau
9. esbonio'n eglur wrth unigolion pa wybodaeth y gallai fod rhaid i chi ei rhannu gydag eraill a pham
10. ceisio caniatâd gan unigolion, lle bo hynny'n briodol, i rannu gwybodaeth gydag eraill
11. trin unigolion â pharch, gan ddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn eich ymwneud â nhw
12. ymddygiad enghreifftiol sy'n dangos parch, parodrwydd i helpu a chydweithrediad
13. gweithredu'n brydlon ac yn gywir wrth gymryd camau i ddiogelu eich lles eich hun ac eraill, oddi mewn i derfynau eich awdurdod a'ch cyfrifoldeb
14. cynnal gofynion moesegol, cyfreithiol a chontractiol priodol yn eich holl ymwneud ag unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y gofynion deddfwriaethol, rheoliadol a sefydliadol
1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy'n berthnasol i weithio gydag unigolion, gan gynnwys pobl ifanc, a'u heffaith o ran cyfathrebu a delio gyda nhw
2. deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â diogelu data, iechyd a diogelwch, amrywiaeth a'u heffaith yn eich maes gweithredu chi
3. gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cynnal cofnodion sy'n ymwneud â gweithio gydag unigolion
4. terfynau eich awdurdod a'ch cyfrifoldeb, a'r camau i'w cymryd os eir ymhellach na'r rhain
Gofynion penodol ynghylch cyfathrebu ac ymgysylltu ag unigolion
5. gwahanol fathau a dulliau cyfathrebu a allai fod yn briodol a phwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth ac empathi gydag unigolion, a'r dulliau o gyflawni hynny
6. pwysigrwydd cyfathrebu di-eiriau, megis iaith y corff, a sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn gwahanol ffyrdd
7. rhwystrau posibl i gyfathrebu, eu hachosion, a ffyrdd o'u goresgyn, gan gynnwys y teimladau a'r ymatebion a all fod gan unigolion sy'n rhwystro eu gallu i drafod eu hamgylchiadau personol
8. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o'ch gwerthoedd a'ch credoau eich hun, a'u heffaith ar eich gallu i herio agweddau ac ymddygiad camwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol
9. y terfynau cyfrinachedd sy'n berthnasol i rôl eich swydd, a'r amgylchiadau pryd mae angen mynd yn groes i ddymuniadau a fynegwyd gan unigolyn er eu lles pennaf, ac mewn achosion o'r fath, pwysigrwydd sicrhau eu bod yn deall beth sy'n digwydd a pham
10. pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth a sefydlu perthynas dda gydag unigolion, a dulliau o gyflawni hynny yn achos ystod o unigolion
11. pwysigrwydd sefydlu ffiniau ar gyfer eich perthynas gyda'r unigolyn, a ffyrdd o ddod i gytundeb ynghylch rheolau'r berthynas
12. ffiniau posibl i'r berthynas, gan gynnwys agweddau moesegol, personol, proffesiynol a chyd-destunol, a sut gellir cynnal ffiniau
13. pwysigrwydd sicrhau dealltwriaeth ac osgoi rhagdybiaethau
14. materion, pryderon a gweithgareddau nodweddiadol sy'n berthnasol i unigolion
15. y rhagfarn a'r rhwystrau cysylltiedig y gellid eu hwynebu gan y rhai yr ydych chi'n cyfathrebu ac yn ymgysylltu â nhw, a'r dulliau o ymdrin â'r rhain
16. y risgiau posibl i'ch diogelwch personol, a ffyrdd o ymdrin â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
27 Ebr 2015
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau er Cyfiawnder
URN gwreiddiol
SFJGL103
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus
Cod SOC
Geiriau Allweddol
mentora, cyfeillio, troseddwyr; cyfathrebu; dulliau cyfathrebu; ymddiriedaeth; perthynas