Cynorthwyo unigolion i adnabod eu risg cam-drin domestig neu drais rhywiol

URN: SFJGK515
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i helpu unigolion i adnabod eu risg cam-drin domestig neu drais rhywiol, a’u hannog i ymgysylltu â’r cymorth y gallwch ei gynnig. Mae hyn yn cynnwys eich gallu i farnu ynghylch y tebygolrwydd y byddant yn destun ailerledigaeth, ar sail eich asesiad o amgylchiadau’r unigolion a’r risgiau iddynt.
 
Fel rhan o’r safon hon, bydd angen i chi allu gweithio gyda phobl nad ydynt yn cydnabod eu bod yn ddioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol, yn ogystal â phlant a phobl ifanc mewn perygl.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar eich amcanion gyda phobl berthnasol eraill wrth roi cymorth i unigolion sydd mewn perygl o ailerledigaeth, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  2. rhoi gwybod i unigolion am eich rôl, eich cyfrifoldebau a’ch amcanion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  3. gydag unigolion, archwilio’u sefyllfa i lywio’ch dealltwriaeth o’u risgiau a’u hanghenion, gan gynnwys ffactorau sy’n effeithio ar lefelau risg
  4. pennu lefelau risg i unigolion yn unol â phrosesau asesu risg dynamig, gan gynnwys risgiau:
    • ailerledigaeth
    • erledigaeth eilaidd
    • gorfodaeth
    • cyflenwi dioddefwyr eraill
  5. asesu ffactorau sy’n effeithio ar risgiau i unigolion yn unol â phrosesau asesu risg
  6. rhoi gwybod i bobl berthnasol eraill am bryderon risg brys i unigolion, yn unol â pholisïau cyfathrebu ac adrodd
  7. esbonio wrth unigolion ganlyniadau posibl risg a nodwyd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  8. gydag unigolion, archwilio sut gall y cymorth y byddwch yn ei ddarparu helpu i leihau risg cam-drin domestig neu drais rhywiol iddynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
  9. nodi camau a all leihau risg i unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  10. annog unigolion i weithredu er mwyn osgoi risg cam-drin domestig neu drais rhywiol yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
  11. nodi mesurau diogelu i atal cam-drin unigolion ymhellach yn unol ag arweiniad sydd ar gael
  12. gwneud atgyfeiriadau ar gyfer gweithdrefnau diogelu a nodwyd, fel y bo angen, i leihau risg i unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
  13. darparu gwybodaeth i unigolion sy’n caniatáu iddynt wneud dewisiadau gwybodus am weithredoedd a all leihau’r risg cam-drin domestig neu drais rhywiol iddynt
  14. esbonio wrth unigolion pam y gall fod angen mynd yn groes i’w dymuniadau wrth wneud atgyfeiriadau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
  15. atgyfeirio sefyllfaoedd i eraill i’w hasesu ymhellach pan fydd gweithredoedd y tu hwnt i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
  16. cyfathrebu ag unigolion mewn amgylcheddau priodol a diogel
  17. gweithio gydag unigolion mewn ffyrdd sy’n cefnogi dealltwriaeth gyffredin ac sy’n:
    • annog cyfathrebu agored a gonest
    • dangos empathi tuag at sefyllfa’r unigolion
  18. cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. rôl asiantaethau allanol a rhanddeiliaid sy’n darparu gwasanaethau a chymorth i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eich ardal
  4. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  5. pwy y dylech roi gwybod iddynt pan na allwch gefnogi unigolion o fewn eich rôl a’ch awdurdod
  6. cymorth proffesiynol a gwasanaethau sydd ar gael i unigolion pan fyddwch wedi dod i ddiwedd cymhwysedd proffesiynol eich rôl
  7. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
  8. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  9. teimladau ac ymatebion unigolion a allai rwystro’u gallu i drafod eu profiadau
  10. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o gyflawni hyn
  11. pwysigrwydd trin unigolion gyda sensitifrwydd, hyblygrwydd a pharch
  12. yr effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau ei chael ar eich ymgysylltiad ag unigolion
  13. pwysigrwydd osgoi risg wrth ymgysylltu ag unigolion a’u cefnogi, a sut i’w wneud, gan gynnwys lleoliadau diogel a defnyddio cyfathrebu electronig yn briodol
  14. pwysigrwydd herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a sut i wneud hynny
  15. rôl ac effaith yn gysylltiedig â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  16. beth yw cam-drin domestig neu drais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn y gymuned
  17. beth yw ailerledigaeth a’r ffactorau a all waethygu hyn
  18. sut i gymhwyso ymarfer ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  19. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  20. beth yw meithrin perthynas amhriodol gydag unigolion a sut gellir adnabod hyn
  21. beth yw erledigaeth eilaidd a’r effaith ar unigolion
  22. ffactorau sy’n llywio eich dealltwriaeth o sefyllfaoedd unigolion, gan gynnwys:
  23. berthynas â chamdriniwr neu gamdrinwyr
  24. trefniadau ac amgylchedd byw
    a. sefyllfaoedd teuluol a phersonol
    b. sefyllfa ariannol
    c. iechyd corfforol a meddyliol
    d. eu hagweddau, eu credoau, eu hyder a’u hanghenion
  25. ffactorau sy’n cynyddu risg i unigolion, gan gynnwys defnyddio cyfryngau ar-lein
  26. sut gall risg gael ei leihau neu ei osgoi, gan gynnwys trwy atgyfeiriadau
  27. ffactorau sy’n effeithio ar erledigaeth eilaidd a sut i adnabod y rhain
  28. gwahanol fathau o wybodaeth a’u ffynonellau, yn berthnasol i unigolion sudd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol a sut i gael at y rhain
  29. anghenion gwybodaeth a chymorth cyffredin unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
  30. y camau sy’n angenrheidiol pan nodir bod trais yn cael ei ddatgelu
  31. mesurau a gweithdrefnau diogelu angenrheidiol
  32. sut i wneud atgyfeiriadau i gael at fesurau a gweithdrefnau diogelu, gan gynnwys atgyfeiriadau i sefydliadau eraill
  33. yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion
  34. pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn deall pam nad yw eu dymuniadau yn cael eu bodloni
  35. prosesau a chamau’r system cyfiawnder troseddol y mae unigolion yn ymgysylltu â nhw
  36. sut i rannu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n caniatáu i unigolion wneud dewisiadau gwybodus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb.  Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
 
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGK515

Galwedigaethau Perthnasol

Eiriolydd Annibynnol ynghylch Trais Rhywiol, Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

cyngor; annibynnol; eiriolaeth; tystion; risg; asesiad; ailerledigaeth; cam-drin; unigolion