Rheoli perthnasoedd gwaith gydag unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan cam-drin domestig neu drais rhywiol drwy’r system cyfiawnder troseddol

URN: SFJGK514
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli perthnasoedd gwaith gydag unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol ac rydych chi’n eu cefnogi drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mae’n cynnwys sicrhau eich bod yn cadw o fewn ffiniau priodol ymddygiad wrth roi cymorth i unigolion a dod â pherthynas â’r unigolyn i derfyn.

Fel rhan o’r safon hon, bydd disgwyl i chi hefyd roi cyngor am yr ystod o wasanaethau ac asiantaethau eraill a all gefnogi unigolion, a’u helpu i benderfynu ar y rhain a chael atynt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar eich amcanion ar gyfer darparu cymorth i unigolion gyda phobl berthnasol eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  2. rhoi gwybod i unigolion am gyfrifoldebau eich rôl ac amcanion cytunedig
  3. casglu gwybodaeth am unigolion sy’n llywio’ch dealltwriaeth o’u hanghenion, gan gynnwys:
    • asesiad risg
  4. archwilio pa gymorth byddwch chi’n ei roi i unigolion i fodloni eu hanghenion, yn unol â therfynau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  5. rhoi gwybod i unigolion pan fydd y cymorth sydd ei angen y tu hwnt i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
  6. cefnogi unigolion mewn ffyrdd sy’n ystyried eu ffiniau personol a ffiniau proffesiynol eich rôl
  7. darparu gwybodaeth am gymorth a gwasanaethau eraill i unigolion, sy’n bodloni eu hanghenion ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus
  8. cynorthwyo unigolion i gael at gymorth a gwasanaethau eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  9. gydag unigolion, archwilio effaith ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau cytunedig
  10. hyrwyddo ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol mewn ffyrdd sy’n annog unigolion i adnabod effeithiau buddiol gwneud hynny
  11. archwilio gydag unigolion eraill manteisio ar gymorth a gwasanaethau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
  12. cynghori unigolion am amserlenni a phrosesau ar gyfer dwyn perthnasoedd gwaith i ben, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  13. cynorthwyo unigolion i ddod â’u mynediad at gymorth i ben, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  14. cyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  15. cymryd camau i sicrhau eich bod yn gofalu am eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles eich hun wrth ymgysylltu ag unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  16. rhoi gwybod i eraill pan fyddwch yn nodi risgiau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys:
    • y risg i’ch diogelwch a’ch lles eich hun
    • y risg i ddiogelwch a lles unigolion
  17. cynnal eich cymhwysedd proffesiynol a’ch gallu i gefnogi unigolion er mwyn cyflawni eich rôl a’ch cyfrifoldebau
  18. rhoi gwybod i bobl eraill pan fyddwch yn amlygu risgiau a bygythiadau i natur broffesiynol eich perthynas waith gydag unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  19. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  20. gwerthuso a rhannu eich canfyddiadau gydag asiantaethau a rhanddeiliaid perthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. eich rôl a’ch cyfrifoldebau, gan gynnwys cyfyngiadau eich awdurdod yn y system cyfiawnder troseddol
  5. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol a phwy y dylid ceisio cyngor oddi wrthynt pan fydd angen cymorth arnoch yn eich rôl
  6. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion unigolion
  7. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  8. teimladau ac ymatebion unigolion a allai rwystro’u gallu i drafod eu profiadau
  9. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o gyflawni hyn
  10. pwysigrwydd trin unigolion gyda sensitifrwydd, hyblygrwydd a pharch
  11. yr effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau ei chael ar eich ymgysylltiad ag unigolion
  12. pwysigrwydd osgoi risg i chi’ch hun ac i unigolion wrth ddarparu cymorth
  13. pwysigrwydd herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a sut i wneud hynny
  14. rôl ac effaith croestoriadedd yn gysylltiedig â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  15. eich ffiniau proffesiynol a ffiniau personol unigolion
  16. goblygiadau cydgynllwynio gweithgar, hyfforddi a chysylltiad amhriodol gydag unigolion a rhwng unigolion yn ystod achos llys, a sut i adnabod ac osgoi hyn
  17. yr effaith y gall cyhuddiadau o hyfforddi a chydgynllwynio gweithgar gydag unigolion ei chael
  18. pwysigrwydd cynnal eich cymhwysedd proffesiynol a’ch galluoedd
  19. effaith ymgysylltu â’r system cyfiawnder troseddol ar unigolion
  20. prosesau a chamau’r system cyfiawnder troseddol y mae unigolion yn ymgysylltu â nhw
  21. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn y gymuned
  22. beth yw ailerledigaeth a’r ffactorau a all waethygu hyn
  23. beth yw meithrin perthynas amhriodol gydag unigolion a sut gellir adnabod hyn
  24. ffactorau sy’n cynyddu risg i unigolion a sut gellir eu lleihau neu eu hosgoi
  25. gwahanol fathau o wybodaeth a’u ffynonellau, yn berthnasol i unigolion sudd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol a sut i gael at y rhain
  26. gwasanaethau a chymorth sydd ar gael i unigolion yn eich ardal ddaearyddol, eu meini prawf a sut i atgyfeirio iddynt
  27. yr effaith y gall trosglwyddo rhwng gwasanaethau cymorth gwahanol ei chael ar unigolion
  28. anghenion gwybodaeth a chymorth cyffredin unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol a sut i fodloni’r anghenion hyn
  29. y camau sy’n angenrheidiol pan nodir bod trais yn cael ei ddatgelu
  30. sut i rannu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n caniatáu i unigolion wneud dewisiadau gwybodus a phwysigrwydd gwneud hynny

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb.  Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
 
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGK514

Galwedigaethau Perthnasol

Eiriolydd Annibynnol ynghylch Trais Rhywiol, Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Cyngor; annibynnol; eiriolaeth; tyst; proffesiynol; ffiniau; unigolion; defnyddiwr gwasanaeth; perthynas