Datblygu perthnasoedd gyda phlant a phobl ifanc

URN: SFJGK513
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu perthnasoedd gwaith gyda phlant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall eu sefyllfa. Mae’n ymwneud â datblygu cytgord a pherthynas barchus, gydag ymddiriedaeth, gyda’r plentyn neu’r person ifanc. Hefyd, mae’n bwysig defnyddio chwarae neu ddulliau priodol eraill i ddatblygu’r berthynas yn ôl oedran y plentyn neu’r person ifanc.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflwyno’ch hun i’r plentyn neu’r person ifanc ac esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldebau yn gysylltiedig â’i ofal
  2. cyfathrebu â’r plentyn neu’r person ifanc mewn ffyrdd sy’n briodol i’w oedran, ei ddealltwriaeth a’i ddewis
  3. nodi a pharchu dymuniadau preifatrwydd a chyfrinachedd y plentyn neu’r person ifanc, oni bai bod hyn yn peri risg ychwanegol i’r plentyn neu i eraill
  4. cydymffurfio â gofynion a chanllawiau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol perthnasol
  5. gwirio bod y plentyn neu’r person ifanc yn gyfforddus a’i fod yn deall bod ei anghenion yn bwysig ac yn destun sylw
  6. ymateb i unrhyw bryderon sydd gan y plentyn neu’r person ifanc am ei sefyllfa a cheisio’i farn yn weithgar
  7. annog y plentyn neu’r person ifanc i ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad ynghylch unrhyw faterion
  8. ymateb yn sensitif i unrhyw faterion sy’n cael eu codi gan y plentyn neu’r person ifanc a chymryd y camau priodol i fynd i’r afael â nhw
  9. gwirio bod rhyngweithiadau’n dangos parch tuag at brofiad, gwybodaeth a chefndir y plentyn neu’r person ifanc
  10. sefydlu cytgord gyda’r plentyn neu’r person ifanc trwy chwarae a dulliau eraill
  11. darparu gwybodaeth i’r plentyn neu’r person ifanc mewn ffordd sy’n ei alluogi i drafod opsiynau at y dyfodol a gwneud penderfyniadau gwybodus, lle y bo’n bosibl
  12. crynhoi gwybodaeth gan ddefnyddio geiriau, brawddegau ac ymadroddion gwahanol i gynorthwyo dealltwriaeth y plentyn neu’r person ifanc
  13. cyfeirio’r plentyn neu’r person ifanc at ffynonellau gwybodaeth, cyngor neu gymorth pellach, fel y bo’n briodol i’w anghenion
  14. cadarnhau a chytuno gyda’r plentyn neu’r person ifanc ar y wybodaeth y gellir ei rhannu â phobl eraill, neu lle bo angen rhannu
  15. cael cymorth priodol pan fydd problemau cyfathrebu neu berthynas
  16. darparu gwybodaeth am sut i gysylltu â chi i gael cymorth os bydd angen
  17. cwblhau cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. sut i reoli eich cyfrifoldebau fel gweithiwr proffesiynol â gofynion sefydliadol a chytundebol
  4. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol a’i berthynas ag eraill yn eich sefydliad a’r ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  5. rolau ymarferwyr eraill sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd
  6. y wybodaeth a’r arweiniad sydd ar gael i blant a phobl ifanc a sut i gael atynt
  7. gweithwyr proffesiynol, rhwydweithiau ac asiantaethau eraill sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, a sut i gael at y rhain
  8. effaith bosibl y gwaith hwn arnoch chi, a sut i gael at gymorth pan fydd angen
  9. polisïau allweddol y llywodraeth yn gysylltiedig ag iechyd a lles plant a phobl ifanc
  10. y prif faterion a thrafodaethau’n gysylltiedig ag iechyd a lles plant a phobl ifanc
  11. y fframweithiau ar gyfer asesu anghenion plant a phobl ifanc
  12. yr arweiniad sydd ar gael ar gyfer eich ymarfer, a ffynonellau’r arweiniad
  13. ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a’i rôl wrth wella gwasanaethau
  14. prif gamau datblygiad plant a sut maent yn effeithio ar ei gilydd
  15. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  16. gwahanol ddulliau, cefndiroedd ac arferion magu plant, ac effaith bosibl y rhain ar iechyd a lles plant a phobl ifanc
  17. effaith y teulu a’r amgylchedd ar iechyd a lles plant a phobl ifanc
  18. sut gall anghenion plant a phobl ifanc effeithio ar bobl eraill
  19. y ffactorau cyfrannol sy’n cynyddu risg niwed i blant a phobl ifanc a’r sbardunau ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau neu ymddygiad annisgwyl
  20. y foeseg ynghylch cydsyniad a chyfrinachedd, a’r tyndra a all fodoli rhwng hawliau unigolyn a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  21. hawliau unigolion i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ac i gymryd risgiau
  22. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ynghylch cael cydsyniad
  23. polisi a chanllawiau lleol a chenedlaethol ar gyfer cofnodion unigolion, eu storio, eu hadalw a’u trosglwyddo, a chyfrinachedd gwybodaeth
  24. y wybodaeth sydd wedi’i chofnodi ar gofnodion unigolion; sut i gael at a defnyddio’r wybodaeth hon; a’ch cyfrifoldebau ar gyfer cynnal cofnodion
  25. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion plant a phobl ifanc
  26. sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
  27. pwysigrwydd sefydlu cytgord a pherthynas barchus, gydag ymddiriedaeth, gyda phlant a phobl ifanc, a dulliau o wneud hynny
  28. pwysigrwydd gweithio mewn ffordd sy’n hwyluso ac yn galluogi, a sut i wneud hyn
  29. pwysigrwydd canolbwyntio ar y plentyn neu’r person ifanc fel unigolyn
  30. y ffyrdd y mae plant a phobl ifanc yn cyfathrebu trwy ymddygiad, yn ogystal â thrwy iaith, a sut y gall gwahanol fathau o ymddygiad gael eu dehongli

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb.  Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
 
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGK513

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

Cyfathrebu; rhannu gwybodaeth; iechyd a lles; preifatrwydd; cyfrinachedd; datblygu perthnasoedd