Cyfrannu at gefnogi unigolion sydd wedi profi trawma, niwed neu gamdriniaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn nodi’r gofynion sy’n gysylltiedig â chefnogi unigolion sydd mewn perygl sydd wedi profi trawma neu ddioddef niwed neu gamdriniaeth.
Mae’r safon yn mynd i’r afael â’r gofynion am sefydlu eich dealltwriaeth o ffactorau i’w hystyried wrth gefnogi pobl sydd mewn perygl sydd wedi profi trawma, niwed neu gamdriniaeth. Mae’n cynnwys nodi a bodloni eu hanghenion a gweithio mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo’u hawliau, eu cynhwysiant a’u lles.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio dulliau cyfathrebu ac iaith o ddewis unigolion, yn briodol i’w hanghenion a lefel eu dealltwriaeth
- dangos sgiliau gwrando gweithredol wrth weithio gyda phobl sydd mewn perygl
- darparu cyfleoedd i unigolion ddweud wrthych am eu profiadau, gan dawelu eu meddwl hefyd
- cynorthwyo unigolion i fynegi eu hofnau, eu pryderon a’u teimladau
- gydag unigolion, gwirio’ch dealltwriaeth o’r hyn maen nhw’n ei fynegi a’i gyfleu am eu profiadau, eu hofnau, eu pryderon a’u teimladau
- arsylwi a chofnodi ymddygiad er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r hyn y gall pobl mewn perygl ei deimlo, ond na allant ei fynegi ar lafar
- esbonio wrth unigolion eich dyletswydd i drosglwyddo unrhyw wybodaeth am niwed neu gamdriniaeth, a chyda phwy y mae angen i chi rannu’r wybodaeth hon
- ymateb i ddatgeliadau am niwed neu gamdriniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cynorthwyo’r unigolyn i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol
- darparu cyngor ac arweiniad ar amddiffyn unigolion
- gweithio gydag eraill i sefydlu gwybodaeth am amgylchiadau a phrofiad unigolion
- gweithio gyda phobl eraill berthnasol i asesu anghenion pobl mewn perygl
- ceisio cymorth pan fydd anghenion pobl mewn perygl y tu hwnt i faes eich arbenigedd, eich rôl a’ch cyfrifoldeb
- rhannu gwybodaeth gyda phobl y mae angen y wybodaeth arnynt ac sydd â hawl i’w chael, o fewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad,
- darparu gwybodaeth i unigolion am eu hawliau mewn ffyrdd sy’n briodol i’w hoedran, eu hanghenion a lefel eu dealltwriaeth
- cydnabod cefndir, urddas, preifatrwydd, credoau, diwylliant, gwerthoedd a hawliau’r unigolyn
- darparu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
- gweithio gydag unigolion mewn ffyrdd sy’n gwneud y mwyaf o’u cyfranogiad gweithgar, eu hannibyniaeth a’u cyfrifoldeb
- cynorthwyo i gael at eiriolaeth lle y nodwyd bod angen am hyn
- datblygu cynllun gyda’r unigolion a phobl berthnasol eraill i fodloni’r anghenion a aseswyd
- darparu gwybodaeth i gynorthwyo unigolion i wneud dewisiadau gwybodus am y gofal a’r gwasanaethau a gânt
- gweithredu’r cynllun ar gyfer yr unigolyn o fewn maes eich cyfrifoldeb
- adolygu a gwerthuso’r cynllun gydag unigolion a phobl berthnasol eraill
- trafod unigolion gyda’ch goruchwylydd, i’ch helpu i ymdopi â’ch meddyliau a’ch teimladau am y trawma a gawsant
- cynnal cofnodion cywir a chyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- eich rôl yn hyrwyddo hawliau, dewisiadau, lles a chyfranogiad gweithgar unigolion
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- sut i ddelio â gwahaniaethu a’i herio
- yr hawliau sydd gan unigolion i gwyno a chael eu cynorthwyo i wneud hynny
- sut gall eich cefndir, eich profiadau a’ch credoau gael effaith ar eich ymarfer
- sut i gael at a gweithio yn unol â gweithdrefnau a ffyrdd cytunedig o weithio
- ystyr gweithio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- sut i feithrin ffydd a chytgord mewn perthnasoedd â phobl sydd mewn perygl
- sut i weithio mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cyfranogiad gweithgar ac yn cynnal urddas, parch, credoau personol a dewisiadau unigolion
- sut i weithio mewn partneriaeth ag unigolion a phobl berthnasol eraill
- sut i reoli gwrthdaro a chyfyng-gyngor moesegol yn eich gwaith
- egwyddorion ymrymuso a sut gallai’r rhain gael eu cymhwyso
- sut a phryd i geisio cymorth mewn sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch profiad a’ch arbenigedd
- ffynonellau help a chymorth i chi’ch hun wrth fynd i’r afael ag effaith emosiynol eich gwaith
- natur ac effaith ffactorau a all effeithio ar iechyd, lles a datblygiad unigolion rydych chi’n eu cefnogi
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- sut i archwilio disgwyliadau gydag unigolion, gan gynnwys disgwyliadau o’r broses ymchwiliadol, y broses gyfreithiol a phroses y llys
- sut a phryd i roi gwybod am unrhyw bryderon am gamdriniaeth, ymarfer gwael neu wahaniaethol, adnoddau neu anawsterau gweithrediadol
- egwyddorion cyfrinachedd a phryd i drosglwyddo gwybodaeth sy’n gyfrinachol fel arall
- mathau o freguster a sut y dylid asesu a darparu ar gyfer hyn
- ffyrdd y mae teimladau’n cael eu mynegi trwy ymddygiad
- yr effaith ehangach y gall digwyddiad ei chael ar deulu, cymheiriaid, rhwydweithiau a strwythurau cymorth pobl mewn perygl
- pwysigrwydd ymgysylltu â chymorth y teulu, cymheiriaid, rhwydweithiau a strwythurau cymorth pobl mewn perygl, a defnyddio’r cymorth hwn
- strategaethau rheoli a mathau o strategaethau ymadael y gellir eu defnyddio i ddatgysylltu pan fydd hynny’n briodol
- dulliau ar gyfer mynd i’r afael â gwaith cyngor ac eiriolaeth gyda phobl sydd mewn perygl, neu eu rhanddeiliaid
- sut i arsylwi, cofnodi a rhoi gwybod am gamdriniaeth neu drais posibl, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- sut i wahaniaethu rhwng arsylwi, ffeithiau a gwybodaeth a gafwyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.