Cefnogi goroeswyr yn ystod proses y llys

URN: SFJGK508
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cefnogaeth i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn ystod proses y llys. Mae’n cynnwys sicrhau bod unigolion yn deall y gweithdrefnau a’u rolau o fewn y rhain a’u bod yn deall y deilliannau sy’n codi.
  
Gall adroddiadau am gam-drin domestig neu drais rhywiol ymwneud â digwyddiadau diweddar neu ddigwyddiadau hanesyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gwybodaeth berthnasol am unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  2. cadarnhau bod unigolion yn deall prosesau a gweithdrefnau’r llys yn berthnasol i’w hachos, a’u rôl o fewn y rhain
  3. nodi agweddau ar risg a breguster sy’n gysylltiedig â chymryd rhan mewn achos llys gan unigolion, yn unol â phrosesau asesu risg
  4. archwilio gydag unigolion p’un a oes angen unrhyw gymorth arnynt yn unol â chylch gwaith eich sefydliad ar gyfer gwasanaethau.
  5. cytuno ag unigolion ar y cymorth y mae ei angen arnynt, a’r camau perthnasol i’w cymryd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  6. darparu cyngor am fynediad diogel i’r llys ac oddi yno, ac o fewn adeilad y llys i unigolion, yn unol â’r arweiniad sydd ar gael
  7. eiriol ar ran unigolion, lle bo hynny’n berthnasol, ac yn unol â’ch cyfrifoldebau
  8. rhannu amgylchiadau a risgiau cysylltiedig unigolion gyda phobl berthnasol eraill yn unol â gofynion y sefydliad
  9. archwilio gydag unigolion eu dealltwriaeth o’r achos a’r rhesymau dros y camau sy’n cael eu cymryd, yn unol â gofynion y sefydliad
  10. esbonio deilliannau’r achos i unigolion, yn unol â gofynion y sefydliad
  11. archwilio gydag unigolion eu hanghenion a’u risgiau sy’n deillio o ddeilliannau’r achos, yn unol â phrosesau eich sefydliad
  12. mynd i’r afael ag anghenion a risgiau a nodwyd ar gyfer unigolion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, gan gynnwys atgyfeirio i wasanaethau cymorth eraill
  13. defnyddio arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a’u haddasu i anghenion yr unigolyn
  14. archwilio pryderon sydd gan unigolion ynghylch y broses o gael at amddiffyniad cyfreithiol, yn unol ag arferion a dulliau sefydliadol
  15. nodi gwrthdaro buddiannau posibl wrth gynorthwyo unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, gan gynnwys:
  16. 15.1 hysbysu pobl eraill pan fydd gwrthdaro buddiannau’n codi sydd y tu hwnt i’ch rôl, eich cyfrifoldebau a’ch galluoedd proffesiynol
  17. cynnal cofnodion cywir a chyfredol o’ch trafodaethau a’u deilliannau yn unol â pholisïau a gweithdrefn eich sefydliad
  18. cynnal cyfrinachedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi ac i rôl pobl eraill yn eich sefydliad
  2. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  3. rôl eich sefydliad a’i wasanaethau yn gysylltiedig â mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol, gan gynnwys darparu cymorth i unigolion
  4. camau prosesau cyfiawnder i ganiatáu i unigolion wneud dewisiadau gwybodus a rheoli eu disgwyliadau, a phwysigrwydd gwneud hynny
  5. pwy i’w hysbysu pan na allwch gefnogi unigolion o fewn eich rôl a’ch awdurdod
  6. pwy y dylid ceisio cyngor oddi wrthynt pan fydd angen cymorth arnoch yn eich rôl
  7. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn y gymuned
  8. pwysigrwydd ôl-drafod gyda phobl eraill
  9. sut i fod yn sensitif ac yn hyblyg eich ffordd, gan ddefnyddio amrywiol dechnegau sy’n briodol i ymddygiad ac agwedd unigolion
  10. rôl ac effaith croestoriadedd yn gysylltiedig â cham-drin domestig a thrais rhywiol
  11. gwahanol fathau o lysoedd, a’u prosesau a’u gweithdrefnau priodol, o fewn eich awdurdodaeth
  12. paratoadau cyn achos llys a rôl unigolion o fewn y rhain
  13. rolau a chyfrifoldebau swyddogion y llys o fewn eich awdurdodaeth
  14. effaith bwrw ymlaen ag achos llys i unigolion, a sut y gallwch esbonio hyn i unigolion
  15. y camau i’w cymryd pan fydd gennych bryderon am addasrwydd unigolion i roi tystiolaeth
  16. sut i gynnal diogelwch a lles unigolion
  17. yr amgylchiadau sy’n gofyn am drefnu mesurau arbennig, gan gynnwys eu manteision a’u hanfanteision
  18. sut i fynd i’r afael ag amharodrwydd unigolion i roi tystiolaeth neu eu hofn gwneud hynny
  19. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda’r ystod o asiantaethau a gwasanaethau
  20. y gwahaniaethau rhwng cynorthwyo unigolion i ddarparu tystiolaeth ar gyfer y llys a hyfforddi, a goblygiadau hyn
  21. goblygiadau cydgynllwynio gweithgar, hyfforddi a chysylltiad amhriodol gydag unigolion a rhwng unigolion yn ystod achos llys, a sut i adnabod ac osgoi hyn
  22. effaith cyhuddiadau o hyfforddi a chydgynllwynio gweithgar gydag unigolion
  23. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  24. y goblygiadau allweddol i’ch rôl wrth weithio gydag unigolion sydd â chyflawnydd cyffredin
  25. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o wneud
  26. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
  27. sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff
  28. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  29. yr effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau ei chael wrth weithio gydag unigolion
  30. sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  31. yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion
  32. pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn deall pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu bodloni

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ail-achosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJ GK508

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

unigolyn; dioddefwr; goroeswr; rhywiol; darpariaeth; ymchwilio; gwybodaeth; cymuned