Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau i fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gydag asiantaethau a rhanddeiliaid perthnasol. Bydd perthnasoedd gwaith rydych chi’n eu datblygu yn cefnogi ac yn gwella’r ddarpariaeth gwasanaethau gyda’r nod o gefnogi unigolion sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y gymuned.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi pobl eraill berthnasol yn eich sefydliad y gallwch weithio gyda nhw i fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
- pennu a yw contract presennol eich sefydliad gydag asiantaethau perthnasol yn addas at y diben, ar sail:
• nodau, amcanion a diben asiantaethau perthnasol
• cymorth a darpariaethau i unigolion gan asiantaethau eraill
• lefelau cydweithredu
• ymgysylltiad, capasiti, gwybodaeth, profiad a sgiliau priodol pobl y mae eich sefydliad yn rhwydweithio â nhw - asesu effeithiolrwydd cysylltiad presennol eich sefydliad gydag asiantaethau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cytuno gyda chydweithwyr ar sut i wella perthnasoedd gwaith gydag asiantaethau a chymunedau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- cytuno ar fesurau perfformiad allweddol ar gyfer datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gydag asiantaethau a chymunedau, yn unol ag arweiniad sydd ar gael
- gweithio gydag asiantaethau eraill i wireddu buddion dull cyffredin, wedi’i gydlynu, ar gyfer codi lefel y wybodaeth a’r ddealltwriaeth ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol
- nodi nodau ac amcanion asiantaethau eraill yn berthnasol i wella’r ymateb i gam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael i unigolion sydd wedi’u heffeithio ganddynt
- cydweithio ag asiantaethau eraill pan fo angen er mwyn paratoi cytundebau cofnodedig ynghylch rolau a chyfrifoldebau
- gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau eraill sy’n darparu cymorth a gwasanaethau i unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gweithio gydag asiantaethau i gynorthwyo â throsglwyddo unigolion rhwng gwahanol wasanaethau a chymorth, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- rhannu gwybodaeth briodol gyda phobl eraill berthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- hyrwyddo gwerth ymgysylltu ag asiantaethau eraill a’r gymuned ehangach i bobl eraill, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys i:
- cynnal cyfrinachedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheoleiddiol a sefydliadol
- diweddaru cofnodion a gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- rôl, cylch gwaith, gwasanaethau ac amcanion eich sefydliad, gan gynnwys darparu gwybodaeth a chymorth i unigolion
- sut mae nodau ac amcanion eich sefydliad yn perthyn i nodau ac amcanion sefydliadau a gwasanaethau eraill
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- anghenion gwybodaeth a chymorth cyffredin unigolion sydd wedi profi trais rhywiol a sut i fodloni’r rhain
- rôl ac effaith croestoriadedd yn gysylltiedig â thrais rhywiol
- mentrau lleol a chenedlaethol perthnasol, a’u heffaith o ran datblygu gwasanaethau i fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
- asiantaethau a chynrychiolwyr yn eich cymuned a all ddarparu gwybodaeth a chamau gweithredu gyda’r nod o fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol, gan gynnwys
• y cymorth sydd ar gael i unigolion
• strwythur asiantaethau
• pwy y dylid cysylltu â nhw wrth ystyried materion strategol a gweithredol perthnasol
• y cymorth sydd ar gael i chi fel ymarferwr. - gweithdrefnau a phrosesau asiantaethau eraill, gan gynnwys
• atgyfeiriadau
• cael at gymorth a gwasanaethau
• trosglwyddo rhwng gwasanaethau gwahanol
• rhannu gwybodaeth briodol - sut i gynorthwyo â throsglwyddo unigolion rhwng gwasanaethau a chymorth gwahanol, gan gynnwys gwneud cyflwyniadau i asiantaethau eraill
- nodau ac amcanion y prif asiantaethau o fewn eich cymuned yn berthnasol i wella sut caiff cam-drin domestig neu drais rhywiol eu trin
- pwysigrwydd ystyried safbwyntiau a blaenoriaethau asiantaethau a chynrychiolwyr cymunedol eraill wrth ymdrin â cham-drin domestig neu drais rhywiol a gweithio gydag unigolion
- y rhesymau pam y gall fod gwrthdaro a chamddealltwriaeth rhwng gwahanol asiantaethau a sut i ddelio â’r rhain
- pwysigrwydd nodi rhanddeiliaid allweddol mewn gwahanol asiantaethau
- pa wybodaeth y mae’n briodol ei darparu i wahanol asiantaethau a chymunedau
- pwysigrwydd herio camsyniadau nodweddiadol a safbwyntiau ystrydebol mewn asiantaethau a chymunedau ynghylch pa mor gyffredin yw cam-drin domestig neu drais rhywiol, eu hachosion, eu mathau a’u heffaith
- y rhesymau cyffredin dros wrthdaro a chamsyniadau rhwng gwahanol asiantaethau, gan gynnwys blaenoriaethau amrywiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ail-achosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.