Cynnal asesiad i nodi anghenion unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol, a risgiau iddynt
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu’r anghenion a’r risgiau i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae’n cynnwys unigolion yn yr asesiad, lle bynnag y bo’n bosibl, a chytuno ar y ffactorau a’r anghenion y mae angen mynd i’r afael â nhw fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus.
Bydd deilliannau canlyniadol yr asesiad yn llywio datblygu a gweithredu cynlluniau ymyrryd priodol, gyda safonau galwedigaethol cenedlaethol ar wahân, ond cysylltiedig, yn mynd i’r afael â’r gweithgarwch hwn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldeb i unigolion
- cynnal trafodaethau gydag unigolion mewn amgylcheddau priodol a diogel
- esbonio polisïau cyfrinachedd eich sefydliad wrth unigolion, gan gynnwys amgylchiadau pan mae’n rhaid datgelu gwybodaeth
- nodi natur a lefel y risg i unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- casglu gwybodaeth oddi wrth unigolion i nodi eu hanghenion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- asesu arwyddocâd sefyllfa gyffredinol unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys:
• eu rhwydwaith cymdeithasol
• lles emosiynol
• lles seicolegol - cwblhau asesiadau risg gan ddefnyddio modelau, offer ac arweiniad asesu priodol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- darparu tystiolaeth i ddangos sylfaen penderfyniadau ynghylch y ffactorau risg posibl, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- esbonio deilliannau tebygol y risg a nodwyd wrth unigolion, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- pennu’r ffactorau sy’n cyfrannu at risg i unigolion, ac yn prysuro’r risg honno, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
- nodi mesurau sy’n lleihau risg i unigolion a’u teulu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- trafod datrysiadau gyda phobl berthnasol eraill sy’n lleihau risg i unigolion a’u teulu, lle y bo’n berthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- atgyfeirio sefyllfaoedd i eraill am asesiad mwy manwl o anghenion unigolion, pan fo angen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- rhybuddio pobl eraill berthnasol pan fyddwch yn nodi pryderon am risg niwed i unigolion a’u teulu, lle y bo’n berthnasol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- blaenoriaethu anghenion uniongyrchol a hirdymor unigolion yn unol â gofynion sefydliadol
- gydag unigolion, archwilio’r opsiynau sydd ar gael a buddion ac effaith opsiynau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- cytuno gydag unigolion ar opsiynau cymorth sy’n bodloni eu hanghenion yn unol â chylch gwaith eich sefydliad
- hyrwyddo ymgysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol mewn ffyrdd sy’n annog unigolion i gydnabod effeithiau buddiol gwneud hynny
- cytuno ar gamau gweithredu ac amserlenni cymorth i fodloni anghenion unigolion yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
- trafod asesiad anghenion unigolyn gyda phobl berthnasol eraill yn unol â gofynion sefydliadol, gan gynnwys rhannu materion, penderfyniadau a phrosesau allweddol
- cynnal cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- pwysigrwydd adolygu asesiadau risg ac anghenion yn barhaus pan fydd gwybodaeth newydd ar gael
- pwy y dylech roi gwybod iddynt os nad allwch gefnogi unigolion o fewn eich rôl a’ch awdurdod
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- yr effaith bosibl ar bawb y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt, gan gynnwys teulu’r unigolyn
- anghenion gwybodaeth a chymorth pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol a sut i fodloni’r rhain
- trefniadau amlasiantaethol ar gyfer darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion yn eich ardal
- sut i fod yn sensitif ac yn hyblyg eich ffordd, gan ddefnyddio technegau sy’n briodol i ymddygiad ac agwedd unigolion
- rôl ac effaith croestoriadedd yn gysylltiedig â cham-drin domestig a thrais rhywiol
- offer, modelau a phrosesau asesu risg ac anghenion a sut i’w dewis a’u defnyddio
- y wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer gwneud asesiad cynhwysfawr o anghenion a risgiau unigolion
- pwysigrwydd nodi risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ddulliau cyfathrebu wrth weithio gydag unigolion, gan gynnwys
• ffonau symudol
• defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
• cyfathrebu electronig a rhithwir - dulliau o wirio a chadarnhau gwybodaeth sydd ar gael
- sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac adroddiadau ail-law
- ffactorau sy’n effeithio ar lefelau risg i unigolion,
- gwybodaeth sy’n ofynnol i adnabod unigolion y mae perygl o’r canlynol iddynt:
• ailerledigaeth
• gorfodaeth - pwysigrwydd asesu ffactorau sy’n cynyddu risg niwed a chamdriniaeth i eraill gan gyflawnwyr
- y camau gweithredu sy’n ofynnol pan fyddwch yn nodi risg niwed a chamdriniaeth i eraill gan
- amgylchiadau sy’n gofyn am asesiadau ychwanegol a sut i drefnu’r rhain
- sut i symud cymorth yn ei flaen pan fydd risg i unigolion
- pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o wneud
- sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
- sut i gymhwyso ymarfer ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
- gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- dulliau a thechnegau ar gyfer annog unigolion i ymgysylltu â’r cymorth a ddarperir
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau, fel iaith y corff a gwrando gweithredol
- sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael wrth weithio gyda chyflawnwyr ac unigolion
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion
- pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn deall pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu bodloni
- cyfyngiadau cyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.