Cyfathrebu ac ymgysylltu ag unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol

URN: SFJGK502
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu ag unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol, yn enwedig yn y cyfarfodydd cyntaf pan fydd yr unigolion wedi troi at eich sefydliad, efallai trwy atgyfeiriad neu atgyfeiriad brys.

Mae’n cynnwys trafodaethau cychwynnol, trefnu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd a siarad â’r unigolion mewn ffordd sy’n meithrin ffydd ac sy’n hwyluso datgelu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu gwybodaeth cyn cyfarfod ag unigolion, gan gynnwys:
    • eu hamgylchiadau personol
    • unrhyw ffactorau risg hysbys
    • y rhesymau dros eu cyflwyno i’ch gwasanaethau chi
  2. cysylltu ag unigolion gan ddefnyddio’r dull cyfathrebu maen nhw’n ei ffafrio lle bo hynny’n hysbys, gan ystyried y risg gysylltiedig i’w lles a’u diogelwch
  3. cyflwyno’ch hun a’ch sefydliad, gan roi’r rheswm dros eich cysylltiad, yn unol â gofynion eich sefydliad ac arferion gweithio diogel
  4. cytuno ar gyfarfodydd gydag unigolion, gan gyfrif am unrhyw risgiau i’ch iechyd a’ch diogelwch chi a’u hiechyd a’u diogelwch nhw
  5. paratoi amgylcheddau diogel ac addas cyn cyfarfod ag unigolion, gan ystyried eu hanghenion corfforol ac emosiynol
  6. darparu ffynonellau gwybodaeth perthnasol am gam-drin domestig neu drais rhywiol, gan gynnwys y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan eich sefydliad
  7. esbonio eich rôl a’ch cyfrifoldebau i unigolion a darparu manylion pobl y gallant gysylltu â nhw yn eich sefydliad os oes unrhyw bryderon neu gwestiynau
  8. esbonio polisi’ch sefydliad ar gyfrinachedd
  9. cael cydsyniad gan unigolion i rannu gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  10. anfon unrhyw wybodaeth ymlaen i’r gwasanaeth priodol am ddiogelwch unigolion neu pan fydd risg sylweddol o niwed i bobl eraill
  11. cynnig dewis o ymarferydd arbenigol i’r unigolyn, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  12. nodi’r ystod o wasanaethau y gallwch chi a’ch sefydliad ei chynnig i unigolion
  13. cadarnhau bod unrhyw bobl sydd yng nghwmni’r unigolion yn deall eu rôl
  14. darparu man diogel i’r unigolion drafod eu hamgylchiadau personol a:
  15. sefydlu eu perthynas â’r camdriniwr
  16. natur y gamdriniaeth ac effaith camdriniaeth ar eu hiechyd, eu diogelwch a’u lles
  17. cyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion a’u galluoedd
  18. gwrando ar y pwyntiau a wneir ac ymateb iddynt, gan gydnabod effeithiau eu profiad ac anghenion a galluoedd unigolion
  19. gydag unigolion, archwilio’u perthynas â chyflawnwyr a natur y gamdriniaeth y gwnaethant ei dioddef

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. prosesau a mesurau perthnasol ar gyfer diogelu unigolion, gan gynnwys pobl ifanc, plant a phobl mewn perygl
  4. gofynion sefydliadol ar gyfer caniatáu i bobl eraill fod yn bresennol mewn trafodaethau gydag unigolion, a’r buddion a’r anfanteision cymharol y gall presenoldeb pobl eraill eu creu
  5. rôl asiantaethau a rhanddeiliaid allanol sy’n darparu gwasanaethau a chymorth i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eich maes
  6. effaith trais ar unigolion a’u hangen am gael eu hamddiffyn, eu parchu, cydnabyddiaeth, gwybodaeth a chyfrinachedd
  7. arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
  8. effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion, plant a dibynyddion
  9. sut gall dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
  10. pwy y dylech roi gwybod iddynt os na allwch gefnogi unigolion o fewn eich rôl a’ch awdurdod
  11. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  12. cymorth proffesiynol a gwasanaethau eraill sydd ar gael i unigolion pan ellir mynd y tu hwnt i gymhwysedd proffesiynol eich rôl
  13. camau’r broses cyfiawnder troseddol i ganiatáu i’r unigolyn wneud dewisiadau gwybodus a rheoli’i ddisgwyliadau
  14. y mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a’u ffynonellau
  15. y goblygiadau allweddol i’ch rôl wrth weithio gydag unigolion sydd wedi enwi’r un cyflawnwr, gan gynnwys:
    • gwrthdaro buddiannau
    • cynnal cyfrinachedd a phreifatrwydd
    • risg datgelu
    • anghenion cymorth a gwybodaeth unigolion o’r fath
  16. beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
  17. sut i fod yn sensitif ac yn hyblyg eich ffordd, gan ddefnyddio amrywiol dechnegau yn briodol i ymddygiad ac agwedd unigolion
  18. rôl ac effaith croestoriadedd yn gysylltiedig â cham-drin domestig neu drais rhywiol
  19. sut i gymhwyso ymarfer ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  20. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  21. sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
  22. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  23. y camau sy’n ofynnol pan nodir bod camdriniaeth wedi cael ei datgelu
  24. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael wrth weithio gydag unigolion
  25. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir, gan gynnwys effaith cofnodion y gofynnir amdanynt i’w datgelu i drydydd parti
  26. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
  27. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  28. gwahanol ffyrdd o gyfathrebu a’u risgiau cysylltiedig, gan gynnwys:
    • ffonau symudol
    • defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
    • cyfathrebu electronig a rhithwir
  29. ffactorau sy’n effeithio ar allu unigolion i roi cydsyniad gwybodus
  30. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o wneud
  31. pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau, fel iaith y corff, a sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol.
  32. y gwahaniaethau rhwng gwybodaeth a chymorth rydych chi’n eu darparu
  33. sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  34. yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion
  35. pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn deall pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu diwallu a pham
  36. cyfyngiadau cyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SfJ GK502

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

cyfathrebu; ymgysylltu; atgyfeirio; cydsyniad; cyfrinachedd