Sefydlu angen unigolion am gymorth cychwynnol ynghylch datgelu cam-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â mynd i’r afael ag angen unigolion am gymorth cychwynnol i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol a delio â hynny gyda doethineb a sensitifrwydd.
Mae’n cynnwys eich gallu i reoli rhyngweithiadau, cyflwyno argraff gadarnhaol ohonoch eich hun a’ch sefydliad, a chyfathrebu ag unigolion gan gynnwys pobl a all fod mewn trallod neu’n bryderus.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sy’n cael profiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- agor trafodaethau gydag unigolion gan ddefnyddio termau ac ymadroddion derbyniol, ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cyfathrebu ag unigolion gan ddefnyddio technegau priodol, mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’w hanghenion:
- esbonio gweithdrefnau eich sefydliad yn gysylltiedig â chyfrinachedd unigolion
- archwilio’u sefyllfa a’u hamgyffrediad o anghenion gydag unigolion mewn amgylchedd priodol a diogel i unigolion ac i chi’ch hun
- ymateb i ddatgeliadau cychwynnol o gamdriniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cadarnhau eich bod yn gwrando trwy gydnabod ac egluro pwyntiau a gododd unigolion
- asesu sefyllfaoedd unigolion a phennu’r ymateb priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- nodi unrhyw wrthdaro posibl rhwng gofynion unigolion ac ymatebion arfaethedig
- mynd i’r afael ag ymatebion mewn ffyrdd sy’n anelu at hybu ffordd gytunedig ymlaen, sy’n cynnal perthynas gadarnhaol gydag unigolion
- ymateb i unigolion yr asesir bod risg niwed iddynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cydbwyso anghenion yr unigolyn â gofynion eich sefydliad a rheoli’i ddisgwyliadau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cau trafodaethau ag unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- rhoi camau gweithredu ar waith, fel y bo angen, i fynd i’r afael ag anghenion unigolion, gan symud y rhain yn eu blaen yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- cynnal cyfrinachedd yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
- cynnal cofnodion o drafodaethau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod i’r heddlu am wybodaeth am drosedd wirioneddol neu drosedd honedig
- rôl, cylch gwaith, amcanion a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol, gan gynnwys darparu cymorth i unigolion
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- camau’r broses cyfiawnder troseddol i ganiatáu i’r unigolyn wneud dewisiadau gwybodus a rheoli’i ddisgwyliadau
- gweithdrefnau eich sefydliad a phwysigrwydd cael at oruchwyliaeth ac ôl-drafod
- sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion
- sut gall plant a dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
- y mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a’u ffynonellau
- rôl asiantaethau a rhanddeiliaid allanol o ran darparu atgyfeiriadau a chymorth i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eich maes
- camsyniadau a safbwyntiau ystrydebol sydd ar led yn gyhoeddus am lefelau camdriniaeth a’i hachosion
- sut i asesu anghenion unigolion a phennu natur a brys yr ymateb y mae ei angen yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- mathau priodol o gwestiynu, gan gynnwys cwestiynau agored, caeedig a chwestiynau treiddgar
- pwysigrwydd gwrando effeithiol a thechnegau ar gyfer gwneud hynny
- sut i gynnal cyfranogiad effeithiol gan unigolion yn ystod rhyngweithiadau
- pwysigrwydd pennu gofynion ac anghenion unigolion a dulliau o wneud hynny
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- y camau gweithredu sydd ar gael pan nodir datgeliad o gamdriniaeth
- technegau ar gyfer cadw rheolaeth ar ryngweithiadau ag unigolion a chynnal perthynas gadarnhaol ar yr un pryd
- sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
- sut i gymhwyso ymarfer ystyriol o drawma ym maes eich ymarfer
- gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
- yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig yr unigolyn
- pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn deall beth sy’n digwydd a pham
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- pwysigrwydd cofnodi’r holl fanylion a sut i wneud hynny
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.