Darparu cymorth i unigolion sydd wedi cael eu gorfodi i briodi

URN: SFJGK301
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i adnabod unigolion sydd wedi cael eu gorfodi i briodi a darparu cymorth iddynt. Gall cymorth o’r fath gynnwys atgyfeiriad i asiantaeth gymorth briodol.

Mae safonau pellach yn mynd i’r afael â chynnal asesiadau risg llawn ac ymyriadau sy’n anelu at amddiffyn iechyd, diogelwch a lles unigolion o’r fath.

Cydnabyddir bod dioddefwyr priodasau dan orfod yn gallu bod yn bobl ifanc o dan 18 oed neu’n unigolion mewn perygl sydd dros 18 oed.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sy’n cael eu gorfodi i briodi ac sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. arsylwi unigolion er mwyn adnabod arwyddion a all awgrymu dioddefwr posibl priodas dan orfod
  2. trafod eu sefyllfa a’u hanghenion gydag unigolion mewn amgylchedd priodol a diogel
  3. cyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion a’u galluoedd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  4. asesu gwybodaeth sydd ar gael i adnabod unigolion sy’n cael eu gorfodi i briodi, gan gynnwys:
    • arwyddion o unigolion sydd wedi’u heffeithio gan briodas dan orfod
    • nodi bel mae digon o dystiolaeth i deilyngu archwilio pellach
  5. asesu risgiau i unigolion sy’n effeithio ar eu diogelwch, eu hiechyd a’u lles, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  6. esbonio’r opsiynau cymorth sydd ar gael, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  7. cofnodi unrhyw anafiadau a threfnu archwiliadau meddygol, lle bo hynny’n briodol
  8. esbonio gofynion ynghylch cyfrinachedd i unigolion, gan gynnwys:
    • ar ba bartïon y gall fod angen gwybodaeth benodol
    • yr amgylchiadau pan y gall fod rhaid datgelu gwybodaeth.
  9. archwilio opsiynau o ran ffyrdd ymlaen, gan gynnwys unrhyw agweddau ar risg, iechyd a lles, diogelwch ac amddiffyniad gydag unigolion
  10. esbonio’r rhesymau dros fwrw ymlaen ag opsiynau a all fod yn groes i ddymuniadau’r unigolyn
  11. troi at weithdrefnau amddiffyn plant lleol, perthnasol, pan fydd risgiau i iechyd, diogelwch a lles:
    • unigolion o dan ddeunaw oed
    • unrhyw blant a dibynyddion sy’n gysylltiedig
  12. atgyfeirio unigolion sydd mewn perygl at asiantaethau priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  13. gweithio gyda sefydliadau eraill yn unol â gweithdrefnau priodol a threfniadau partneriaeth
  14. cynnwys unigolion mewn trafodaethau ar gamau tuag at eu hamddiffyn
    1. cyfeirio unrhyw amheuon am gyflawni trosedd bosibl at yr awdurdod angenrheidiol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  15. rhoi gwybod i unigolion am eu hawliau yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau, gan gynnwys:
    • eu hawl i geisio cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol
    • nad oes angen cael cynrychiolaeth gyfreithiol bob amser
  16. darparu cyngor i unigolion ar ddiogelwch personol, yn berthnasol i’w hanghenion
  17. cadarnhau bod unigolion yn deall y ffordd ymlaen, gan gynnwys:
    • y gwasanaethau a’r cymorth y gallant eu ddisgwyl
    • pwy fydd yn darparu gwasanaethau a chymorth
  18. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  19. cynnal cyfrinachedd yn unol â gofynion deddfwriaethol, sefydliadol a rheoliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. rôl, cylch gwaith, amcanion a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer cefnogi unigolion sy’n rhan o briodasau dan orfod
  5. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  6. yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion
  7. pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn gwybod beth yw priodas dan orfod a phriodas wedi’i threfnu, a’r gwahaniaethau rhyngddynt
  8. rôl ‘anrhydedd’ mewn priodas dan orfod a phriodas wedi’i threfnu
  9. y dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth ar y rhai sy’n cael eu gorfodi i briodi
  10. yr effaith ar bawb y mae priodas dan orfod wedi effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion
  11. beth yw ystyr diogelu
  12. y gwahanol ffyrdd y gallai plant, pobl ifanc a dibynyddion gael eu niweidio
  13. pryd a sut i drafod pryderon am gam-drin gyda rhieni, gofalwyr ac aelodau teulu
  14. pwysigrwydd cydnabod y gall rhieni, gofalwyr ac aelodau teulu fod yn rhan o briodasau dan orfod
  15. arwyddion rhybudd a dangosyddion priodas bosibl neu briodas wirioneddol dan orfod
  16. sut i asesu arwyddion a dangosyddion priodas dan orfod, gan gynnwys:
  17. gwahanol fathau o gam-drin domestig a thrais rhywiol sy’n gysylltiedig â phriodasau dan orfod a’u heffaith ar unigolion
  18. y mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan briodasau dan orfod yn eu ceisio, a’u ffynonellau
  19. y camau gweithredu sydd ar gael i chi pan nodir datgeliad o briodas dan orfod
  20. rôl y prif asiantaethau a rhanddeiliaid allanol sy’n darparu atgyfeiriadau a chymorth i unigolion y mae priodasau dan orfod wedi effeithio arnynt yn eich ardal
  21. gwasanaethau cymorth arbenigol sydd ar gael i unigolion y mae priodas dan orfod a throseddau anrhydedd wedi effeithio arnynt
  22. sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
  23. sut i gymhwyso ymarfer ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  24. deall gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  25. sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
  26. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  27. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill yng nghyd-destun diogelwch, iechyd a lles yr unigolyn
  28. yr egwyddorion sy’n rheoli pryd yr ystyrir bod pobl ifanc yn ddigon aeddfed i gydsynio i’w gwybodaeth gael ei rhannu gyda phartïon eraill
  29. y gwahaniaeth rhwng rhannu gwybodaeth ar lefelau unigol, sefydliadol a phroffesiynol
  30. partïon eraill y mae angen gwybodaeth arnynt, ac sydd â hawl i wybodaeth, pa wybodaeth y mae ganddynt hawl i’w chael a phryd
  31. sut mae agweddau’n gysylltiedig â diwylliant, cymdeithas a rhywedd yn effeithio ar gam-drin domestig a thrais rhywiol
  32. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  33. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o wneud
  34. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu i fodloni anghenion unigolion
  35. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  36. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael
  37. ut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb.  Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
 
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGK301

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

priodas wedi’i threfnu; adnabod; darpariaeth; oedolion agored i niwed; diogelu; pobl ifanc; cam-drin; trais domestig