Darparu llety diogel a chymorth i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo unigolion a’u dibynyddion i gael at lety diogel a phriodol. Mae’n cynnwys darparu cymorth i unigolion a’ch cyfraniad at ddiogelwch y llety.
Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr yn eich sefydliad chi ac mewn sefydliadau eraill i gynorthwyo unigolion i ddod o hyd i lety. Gall llety diogel gynnwys llochesi, hosteli, llety rhent preifat, ailgartrefu, noddfa neu dai â chymorth.
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn llety diogel ac i ymarferwyr sy’n cefnogi pobl sy’n cael profiad o gam-drin domestig, a all gynnwys achosion o drais rhywiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu ac asesu gwybodaeth i sefydlu’r risgiau uniongyrchol i unigolion, gan gynnwys:
• manylion personol
• sefyllfa bresennol o ran llety
• unrhyw ddibynyddion sy’n gysylltiedig
• risg gysylltiedig i ddiogelwch, iechyd a lles
• ffactorau sy’n effeithio ar eu breguster
• cyfyngiadau amser o ran bodloni anghenion llety - esbonio eich rôl, eich cyfrifoldebau a gwasanaethau eich sefydliad i unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gydag unigolion, archwilio’u hanghenion a chytuno ar y cymorth i’w ddarparu
- esbonio wrth unigolion y prosesau ar gyfer llety mewn argyfwng, os bydd ei angen, gan gynnwys:
• unrhyw gyfyngiadau
• pa mor hir y gellir aros
• costau cysylltiedig
• help a chymorth pellach sydd ar gael
• unrhyw rwystrau sy’n cael eu hamgyffred - trafod gydag unigolion eu hopsiynau ar gyfer llety, sy’n archwilio:
• manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau
• rhwystrau rhag cael at lety a chymorth
• sut i fynd i’r afael â rhwystrau a nodwyd - cytuno ag unigolion ar y telerau, yr amodau, y rhent a’r gwasanaethau ar gyfer eu harhosiad mewn llety diogel neu lety mewn argyfwng
- darparu cyngor a chymorth i unigolion fel y gallant gael at gyllid ar gyfer llety, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- gwneud trefniadau i unigolion gael at lety diogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- esbonio wrth unigolion eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau’n gysylltiedig â llety a ddarperir, yn unol â chytundebau llety
- darparu cymorth i unigolion wrth symud i mewn i lety, yn unol â chynlluniau cytunedig, eich cyfrifoldebau a chyfrifoldebau eich sefydliad
- monitro cynnydd unigolion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cael adborth oddi wrth bobl berthnasol eraill am gynnydd unigolion yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
- mynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n codi gyda llety unigolion yn unol â’ch cyfrifoldebau a chyfrifoldebau eich sefydliad
- cyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion a’u galluoedd
- trefnu gwasanaethau a chymorth arbenigol i unigolion i fodloni eu hanghenion
- paratoi a chytuno ar gynlluniau gydag unigolion i fonitro a gwerthuso’u gofyniad parhaus am lety diogel
- cytuno ar strategaethau ymadael gydag unigolion mewn llety diogel, sy’n cyfrif am eu hanghenion a risgiau a nodwyd iddynt
- cynnal gwasanaethau a chyfleusterau a ddarparwyd o fewn llety yn unol â’ch rôl a chylch gwaith eich sefydliad ar gyfer gwasanaethau
- gydag unigolion, archwilio’u gofynion am ddiogelwch personol o fewn llety, gan gynnwys:
• y rhesymau dros y gofyniad
• canlyniadau peidio â chyflawni gofynion - nodi a mynd i’r afael ag unrhyw dor-diogelwch personol a thelerau ac amodau cytunedig yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- nodi unigolion sydd mewn perygl o ran eu diogelwch a’u lles, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- rheoli diogelwch a lles unigolion yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
- cynnal gweithdrefnau a chyfarpar sy’n sicrhau diogelwch llety
- cadarnhau bod darparwyr gwasanaethau yn deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau o ran anghenion llety unigolion
- cynnal cysylltiad priodol gyda darparwyr a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n digwydd, yn unol â threfniadau partneriaeth
- cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol, gan gynnwys darparu llety a chymorth i unigolion.
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- yr effaith ar bawb y mae cam-drin domestig neu drais rhywiol wedi effeithio arnynt
- sut gall dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
- y mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a’u ffynonellau
- rôl asiantaethau cymorth allanol o ran darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion yn eich maes
- trefniadau amlasiantaethol ar gyfer darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion yn eich maes.
- y mathau o lety diogel a’i ddarparwyr
- buddion ac anfanteision gwahanol fathau o lety i unigolion ag anghenion a phroblemau gwahanol
- ffactorau i’w hystyried wrth drefnu llety diogel neu lety mewn argyfwng i unigolion, gan gynnwys unrhyw ddibynyddion
- telerau ac amodau eich sefydliad ar gyfer pobl sy’n aros mewn llety diogel neu lety mewn argyfwng
- pwysigrwydd cytuno gydag unigolion ar y telerau ac amodau ar gyfer y rhai sy’n aros mewn llety diogel
- y camau i’w cymryd pan fydd unigolion yn torri telerau ac amodau cytunedig
- hawliau unigolion yn gysylltiedig â lle y gallant gael eu cartrefu a’u lletya
- dyletswyddau awdurdodau lleol i gartrefu a chefnogi gwahanol grwpiau o unigolion
- y buddion sydd ar gael i grwpiau penodol o unigolion, gan gynnwys mentrau cyllid a chymorth llety, a sut i gael at y rhain
- sgiliau ymarferol ac emosiynol y mae ar unigolion eu hangen i allu byw’n annibynnol
- ffactorau sy’n effeithio ar freguster unigolion sydd wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol
- y rhesymau pam y gall rhai unigolion deimlo’n deyrngar i’w camdrinwyr
- gofynion diogelwch ar gyfer y llety diogel rydych chi’n gweithio ynddo
- gweithdrefnau mewn argyfwng os caiff niwed ei fygwth i unigolion mewn llety
- gweithdrefnau cynnal a chadw a thrwsio eich sefydliad yn gysylltiedig â’r cyfleusterau yn y llety
- y trefniadau y mae eu hangen ar unigolion sy’n cael eu hystyried mewn perygl
- pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o wneud hynny
- yr ystod o arddulliau a thechnegau cyfathrebu sydd ar gael a phryd a sut i’w haddasu
- sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gallant ei chael wrth weithio gydag unigolion
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.