Monitro a gwerthuso effaith rhaglenni ymyrraeth ar iechyd a lles unigolion

URN: SFJGK107
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso effaith rhaglenni ymyrraeth ar reoli’r risgiau i ddiogelwch, iechyd a lles unigolion. Mae’n cynnwys sicrhau bod asesiadau risg parhaus yn gyfredol.

Mae’r safon hon yn cynnwys eich gallu i weithio gydag unigolion i wella’u hiechyd a’u lles, ynghyd â phobl sy’n ymwneud â chyflwyno ymyriadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu gwybodaeth i nodi’r camau gweithredu a’r cymorth a ddarperir i unigolion trwy ymyriadau
  2. pennu meini prawf ar gyfer gwerthuso deilliannau a dulliau o fonitro cynnydd yn unol â’r canllawiau sydd ar gael
  3. monitro cynnydd y cymorth a ddarperir i unigolion trwy ymyriadau gan ddefnyddio dulliau priodol
  4. nodi a mynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud ag ymyriadau a’r cymorth a ddarperir i unigolion, yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
  5. gydag unigolion, archwilio eu hamgyffredion o ymyriadau, gan gynnwys:
    • risgiau i’w diogelwch, eu hiechyd a’u lles
    • effaith ymyriadau ar eu diogelwch, eu hiechyd a’u lles
  6. annog pobl eraill berthnasol sy’n ymwneud â chyflwyno ymyriadau i unigolion i roi adborth ar eu cynnydd
  7. cwblhau asesiadau risg parhaus i unigolion yn unol â lefelau risg a nodwyd ar eu cyfer yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  8. rhoi gwybod i’r person perthnasol am unrhyw anawsterau wrth ymgymryd ag asesiadau risg
  9. ymateb i newidiadau mewn risgiau i unigolion trwy ymyriadau, gan gynnwys:
    • gwneud newidiadau i ymyriadau sydd eisoes yn bodoli
    • cyflwyno ymyriadau newydd
  10. cymharu deilliannau a gyflawnwyd yn erbyn amcanion ar gyfer ymyriadau, yn unol â meini prawf gwerthuso cytunedig
  11. adolygu a gwerthuso ymyriadau yn unol â meini prawf gwerthuso
  12. gweithio gyda phobl eraill sy’n ymwneud ag ymyriadau, yn unol â threfniadau partneriaeth
  13. darparu gwybodaeth am ymyriadau effeithiol i bobl eraill sydd angen y wybodaeth, gan gynnwys:
    • ymyriadau a wnaeth leihau risgiau i iechyd, diogelwch a lles unigolion
    • natur yr ymyrraeth
    • pam y cyflawnodd ymyriadau eu hamcanion
  14. cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  15. rhannu gwybodaeth gyda phobl eraill briodol yn unol â chytundebau partneriaeth
  16. cynnal cyfrinachedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
  4. rôl, amcanion, cylch gwaith a gwasanaethau ar gyfer mynd i’r afael ag iechyd a lles unigolion
  5. cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
  6. y mathau o wybodaeth a chymorth y mae unigolion yn eu ceisio i fynd i’r afael â’u hanghenion iechyd a lles, a’u ffynonellau
  7. rôl asiantaethau cymorth allanol o ran darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion yn eich maes
  8. trefniadau amlasiantaethol ar gyfer darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion yn eich maes
  9. prosesau asesu risg eich sefydliad a phrosesau asesu risg perthnasol eraill
  10. rolau a chyfrifoldebau am ymgymryd ag asesiadau risg parhaus
  11. y wybodaeth sydd ei hangen i asesu a rheoli risg i ddiogelwch, iechyd a lles unigolion
  12. digwyddiadau ac amgylchiadau a all achosi risg i unigolion
  13. sut i gymhwyso ymarfer ystyriol o drawma yn eich maes gwaith
  14. gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
  15. sut i gymhwyso dull seiliedig ar gryfderau, dan arweiniad anghenion, yn benodol i fodloni anghenion yr unigolyn
  16. sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
  17. sut i osod amcanion a meini prawf ar gyfer gwerthuso llwyddiant ymyriadau
  18. ffynonellau gwybodaeth sy’n briodol i fonitro ymyriadau a sut i gael at y rhain
  19. dulliau o wirio a chadarnhau gwybodaeth
  20. dulliau a thechnegau ar gyfer gwahaniaethu rhwng a nodi:
    • tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol
    • tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy
    • adroddiadau ail-law
    • rhagfarn
    • safbwyntiau â thystiolaeth yn eu hategu
  21. ffactorau sy’n effeithio ar freguster a’r risg i unigolion
  22. y mathau o niwed a breguster, eu lefelau a’u dangosyddion, y gellir eu defnyddio wrth asesu risg

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.

Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.

Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol

Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.

Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.

Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod

Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.

Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.

Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.

Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGK105

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Lloches, Gweithiwr Argyfwng, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

rhywiol; iechyd; lles; gwerthuso; cyflwyno; darpariaeth; adroddiad; cynnydd; cyfathrebu; asesiad risg