Darparu cymorth grŵp i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio, paratoi a hwyluso cymorth grŵp i unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio gydag unigolion i flaenoriaethu eu hamcanion ar gyfer cymorth grŵp er mwyn bodloni eu hanghenion
- gwneud cynlluniau ar gyfer sesiynau cymorth grŵp sy’n gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
- sefydlu’r meini prawf a’r fformat ar gyfer grwpiau o unigolion
- pennu’r angen am oruchwyliaeth glinigol allanol sy’n asesu cymorth grŵp a dynameg grŵp
- bwrw ymlaen ag unrhyw gamau a nodwyd trwy oruchwyliaeth glinigol allanol sy’n cyfrannu at ddynameg y grŵp a chymorth unigolion
- trafod a chytuno ar nodau’r grŵp, gydag unigolion sy’n rhan o’r grŵp
- cadarnhau bod unigolion yn deall ac yn cydsynio i reolau cyfrinachedd cytunedig
- cytuno ar agweddau ar gymorth grŵp gyda’r unigolion sy’n gysylltiedig
- hwyluso sesiynau gwaith grŵp gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gweithgareddau ac adnoddau i fodloni nodau ac amcanion a nodwyd ar gyfer y grŵp ac annog unigolion i gymryd rhan
- gweithio gydag unigolion mewn sesiynau grŵp, mewn ffyrdd sydd:
• yn dangos parch ac uniondeb
• yn dangos tegwch a chysondeb
• yn annog ac yn cefnogi cyfraniadau
• yn cydnabod hawliau a chyfraniadau’r cyfranogwyr - cefnogi ac ymateb i bryderon sy’n cael eu codi gan unigolion
- ymateb i ddatgeliadau gyda’r grŵp yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad rhagfarnllyd, heriol ac unrhyw ymddygiad annerbyniol arall yn unol â chanllawiau cytunedig y grŵp
- cynnwys cyfranogwyr mewn monitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwaith grŵp
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- beth yw cam-drin domestig neu drais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- yr effaith ar y rhai y mae cam-drin domestig neu drais rhywiol wedi effeithio arnynt
- sut gall dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
- y mathau o wybodaeth a chymorth y mae pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol yn eu ceisio, a’u ffynonellau
- rôl asiantaethau cymorth allanol o ran darparu cymorth ac ymyriadau i unigolion yn eich maes
- sut i greu amgylchedd sy’n gwneud i unigolion deimlo’n gartrefol
- beth yw ystyr gwaith grŵp
- pwysigrwydd dynameg grŵp wrth reoli gweithgareddau grŵp
- pwysigrwydd a buddion gwaith grŵp i unigolion, gan gynnwys magu hyder y cyfranogwyr
- pwysigrwydd cytuno ar nodau clir a phenodol ar gyfer gwaith grŵp
- yr adnoddau y mae eu hangen ar gyfer gweithgareddau grŵp a sut i gael at y rhain o fewn gofynion y gyllideb ac amser
- pwysigrwydd cynllunio effeithiol ar gyfer sesiynau cymorth grŵp
- ffactorau i’w hystyried wrth gynllunio sesiynau cymorth grŵp gan gynnwys rhwystrau posibl rhag gwaith grŵp effeithiol a sut i fynd i’r afael â’r rhain
- dulliau, technegau ac ymagweddau ar gyfer hwyluso a rheoli gwaith grŵp
- sut i ddewis gweithgareddau a all fodloni amcanion unigol a grŵp
- ffyrdd o annog unigolion i gymryd rhan a gofyn cwestiynau
- pwysigrwydd monitro grwpiau am wrthdaro
- sut i fynd i’r afael â gwrthdaro, ymddygiad heriol ac ymddygiad amhriodol
- sut i fonitro a gwerthuso gweithgareddau gwaith grŵp a sut i gynnwys cyfranogwyr yn hyn
- sut i adnabod llwyddiant a rhoi adborth adeiladol i gyfranogwyr
- pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o wneud
- arddulliau a ffurfiau cyfathrebu gwahanol a sut i’w haddasu yn ôl anghenion unigolion
- sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
- pwysigrwydd cyfathrebu dieisiau
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gall hyn ei chael wrth weithio gydag unigolion
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- yr amgylchiadau pan fydd angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion
- pwysigrwydd sicrhau bod unigolion yn gwybod pam nad yw eu dymuniadau datganedig yn cael eu diwallu
- cyfyngiadau cyfrinachedd sy’n berthnasol i’ch rôl
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.