Eiriol ar ran unigolion

URN: SFJGK105
Sectorau Busnes (Suites): Atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 26 Mai 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag eiriol ar ran unigolion. Mae’n cynnwys gweithredu gyda chydsyniad gwybodus yr unigolyn a chynrychioli safbwyntiau a dymuniadau’r unigolyn wrth ddelio ag asiantaethau priodol.

Gall adroddiadau am gam-drin domestig a thrais rhywiol fod yn gysylltiedig â digwyddiadau diweddar (a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hyd at neu’n fuan cyn yr adroddiad) neu ddigwyddiadau hanesyddol pan ddioddefodd y dioddefwr gamdriniaeth yn y gorffennol, yn aml pan oedd yn blentyn, dan law teulu, cydnabod neu ddieithriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. disgrifio eich rôl a’ch cyfrifoldeb i unigolion, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  2. esbonio polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfrinachedd, gan gynnwys yr amgylchiadau pryd y gall fod angen rhannu gwybodaeth a pham
  3. nodi amgylchiadau’r unigolyn a sut mae’n dymuno cael ei gynorthwyo, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  4. gydag unigolion, adolygu’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer eiriolaeth a’u buddion
  5. eiriol ar ran unigolion, gan gynrychioli eu safbwyntiau a’u dymuniadau gerbron asiantaethau priodol, yn unol â chynlluniau eirioli cytunedig
  6. herio gormes a gwahaniaethu yn erbyn unigolion, o fewn maes eich cyfrifoldeb
  7. hwyluso cyfathrebu rhwng unigolion ac asiantaethau, gan annog unigolion i fynegi eu hanghenion a’u dymuniadau, lle y bo’n briodol
  8. trafod gydag asiantaethau ar ran unigolion er mwyn gwireddu eu hanghenion a’u hawliau
  9. cyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion unigolion ac asiantaethau
  10. gwirio bod diogelwch, iechyd a lles unigolion yn ganolog i’r broses eirioli
  11. rhoi diweddariad i unigolion ar gynnydd a deilliannau’r broses eirioli
  12. cynnal a storio cofnodion cyfredol o’r camau a gymerwyd a’r deilliannau a gyflawnwyd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni
  2. y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
  3. camau’r broses eirioli
  4. ffyrdd o ganiatáu i unigolion wneud dewisiadau gwybodus a rheoli eu disgwyliadau
  5. mathau o wybodaeth a meysydd cymorth y mae unigolion yn eu ceisio a’r ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i gynorthwyo â cheisiadau o’r fath
  6. yr ystod o asiantaethau a’r gwasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo unigolion yn eich maes a threfniadau ar gyfer cael at y rhain
  7. sut i fod yn sensitif ac yn hyblyg eich dull, gan ddefnyddio amrywiol dechnegau sy’n briodol i ymddygiad ac agwedd yr unigolyn
  8. pwysigrwydd eiriolaeth effeithiol i unigolion a sut i ddarparu hyn
  9. pwysigrwydd cynnal hawl yr unigolyn i wneud ei benderfyniadau ei hun, a thechnegau ar gyfer caniatáu am hyn
  10. pwysigrwydd meithrin ffydd ac empathi gydag unigolion, a dulliau o gyflawni hyn
  11. arddulliau a ffurfiau cyfathrebu, a sut i’w haddasu i fodloni anghenion yr unigolyn
  12. sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
  13. rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
  14. sut i rannu gwybodaeth a pham y gall fod angen mynd yn groes i ddymuniadau datganedig unigolion, a phwysigrwydd sicrhau eu bod yn deall beth sy’n digwydd a pham
  15. pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun, a sut y gallai’r rhain ddylanwadu ar y ffordd rydych chi’n darparu gwybodaeth a chymorth i bobl eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

26 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGK105

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Eiriolydd Annibynnol ynghylch Trais Rhywiol, Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig (IDVA)

Cod SOC

3229

Geiriau Allweddol

eiriolaeth; unigolyn; eiriol; cynrychioli; cydsyniad; cyfrinachedd; gwahaniaethu; gormes; trafod