Paratoi a darparu gweithgareddau datblygu i blant a phobl ifanc

URN: SFJGI1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfiawnder Ieuenctid, Ailsefydlu Troseddwyr
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a darparu gweithgareddau datblygu i blant a phobl ifanc yn seiliedig ar eu hanghenion a nodwyd. Gallai'r gweithgareddau fod yn rhan o gynllun a luniwyd i fynd i'r afael ag agweddau ar ymddygiad plentyn neu berson ifanc neu gallant fod yn rhan o raglen y mae’r unigolyn wedi ymrwymo iddi’n wirfoddol. Ymhlith gweithgareddau felly hefyd y mae’r rhai sydd â’r nod o ddatblygu’r unigolyn neu hybu hunanymwybyddiaeth, neu’r rhai sydd â phwrpas therapiwtig.

Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud ag annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi gweithgareddau datblygu addas sydd:

    • yn mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n cyfrannu at ymddygiad y plentyn neu'r person ifanc
    • yn gyson â'r asesiad o alluoedd, dulliau dysgu ac anghenion y plentyn neu'r person ifanc

2.    paratoi gweithgareddau datblygu sydd:

  • yn briodol i anghenion y plentyn neu'r person ifanc,
  • magu ymhellach gryfderau a diddordebau plant a phobl ifanc

    1. hyrwyddo manteision gweithgareddau datblygu i blant a phobl ifanc

    2. darparu gwybodaeth am weithgareddau datblygu i blant a phobl ifanc mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion

5.helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan ar lefel sy'n briodol i'w hanghenion a'u galluoedd

6.cyfathrebu ar lefel a chyflymder sy'n briodol i blant a phobl ifanc

  1. nodi nodau realistig ar gyfer plant a phobl ifanc yn unol â'u hanghenion

8.cytuno sut y bydd llwyddiant y gweithgaredd yn cael ei werthuso i fynd i'r afael ag anghenion plant a phobl ifanc

9.sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel a mynd i'r afael ag unrhyw beryglon neu broblemau mewn ffyrdd sy'n annog cyfranogiad llawn pawb sy'n cymryd rhan

10.paratoi offer a deunyddiau sy'n ddigonol, yn ddiogel, yn barod i'w defnyddio, a sicrhau eu bod yn hawdd eu cyrraedd

11.hwyluso plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu, gan roi digon o wybodaeth ac arweiniad iddynt i'w galluogi i gymryd rhan

12.cefnogi plant a phobl ifanc i wneud sylwadau ar eu profiadau gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol

13.rhoi adborth i blant a phobl ifanc ar lefel a chyflymder sy'n briodol iddynt sy'n annog eu datblygiad a'u cyfranogiad

14.gofyn am gyngor gan bobl eraill berthnasol pan fydd y plentyn neu'r person ifanc yn cael anhawster neu'n ymateb yn negyddol i'r rhaglen

15.trafod gyda'r plentyn neu'r person ifanc a phobl eraill berthnasol y cynnydd y maent wedi'i wneud tuag at y nodau a osodwyd ac unrhyw broblemau a gafwyd

16.addasu'r gweithgaredd ar ôl trafod gyda'r plentyn neu'r person ifanc lle mae'n ymddangos ei fod yn amhriodol, neu lle nad yw adnoddau'n addas

17.adolygu effeithiolrwydd y gweithgareddau datblygu o ran cyrraedd y nodau y cytunwyd arnynt

18.cytuno a gweithredu strategaethau a dulliau amgen ar gyfer hyrwyddo datblygiad y plentyn neu'r person ifanc lle mae anawsterau wrth gyrraedd y nodau y cytunwyd arnynt

19.hysbysu pobl eraill berthnasol lle mae gweithgareddau wedi bod yn effeithiol neu'n aneffeithiol

20.cadw cofnodion o weithgareddau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i'ch sefydliad eich hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud

  2. pwysigrwydd bod dysgu’n digwydd mewn cyd-destun sy'n ystyrlon i'r plentyn neu'r person ifanc

  3. pwysigrwydd cysylltiadau clir rhwng anghenion y plentyn neu'r person ifanc a lefel a dwyster y gweithgareddau a gynlluniwyd

  4. pwysigrwydd cael amcanion clir, wedi’u blaenoriaethu, a pham y dylid gwerthuso ac adolygu amcanion datblygu

  5. pam y dylid annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn cynllunio, a pham mae eu barn ar effeithiolrwydd y gweithgaredd yn bwysig

  6. ymhle y dylid cael cydsyniad y plentyn neu'r person ifanc i weithgareddau a'r berthynas rhwng hyn a hyrwyddo ei hawliau

  7. pam y dylid annog y plentyn neu'r person ifanc i gymryd rhan a dulliau o gyflawni hyn

  8. rhesymau pam y dylid rhoi amser a lle i'r plentyn neu'r person ifanc ddatblygu'r sgiliau sydd ganddo ac i wneud sylwadau ar ei gynnydd ei hun

  9. pam y dylid rhoi gwybod i’r sawl perthnasol am anawsterau a gafwyd gan y plentyn neu'r person ifanc neu ymatebion andwyol i'r gweithgaredd datblygu

  10. pwysigrwydd gwerthuso ac addasu rhaglenni ar gyfer unigolion, dulliau ar gyfer cyflawni hyn, a pham mae lledaenu gwybodaeth am yr hyn sydd wedi gweithio yn bwysig

  11. pam y dylid ceisio cyngor a gweithredu yn ei gylch cyn gynted ag y bydd amheuaeth am raglenni i blant a phobl ifanc

  12. yr ystod o weithgareddau datblygu sydd ar gael a'r gwahanol fanteision a gwerth y gallant eu cynnig i blant a phobl ifanc

  13. sut y gellir defnyddio gweithgareddau i gynyddu potensial ac effeithiolrwydd, hunanddatblygiad a chyfrifoldeb personol

  14. sut i addasu amgylcheddau ar gyfer gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc ag anghenion gwahanol

  15. patrymau datblygu arferol a'r cynnydd y bydd plant a phobl ifanc yn ei wneud i gyrraedd nodau

  16. sut i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc a sut i addasu yn briodol

  17. y gwahaniaeth rhwng adborth cadarnhaol ac adeiladol a sut y gall hyn gynorthwyo datblygiad y plentyn neu'r person ifanc

  18. dulliau o roi cymorth i blant a phobl ifanc i gynorthwyo eu datblygiad a phan fyddant yn cael anawsterau neu'n ymateb yn andwyol

  19. egwyddorion cyfiawnder adferol

  20. pwysigrwydd bod yn esiampl i blant a phobl ifanc

  21. gwahanol ymatebion trawma a'u heffaith ar blant a phobl ifanc

  22. pwysigrwydd cadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer

  23. mathau o gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGI1

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Tîm Troseddwyr Ifanc, Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid, Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid, Gweithiwr Tîm Troseddwyr Ifanc, Rheolwr Tîm Troseddwyr Ifanc

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithgareddau datblygu; hunanymwybyddiaeth; therapiwtig; cymorth; gwerthuso