Darparu ymyriadau sy’n sicrhau bod unigolion yn datblygu cymaint â phosibl trwy addysg a chyflogaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â galluogi unigolion sydd wedi troseddu neu sy'n debygol o droseddu i ddatblygu eu sgiliau galwedigaethol ac i gael at addysg neu gyflogaeth.
Mae hyn yn cynnwys adolygu gyda'r unigolyn y cyfleoedd sydd ar gael, a'i gefnogi i fanteisio ar yr opsiwn y cytunwyd arno a'i ddefnyddio yn y modd gorau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
casglu ac asesu gwybodaeth berthnasol am yr agweddau canlynol ar yr unigolyn:
- cyflawniadau addysgol
- amgylchiadau personol
- ffyrdd o ddysgu y mae’n eu ffafrio
2.nodi unrhyw wybodaeth sydd ar goll, a chymryd y camau perthnasol i'w chael
3.esbonio i'r unigolyn eich rôl a'ch sefydliad, a'r gwasanaethau sydd ar gael
4.esbonio i'r unigolyn fanteision cyfleoedd addysg neu gyflogaeth perthnasol
5.esbonio gofynion deddfwriaethol ac arfer da sy'n ymwneud â datgelu euogfarnau i ddarpar gyflogwyr a darparwyr addysg, lle bo'n berthnasol
6.hwyluso unigolion i gydnabod yr ymddygiadau y mae darparwyr addysg a chyflogwyr yn eu disgwyl, a chanlyniadau methu â bodloni'r disgwyliadau hyn
7.cefnogi unigolion i nodi cyfleoedd addysg neu gyflogaeth addas sydd o ddiddordeb iddynt ac ar gael iddynt, gan drafod y manteision a'r anfanteision
8.nodi unrhyw bryderon neu rwystrau wrth fanteisio ar yr opsiynau, asesu sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain a gwneud y trefniadau angenrheidiol
9.cael cydsyniad ar sail gwybodaeth gan unigolion ynglŷn â'r ffordd ymlaen
10.helpu unigolion i ddatblygu cynllun realistig a chyraeddadwy ar gyfer manteisio ar y cyfleoedd addysg neu gyflogaeth y maent yn eu ffafrio
11.cefnogi unigolion i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu nodau, eu gweithredoedd, eu hamserlenni a'r cymorth y gallant fanteisio arno
12. cytuno sut y bydd cynnydd yn erbyn y cynllun yn cael ei adolygu
13. cynorthwyo unigolion i gyrchu a defnyddio ffynonellau perthnasol o gymorth ac adnoddau i fod mor annibynnol â phosibl
14. cysylltu â darparwyr addysg neu gyflogaeth perthnasol a thrafod cyflawniadau addysgol ac amgylchiadau personol yr unigolyn, a'r gwasanaethau y gall darparwyr eu cynnig
15. hwyluso darparwyr i weithio gydag unigolion tuag at wneud paratoadau i ddarparu addysg neu gyflogaeth i unigolion
16. cynnal cyswllt â darparwyr ac unigolion i lefel sy'n galluogi unrhyw faterion i gael eu nodi, gan gymryd y camau priodol o fewn amserlenni gofynnol
17. hwyluso darparwyr ac unigolion i ddarparu adborth ar gynnydd gan yr unigolyn yn erbyn ei nodau, gan gydnabod cyflawniadau a mynd i'r afael ag unrhyw anawsterau
18. cadw cofnodion, a rhoi gwybod i bobl eraill berthnasol am gynnydd a chanlyniadau
19. cadw cyfrinachedd yn unol â gofynion statudol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i'ch sefydliad eich hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud
- rôl eich sefydliad a'i wasanaethau, a sut maent yn gysylltiedig â gwasanaethau sefydliadau a gwasanaethau eraill
- polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfrinachedd gwybodaeth a datgelu gwybodaeth i drydydd parti, gan gynnwys amgylchiadau penodol lle gellir datgelu
- sut i gadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer
- sut i weithio o fewn yr holl ofynion cyfreithiol perthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol gan gynnwys gofynion diogelu ac amddiffyn plant
- ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad unigolion, gan gynnwys eu datblygiad corfforol, cymdeithasol, seicolegol ac emosiynol
- yr effaith bosibl y gall bod mewn gofal neu yn y ddalfa ei chael ar unigolion
- sut y gall diwylliant, rhywedd a chredoau effeithio ar agweddau ac ymddygiad a sut y gallant gael eu hystyried gan eraill
- sut i gefnogi unigolion i reoli eu hymddygiad heriol
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau a phwy i ofyn am gymorth a chyngor ganddo pan fydd angen
- egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymarfer gwrth-wahaniaethol
- pwysigrwydd addysg a chyflogaeth yn ffactor wrth leihau troseddau ac aildroseddu
- ffyrdd o wneud y mwyaf o gyflogadwyedd unigolyn a sut i gyrchu cymorth a gwasanaethau i gynorthwyo yn hyn
- gwerth sgiliau galwedigaethol a sut y gellid datblygu'r rhain
- yr anawsterau y gall y rhai sydd wedi troseddu neu sy'n debygol o droseddu eu hwynebu wrth geisio cyfleoedd addysg neu gyfleoedd, o ran pryderon darparwyr a'u galluoedd a'u hyder eu hunain
- ffyrdd effeithiol o gymell unigolion
- yr ystod o gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg, ar ba ffurfiau y mae'r rhain, pwy allai fod yn gymwys a sut i’w cyrchu
- cynlluniau cenedlaethol a lleol ac asiantaethau cysylltiedig, sy'n ymwneud â darparu, hyrwyddo neu greu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg
- y cymorth a'r adnoddau y gallai fod eu hangen ar unigolion sy'n ceisio addysg neu gyflogaeth
- y troseddau a allai olygu y gwrthodir cyflogaeth i unigolion
- rôl gwasanaethau datgelu a'u heffaith ar unigolion sy'n chwilio am waith
- gofynion sy'n ymwneud â datgelu euogfarnau
23. y risgiau posibl wrth ddatgelu a pheidio â datgelu euogfarnau a throseddau a sut i drafod risgiau gydag unigolion i'w cynorthwyo i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch a ddylid datgelu
24.sut mae unigolion yn dysgu cyflawni trwy addysg, hyfforddiant, hamdden ac adloniant a sut mae hyn yn ymwneud ag agweddau eraill ar eu datblygiad
25.natur y sector addysg a rolau a swyddogaethau'r prif asiantaethau sy’n rhan ohono
26.effaith deddfwriaeth a pholisi addysgol ar unigolion a'r rhyngberthynas rhwng gwahanol fathau o ddedfrydau a threfn a osodwyd a darpariaeth addysgol
27.y llwybrau cyllido sydd ar gael a sut i’w cyrchu
28.polisïau eraill y llywodraeth sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag allgau cymdeithasol a galluogi unigolion i ddatblygu a dysgu