Cynnal diogelwch, diogeledd a lles plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu

URN: SFJGC13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfiawnder Ieuenctid, Ailsefydlu Troseddwyr
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch corfforol, diogeledd a lles cyffredinol plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu neu aildroseddu.

Mae'r un mor berthnasol i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal diogel ac amgylcheddau eraill.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. esbonio eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth gynnal diogelwch, diogeledd a lles plant a phobl ifanc

  2. esbonio'r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc a sut y gellir cyrchu hwn yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol

  3. hyrwyddo pwysigrwydd diogelwch, diogeledd a lles, i blant a phobl ifanc mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion

  4. rhoi cyngor i blant a phobl ifanc a chynnig strategaethau addas iddynt ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel, yn unol â'u hanghenion a'u hamgylchiadau

  5. cysylltu â sefydliadau eraill i gynnal diogelwch, diogeledd a lles plant a phobl ifanc

  6. cyfathrebu ar gyflymder sy'n briodol i'r plentyn neu'r person ifanc ac annog cwestiynau i sicrhau ei fod wedi deall

  7. cadw cyfrinachedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol

  8. cysylltu â phobl eraill berthnasol a'u diweddaru ynghylch diogelwch a lles plant a phobl ifanc

  9. cael ac adolygu'r wybodaeth sydd ar gael am blant a phobl ifanc gan gynnwys eu hamgylchiadau a chanlyniadau asesiadau

  10. monitro gweithgareddau a rhyngweithiadau plant a phobl ifanc i nodi unrhyw faterion diogelwch, diogeledd a lles

  11. archwilio unrhyw arwyddion o anawsterau o fewn yr amserlenni gofynnol a gwneud hynny mewn modd sensitif sy’n parchu anghenion y plentyn neu'r person ifanc dan sylw

  12. cynnal rhyngweithiadau a strategaethau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed gan eraill, ganddynt eu hunain, neu i eraill

  13. ymyrryd mewn gwrthdaro a sefyllfaoedd camdriniol rhwng plant a phobl ifanc i gynnal diogelwch, diogeled a lles, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, a'ch lles eich hun

  14. ymateb i anghenion diogelwch, diogeledd a lles plant a phobl ifanc yn unol â'u hamgylchiadau a gofynion ac adnoddau eich sefydliad

  15. darparu arweiniad a chefnogaeth briodol i blant a phobl ifanc sydd wedi gwneud cam â rhywun neu wedi cam-drin eraill

  16. cynnwys plant a phobl ifanc wrth adolygu eu diogelwch, diogeled a lles eu hunain, a diogelwch, diogeledd a lles eraill, a defnyddio hyn i lywio cynlluniau tuag at gynnal hyn

  17. cytuno ar unrhyw newidiadau i'r cynlluniau presennol gyda phawb sy’n cymryd rhan

  18. cadw cofnodion cyfredol a chywir am ddiogelwch, diogeledd a lles unigolion a'r camau cysylltiedig a gymerwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i'ch sefydliad eich hun ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud

  2. sut i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc a sut i addasu yn briodol

  3. pwysigrwydd cadw at godau proffesiynol neu safonau ymarfer

  4. polisïau a gweithdrefnau gan gynnwys gofynion diogelu ac amddiffyn plant

  5. pwysigrwydd magu a chynnal perthynas wrth gefnogi plant a phobl ifanc

  6. anghenion cymorth ychwanegol plant a phobl ifanc

  7. datblygiad plant gan gynnwys sgiliau corfforol, gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chyfathrebu

  8. Sut i hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant trwy weithio gyda phlant a phobl ifanc

  9. rôl eich sefydliad a'i wasanaethau, a sut maent yn ymwneud â sefydliadau eraill sy'n berthnasol i gynnal diogelwch, diogeledd a lles plant a phobl ifanc

  10. effaith rhianta a theuluoedd ar blant a phobl ifanc mewn perthynas â'u gallu i ffurfio perthnasoedd eraill

  11. effaith yr amgylchedd cymdeithasol ehangach ar blant a phobl ifanc gan gynnwys meysydd amddifadedd materol, troseddu ac ofn troseddu, tai gwael, a thlodi

  12. strategaethau i annog plant a phobl ifanc i gydnabod a chymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain a'u rhwymedigaethau at eraill

  13. pwysigrwydd eich ymddygiad fel esiampl gadarnhaol i atgyfnerthu ymddygiadau cymdeithasol-fuddiol

  14. arwyddion y gallai plant a phobl ifanc fod yn cael anawsterau, gan gynnwys gweithgareddau cudd sy'n effeithio ar eu diogelwch a'u lles

  15. mathau o ymyriadau a strategaethau y gellir eu defnyddio i gefnogi

  16. plant a phobl ifanc gan gynnwys y camau y gallant eu cymryd i gadw eu hunain yn ddiogel

  17. ble i ofyn am gyngor ar arferion cyfredol sy'n ymwneud â niwrowahaniaeth

  18. sut i gymhwyso ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar gryfderau yn eich maes gwaith

  19. effaith trawma ar blant a phobl ifanc a sut i sicrhau bod eich ymarfer yn ystyried hyn

  20. sut i nodi ac ymateb i bryderon diogelu

  21. sut i ymyrryd yn effeithiol mewn gwrthdaro a sefyllfaoedd camdriniol rhwng plant a phobl ifanc

  22. yr effaith y gall bod mewn amgylchedd diogel ei chael ar blant a phobl ifanc

  23. egwyddorion ymarfer cydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-wahaniaethol effeithiol

  24. egwyddorion cyfiawnder adferol

  25. eich rôl a'ch cyfrifoldebau a phwy i ofyn am gymorth a chyngor ganddo pan fydd angen


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Justice

URN gwreiddiol

SFJGC13

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Tîm Troseddwyr Ifanc, Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid, Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid, Gweithiwr Tîm Troseddwyr Ifanc, Ymarferydd Cyfiawnder Ieuenctid, Rheolwr Tîm Troseddwyr Ifanc

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ailsefydlu Troseddwyr, Cyfiawnder Ieuenctid