Rheoli gwrthdaro

URN: SFJGC10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Plismona a Gorfodi'r Gyfraith
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2010

Trosolwg

​Mae'r uned hon yn trafod rheoli gwrthdaro, h.y. adnabod a delio gydag amrywiaeth o fathau o ymddygiad a gweithredu.   Mae'r elfen gyntaf yn ymwneud ag ymateb mewn ffyrdd nad ydynt yn arwain at wrthdaro, a cheisio tawelu sefyllfaoedd lle gwelir ymddygiad o'r fath. Mae'r ail elfen yn ymwneud â defnydd priodol o sgiliau a chyfarpar diogelwch personol.  Ymhlith y sgiliau diogelwch personol mae hunan-amddiffyniad ac ataliaeth. 

Datblygwyd yr uned hon yn bennaf i'w defnyddio yn y sector plismona a gorfodi'r gyfraith. 

Mae'r uned hon yn berthnasol i bersonél hyfforddedig y mae eu rôl a/neu eu dynodiad yn cynnwys rheoli gwrthdaro a/neu ddefnyddio sgiliau a chyfarpar diogelwch personol.

Mae dwy elfen**
1 Cymhwyso sgiliau a thechnegau rheoli gwrthdaro 
2 Defnyddio sgiliau a chyfarpar diogelwch personol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cymhwyso sgiliau a thechnegau rheoli gwrthdaro 

1. casglu gwybodaeth er mwyn asesu'r bygythiad
2. dewis opsiwn tactegol ar sail eich asesiad o'r bygythiad, deddfwriaeth, hyfforddiant a pholisi sefydliadol
3. galw am unrhyw gymorth angenrheidiol, pobl ychwanegol a chefnogaeth os bydd angen
4. *cyfathrebu â phobl mewn modd sy'n
   4.1 dangos parch atynt hwy, eu heiddo a'u hawliau
   4.2 briodol ar eu cyfer
   4.3 rhydd rhag camwahaniaethu ac ymddygiad gormesol
5. lle bo modd, esbonio'n eglur beth yw eich rôl a beth ddisgwylir ganddyn nhw
6. sicrhau nad yw eich camau gweithredu a'ch geiriau eich hun yn ymosodol ar yr adegau priodol
7. cadw'n effro i sylwi ar gyfathrebu llafar a di-eiriau sy'n gysylltiedig ag arwyddion perygl
8. cymryd camau i dawelu gwrthdaro 
   8.1 na fyddant yn gwneud y sefyllfa'n waeth ac sy'n hybu naws ddigyffro a sicrwydd
   8.2 sy'n cyd-fynd â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, a'ch cyfrifoldebau cyfreithiol a'ch hyfforddiant

Defnyddio sgiliau a chyfarpar diogelwch personol

9. defnyddio *sgiliau diogelwch personol priodol yn y digwyddiad
10. cario a defnyddio cyfarpar cymeradwyo, yn unol â gweithdrefnau gweithredu sefydliadol a hyfforddiant
11. cyfleu gwybodaeth gywir a chlir i'ch cydweithwyr a staff arbenigol eraill yn ystod y digwyddiad
12. cyfathrebu'n glir â'r unigolyn/unigolion ar hyd y digwyddiad
13. sicrhau bod grym a ddefnyddir yn ystod y digwyddiad yn rhesymol, yn gymesur ac yn angenrheidiol
14. arddangos dyletswydd gofal ac ôl-ofal
15. adrodd am y digwyddiad yn brydlon ac yn gywir, a chyfiawnhau'r camau a gymerwyd neu ddarparu tystiolaeth yn eu cylch
16. hysbysu goruchwyliwr yn brydlon ynghylch y camau gweithredu a gymerwyd gennych yn ystod y digwyddiad​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Rheoli gwrthdaro **

1. pwysigrwydd dangos parch at bobl, eu heiddo a'u hawliau, a sut mae gwneud hynny
2. ymddygiad neu ieithwedd a allai ddangos i bobl eraill eich bod yn camwahaniaethu neu'n gormesu
3. defnyddio camau gweithredu, ystumiau a iaith y corff i reoli gwrthdaro
4. sut mae casglu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i reoli gwrthdaro
5. sut mae asesu arwyddion, ymddygiad a chamau gweithredu, gan nodi'r rhai a all arwain at wrthdaro
6. y mathau o ymddygiad adeiladol y gallwch eu defnyddio i dawelu sefyllfaoedd
7. eich cyfrifoldebau cyfreithiol o ran delio gydag ymddygiad a allai arwain at wrthdaro
8. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol yng nghyswllt sgiliau a chyfarpar diogelwch personol
9. pwysigrwydd cadw at ganllawiau cenedlaethol sy'n ymwneud â gweithio'n briodol gyda phlant a phobl ifanc 
10. sut mae cynnal asesiadau deinamig o fygythiadau
11. sut mae gwahaniaethu rhwng risg 'uchel' a risg 'anhysbys' i chi eich hun ac eraill
12. eich cyfrifoldebau personol eich hun yng nghyswllt 'defnyddio grym'
13. y cymorth a'r gefnogaeth a all fod yn ofynnol ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau
14. yr opsiynau tactegol sydd ar gael i chi, gan gynnwys ymneilltuo'n dactegol
15. defnyddio sgiliau cyfathrebu i reoli gwrthdaro
16. sut mae defnyddio cyfarpar amddiffynnol personol a chyfarpar cyfathrebu i reoli gwrthdaro
17. pwysigrwydd sicrhau bod grym a ddefnyddir yn rhesymol, yn angenrheidiol ac yn gymesur
18. yr angen am ystyried sut gallai eraill ymateb, sydd o bosib yn gweld y digwyddiad
19. ystyr dyletswydd gofal yng nghyd-destun rheoli gwrthdaro
20. y goblygiadau meddygol yng nghyswllt defnyddio sgiliau a chyfarpar diogelwch personol
21. yr angen am gyfiawnhau a rhoi cyfrif am eich camau gweithredu
22. y gweithdrefnau ar gyfer cofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau sy'n galw am sgiliau a chyfarpar diogelwch personol 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cymhwyso sgiliau a thechnegau rheoli gwrthdaro

1 ffyrdd o gyfathrebu *
1.1 iaith a lleferydd 
1.2 gweithredoedd, ystumiau a iaith y corff 
1.3 gofod a safle

2 pobl
2.1 cydymffurfio 
2.2 heb gydymffurfio

Defnyddio sgiliau a chyfarpar diogelwch personol

3 sgiliau diogelwch personol
3.1 hunan-amddiffyn 
3.2 ataliaeth

4 cyfarpar*
4.1 cyfarpar amddiffynnol personol
4.2 cyfarpar cyfathrebu


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2013

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ2C4

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Gwasanaethau Cyhoeddus

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ymddygiad, camau gweithredu, gwrthdaro, tawelu