Cyfathrebu ac ymgysylltu â phlant, pobl ifanc, a'u teuluoedd a'u gofalwyr

URN: SFJGA7
Sectorau Busnes (Suites): Adsefydlu Troseddwyr,Cyfiawnder Ieuenctid
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2013

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu'n effeithiol â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'n cynnwys gwrando, holi, deall ac ymateb i'r hyn maen nhw'n ei ddweud, a'u cynnwys wrth ddylunio a darparu gwasanaethau sy'n effeithio arnynt. 

Mae'r safon hon yn adlewyrchu agweddau ar bolisïau statudol ac anstatudol sy'n ymwneud â gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae tair elfen
1 Meithrin empathi gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr 
2 Diogelu a hybu lles plant a phobl ifanc 
3 Rhannu gwybodaeth gyda'r rhai y mae arnynt ei hangen

Grŵp Targed**
Mae'r safon hon yn berthnasol i bawb sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Meithrin empathi gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr 

1. defnyddio mathau a dulliau o gyfathrebu sy'n addas ar gyfer anghenion a galluoedd plant a phobl ifanc, a'u teuluoedd a'u gofalwyr
2. cynnal sgyrsiau ar yr adeg ac yn y man priodol
3. esbonio sefyllfaoedd yn llawn ac yn gywir, gan nodi beth sydd wedi digwydd neu beth fydd yn digwydd nesaf, a'r rhesymau am y cyfryw gamau gweithredu
4. annog cwestiynau a gwirio dealltwriaeth
5. hysbysu, cynnwys a helpu'r plentyn neu'r person ifanc, a'r teuluoedd a'r gofalwyr, i asesu gwahanol gamau gweithredu a deall canlyniadau pob un ohonynt
6. nodi beth mae'r plentyn neu'r person ifanc, a'u teulu neu eu gofalwyr, yn gobeithio ei gyflawni wrth ddod i gasgliad teg sydd hefyd yn gasgliad gorau posibl
7. gwrando'n weithredol ac ymateb yn adeiladol i unrhyw bryderon
8. lle bo hynny'n briodol, sicrhau caniatâd y plentyn neu'r person ifanc, a'r teulu neu'r gofalwyr, ar gyfer camau gweithredu y cytunwyd arnynt
9. esbonio wrth y plentyn neu'r person ifanc, a'u teulu a'u gofalwyr, pa wybodaeth y gallai fod rhaid i chi ei rhannu ag eraill, a pham
10. crynhoi sefyllfaoedd er mwyn hybu dealltwriaeth yr unigolyn, gan roi sylw i'w cefndir, eu hoedran a'u personoliaeth
11. cadw cofnodion cywir, wedi eu diweddaru, o'r pwyntiau a drafodwyd a chanlyniadau eich trafodaethau

Diogelu a hybu lles plant a phobl ifanc

12. nodi ac asesu arwyddion camdriniaeth bosibl neu esgeuluso sy'n effeithio ar blentyn neu berson ifanc
13. gwirio, lle bo modd, bryderon a gwybodaeth a gafwyd gan eraill
14. ymgynghori, lle bo hynny'n briodol, â'r plentyn, y person ifanc, eu rhiant neu eu gofalwr, ynghylch ffactorau a all fod yn eu llesteirio rhag cyflawni eu potensial neu'n amharu ar eu hiechyd a'u llesiant
15. cynnwys y plentyn neu'r person ifanc, lle bo hynny'n briodol, mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, gan roi sylw i'w hoedran, eu gallu, eu dymuniadau a'u teimladau
16. dod i benderfyniadau pwyllog ynghylch sut mae gweithredu i ddiogelu a hybu lles plentyn neu berson ifanc
17. cymryd camau priodol oddi mewn i derfynau amser gofynnol er mwyn diogelu ac amddiffyn lles plant a phobl ifanc
18. cadw cofnodion cywir, wedi'u diweddaru o'ch camau gweithredu a'r canlyniadau

Rhannu gwybodaeth gyda'r rhai y mae arnynt ei hangen**

19. nodi gwybodaeth berthnasol a phenderfynu ar unrhyw fylchau y mae'n rhaid ymdrin â nhw
20. gyda'r bobl briodol, penderfynu a chytuno ar sut caiff unrhyw wybodaeth ofynnol ei chasglu, gan gynnwys pwy sydd i'w darparu ac erbyn pryd
21. asesu perthnasedd a statws gwybodaeth, gan wahaniaethu'n ofalus rhwng sylw a barn
22. nodi'r partïon y mae angen gwybodaeth arnynt, ac sydd â hawl i'w derbyn, a sicrhau bod yr wybodaeth ofynnol ar gael gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol, ac o fewn y terfynau amser gofynnol
23. cyfleu gwybodaeth yn ddiamwys, annog cwestiynau a gwirio dealltwriaeth
24. ceisio caniatâd, lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, gan y plentyn neu'r person ifanc a'r teulu neu'r gofalwr, ar gyfer rhannu gwybodaeth
25. cydnabod sgiliau ac arbenigedd gweithwyr proffesiynol eraill lle bo hynny'n briodol
26. cadw cofnodion cywir, wedi'u diweddaru o'r wybodaeth a ddarparwyd a'r canlyniadau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meithrin empathi gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr

1. pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth ac empathi gyda'r plant, y bobl ifanc, y teuluoedd a'r gofalwyr rydych chi'n gweithio gyda nhw, a'r dulliau o gyflawni hynny
2. gwahanol ffurfiau a dulliau cyfathrebu a all fod yn briodol, gan gynnwys sianeli electronig a chyfathrebu mewn gwahanol ieithoedd
3. pwysigrwydd cyfathrebu di-eiriau, megis iaith y corff, a sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn gwahanol ffyrdd
4. rhwystrau posibl i gyfathrebu, eu hachosion, a ffyrdd o'u goresgyn
5. rôl a gwerth teuluoedd a gofalwyr fel partneriaid wrth gefnogi eu plant i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
6. pam mae'n bwysig cynnwys y plentyn/person ifanc a'u teuluoedd/gofalwyr yn y broses, a sut mae gwneud hynny
7. sut mae plant a phobl ifanc yn gweld ac yn profi'r byd mewn gwahanol ffyrdd, ac effaith hynny wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â nhw
8. pam mae'n bwysig gwirio dealltwriaeth ac osgoi rhagdybiaethau
9. gweithdrefnau a deddfwriaeth yn ymwneud â materion cyfrinachedd sy'n berthnasol i rôl eich swydd
10. terfynau cyfrinachedd sy'n berthnasol i rôl eich swydd, gan gynnwys:
    10.1 yr amgylchiadau pryd mae'n angenrheidiol mynd yn groes i'r dymuniadau a fynegwyd gan blentyn/berson ifanc er eu lles pennaf
   10.2 pam mae'n bwysig gwirio eu bod yn deall beth sy'n digwydd a pham

Diogelu a hybu lles plant a phobl ifanc

11. beth sy'n cael ei olygu gan ddiogelu, ac ym mha wahanol ffyrdd gallai plant a phobl ifanc gael eu niweidio, gan gynnwys gan blant a phobl ifanc eraill, a thrwy'r rhyngrwyd
12. rolau allweddol rhieni a gofalwyr wrth ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc
13. pryd a sut mae trafod pryderon gyda rhieni a gofalwyr, a ffactorau sy'n gallu effeithio ar fagu plant a chynyddu risg camdriniaeth
14. arwyddion camdriniaeth bosibl, cydnabod y gall y rhain fod yn gynnil, a sut gall y rhain gael eu mynegi wrth chwarae, mewn gwaith celf, ac yn sut mae plant a phobl ifanc yn ymdrin â pherthnasoedd gyda phlant eraill a/neu oedolion
15. gwahanol fathau o gam-drin a'u cwmpas, a'u heffaith ar ddatblygiad plant
16. deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, a'u heffaith ar weithdrefnau sy'n berthnasol i rôl eich swydd
17. ffiniau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldeb personol eich hun, pryd dylid cynnwys pobl eraill, a sut mae derbyn cyngor a chefnogaeth
18. sut gall rhagdybiaethau, gwerthoedd a chamwahaniaethu ddylanwadu ar ymarfer, a sut gall atal rhai plant a phobl ifanc rhag cael cyfle cyfartal ac amddiffyniad cyfartal rhag niwed
19. polisïau cenedlaethol sy'n llywodraethu'r broses o nodi ac asesu anghenion plant a phobl ifanc a, lle bo hynny'n briodol, sut mae eu cymhwyso

Rhannu gwybodaeth gyda'r rhai y mae arnynt ei hangen**

20. rolau asiantaethau eraill, gweithdrefnau lleol amddiffyn plant ac amrywiadau yn y defnydd o derminoleg
21. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth yng nghyd-destun llesiant a diogelwch plant a phobl ifanc
22. sut gall ensyniad neu ddehongliad arwain at wahaniaeth rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud a'r hyn sy'n cael ei ddeall, a sut mae ymdrin â hynny
23. gwahanol ffynonellau ar gyfer gwybodaeth berthnasol
24. pam nad oes angen caniatâd bob amser i rannu gwybodaeth
25. yr egwyddorion sy'n llywodraethu pryd y bernir bod pobl ifanc yn ddigon aeddfed i roi caniatâd ar gyfer eu gwybodaeth, gan roi sylw arbennig i brofion cymhwysedd cyfredol
26. y partïon mae arnynt angen gwybodaeth, a/neu sydd a hawl i'w derbyn, a phryd
27. y gwahaniaeth rhwng rhannu gwybodaeth ar lefel unigol, sefydliadol a phroffesiynol
28. gofynion ynghylch cyfrinachedd a sut gall gwahanol weithdrefnau cyfrinachedd fod yn berthnasol mewn gwahanol gyd-destunau
29. pryd mae angen gweithredu ar sail gwybodaeth a dderbyniwyd, p'un a ofynnwyd am gyfrinachedd neu beidio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJGA7

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Swyddog Tîm Troseddwyr Ifanc, Swyddog Cyfiawnder Ieuenctid, Uwch Swyddog Tîm Troseddwyr Ifanc, Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid, Ymarferydd Cyfiawnder Ieuenctid, Uwch Weithiwr Tîm Troseddwyr Ifanc, Rheolwr Tîm Troseddwyr Ifanc

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfathrebu; ymgysylltu; plant; ieuenctid; teulu; gofalwyr