Arwain a chefnogi gweithrediadau rheoli i ddatrys digwyddiadau

URN: SFJFRSWM8
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwyliadwriaeth
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Gan fod y safon hon yn berthnasol ar draws ystod o gyd-destunau gwaith yn y gwasanaeth tân ac achub, mae'r canllawiau canlynol yn berthnasol ar lefel yr elfennau:

Cynllunio gweithredu i ymateb i anghenion digwyddiadau 
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i baratoi cynlluniau clir, realistig a phriodol ar gyfer cymryd camau cychwynnol mewn ymateb i ddigwyddiadau. Mae'n cynnwys eich cynlluniau ar gyfer y gofynion adnoddau a ragwelir a'ch gallu i ganiatáu hyblygrwydd digonol a chynllunio hapddigwyddiadau ar gyfer newidiadau posibl wrth i'r digwyddiadau fynd rhagddynt. 

Rhoi camau ar waith i gyflawni'r amcanion a gynlluniwyd 
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i roi cynlluniau yr ydych yn eu paratoi ar waith, er mwyn cyflawni amcanion digwyddiadau. Rhaid i chi ddangos eich bod yn cadarnhau'r amcanion ac yn defnyddio adnoddau priodol i ymateb i anghenion cychwynnol a newidiol digwyddiadau, ochr yn ochr â pharhau i weithredu o fewn eich lefel cymhwysedd a chyfrifoldeb eich hun. Mae'n cynnwys eich gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno, a chan roi blaenoriaeth i eraill. 

Dadfriffio pobl wedi digwyddiadau 
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i fynd ati i ddadfriffio unigolion a grwpiau, gan gynnwys mesur perfformiad a rhoi adborth arno yn erbyn safonau a bennwyd sy'n berthnasol i rolau gwaith. Mae'n cynnwys eich gallu i sicrhau bod materion critigol o ran risg yn derbyn sylw, eich bod yn adnabod ac yn cefnogi camau gweithredu llwyddiannus, a'ch bod yn cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn adeiladol gydag eraill. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio gweithredu i ymateb i anghenion digwyddiadau 

1. casglu a chadarnhau gwybodaeth sy'n berthnasol i'r risgiau hysbys a'r rhai a ragwelir i bobl, eiddo a'r amgylchedd
2. casglu gwybodaeth gefnogol ynghylch gofynion adnoddau cyfredol digwyddiadau a'r rhai a ragwelir 
3. paru adnoddau â'r anghenion a nodwyd gan ddigwyddiadau
4. cynllunio gweithredu i arwain a chefnogi ymateb eich tîm i ddigwyddiadau
5. datblygu eich amcanion trwy asesu risg
6. penderfynu ar y camau cychwynnol o ystyried yr adnoddau sydd ar gael, gan roi sylw i'r galw gwirioneddol a phosibl am yr adnoddau hyn
7. gwirio bod eich cynlluniau gweithredu yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion hysbys digwyddiadau a'r rhai a ragwelir

Rhoi camau ar waith i gyflawni'r amcanion a gynlluniwyd 

8. gwneud addasiadau priodol i'ch cynlluniau ar sail gwybodaeth a dderbyniwyd ynghylch digwyddiadau 
9. cadarnhau eich amcanion a defnyddio eich adnoddau i gyflawni'r anghenion sy'n flaenoriaeth 
10. gwirio bod eich penderfyniadau'n parhau i leiafu'r risg a mwyafu'r cynnydd tuag at eich amcanion 
11. ail-gyfeirio eich adnoddau i ymateb i flaenoriaethau newidiol digwyddiadau 
12. chwilio am wybodaeth i ddiweddaru eich cynlluniau a symud ymlaen gyda chamau gweithredu i gyflawni eich amcanion 
13. gweithredu oddi mewn i lefel gytunedig eich cyfrifoldeb a'ch awdurdod 
14. cadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
15. gwirio bod eich cyswllt gyda phobl yn adeiladol, yn gefnogol ac yn hybu cydweithredu a delwedd gadarnhaol o'r sefydliad 

Dadfriffio pobl wedi digwyddiadau 

16. mesur perfformiad yn erbyn safonau penodol sy'n berthnasol i'r rolau a ddiffiniwyd
17. gwerthuso a chadarnhau cyflawniadau yn erbyn amcanion digwyddiadau
18. nodi cyfleoedd a gweithredu i wella perfformiad yn y dyfodol
19. cynnal sesiynau dadfriffio mewn modd sy'n hybu dull adeiladol, agored a chefnogol o adolygu digwyddiadau
20. adnabod camau gweithredu llwyddiannus, cydnabod perfformiad effeithiol a rhoi gwybod i eraill am weithredoedd sy'n haeddu eu canmol
21. ymdrin â materion risg critigol a nodwyd trwy berfformiad pobl, cyfarpar, arferion gwaith a systemau
22. nodi a chofnodi'r holl bwyntiau dysgu arwyddocaol a;
22.1 cytuno ar gamau i ymdrin â'r rhain
23. cadw cofnodion, gan sicrhau eu bod yn y fformat cytunedig, yn gywir, yn gyflawn, yn ddarllenadwy ac ar gael i ddefnyddwyr awdurdodedig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Iechyd a Diogelwch

1. peryglon a risgiau'r gweithle sy'n effeithio ar bobl a'r amgylchedd   
2. sut mae gwneud a chymhwyso penderfyniadau ar sail yr asesiad o risg 
3. sut mae cymhwyso arferion sy'n mwyafu eich iechyd, eich diogelwch a'ch lles eich hun ac eraill yn y gweithle

Sefydliadol 

4. deddfwriaeth sy'n gymwys i'r Gwasanaeth Tân neu ddeddfwriaeth arall 
5. sut mae cyrchu, dehongli a darparu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys adborth 
6. polisïau, nodau ac amcanion y sefydliad 
7. sut mae cynllunio'r defnydd o adnoddau 
8. ffynonellau ac argaeledd gwybodaeth 
9. y cyfyngiadau sefydliadol sy'n effeithio ar gyflawni nodau ac amcanion y gweithle 
10. manylebau allbwn y sefydliad ar gyfer rheolaeth
11. systemau cofnodi a'r defnydd ohonynt
12. sut mae monitro a gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau ac amcanion
13. sut mae darparu gwybodaeth i ddylanwadu ar newid neu wella darpariaeth gwasanaethau

Personol a Rhyngbersonol 

14. sut mae cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol gyda'r ystod o bobl dan sylw 
15. sut mae trin cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd â pharch ac ystyriaeth, gan roi sylw i amrywiaeth a'i dderbyn 
16. llinellau a dulliau cyfathrebu/adrodd yn y gweithle 
17. rolau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau awdurdod o'ch rhan eich hun, eraill ac asiantaethau eraill yn y gweithle 
18. sut mae cynllunio a blaenoriaethu gwaith mewn ymateb i ofynion gwaith 
19. sut mae datrys problemau, gwneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau 
20. sut mae gwneud cyfraniadau cadarnhaol i waith tîm effeithiol
21. sut mae cynnwys a symbylu pobl 
22. sut mae pennu amcanion 
23. sut mae adnabod arwyddion a symptomau straen 
24. sut mae dethol a defnyddio technegau adborth 
25. dulliau o fonitro cyflawniad amcanion yn weithredol ac yn rhagweithiol   
26. gofynion y rôl a'r safonau perfformiad disgwyliedig
27. pwysigrwydd herio ymddygiad annerbyniol
28. sut mae adnabod problemau sy'n effeithio ar berfformiad a rhoi datrysiadau priodol, amserol ar waith 
29. sut mae adnabod cyflawniadau a chydnabod llwyddiant

Technegol 

30. sut mae dehongli gwybodaeth o wahanol fathau ac o ystod o ffynonellau 
31. sut mae paru a defnyddio adnoddau er mwyn cyflawni amcanion
32. galluoedd a chyfyngiadau cynnull cyfarpar 
33. sut mae defnyddio systemau cynnull ac adnoddau perthnasol 
34. sut mae dehongli gwybodaeth o wahanol fathau ac o ystod o ffynonellau 
35. argaeledd a mynediad i adnoddau mewnol ac allanol a chefnogaeth 
36. sut mae paru a defnyddio adnoddau er mwyn cyflawni amcanion 
37. eich cymuned, pobl, risgiau, daearyddiaeth a thopograffi 
38. ystod a defnyddiau gosodiadau gweithredol ac adnoddau

Hyfforddiant a Datblygiad 

39. sut mae trefnu a chynnal sesiynau dadfriffio ac adolygu perfformiad 
40. sut mae hybu'r diwylliant o ddysgu yn y sefydliad er mwyn symbylu dysgu gan unigolion ac fel tîm


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Darperir y diffiniadau hyn i esbonio sut defnyddir geiriau a chysyniadau allweddol yn yr uned hon.

Gweithgareddau                       
Camau gweithredu, prosesau, gweithrediadau neu wasanaethau yn y gweithle y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn cyflawni amcanion

Dyrannu gwaith
Rhoi cyfrifoldeb i dimau ac unigolion am dasgau a ddylai gyflawni amcanion gwaith cytunedig

Asesu risg    
Canfod peryglon a allai achosi niwed 

Defnyddwyr awdurdodedig          
Pobl sydd wedi'u hawdurdodi gan eich sefydliad i gyrchu gwybodaeth 

Cyfrinachedd                       
Darparu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn

Digwyddiadau                                
Argyfwng a heb fod yn argyfwng 

Adborth ar berfformiad
Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i aelodau'r tîm ynghylch lefel eu perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt 

Gwybodaeth
Yn ymwneud â'r digwyddiad. 
Derbyniwyd gan weithrediadau rheoli a phobl sy'n rhan o'r digwyddiad. 

Amcanion               
Canlyniadau wedi'u diffinio'n glir y mae angen i chi eu cyflawni, ac sy'n benodol, yn fesuradwy, wedi'u cytuno gydag eraill, yn realistig ac yn amser-gyfyngedig

Cyfyngiadau Sefydliadol
Polisïau, amcanion a lefel adnoddau eich sefydliad, sy'n cyfyngu ar eich rhyddid i wneud penderfyniadau a gweithredu 

Eraill 
Aelodau o'r tîm, cydweithwyr sy'n gweithio ar yr un lefel â chi, rheolwyr lefel uwch, arbenigwyr, pobl, sefydliadau, adrannau, naill ai'r tu mewn neu'r tu allan i'ch sefydliad yr ydych yn darparu tîm gwasanaethau neu gynnyrch ar eu cyfer, pobl eraill berthnasol, noddwyr a phobl y tu allan i'ch sefydliad 

Cynlluniau 
Dogfennau neu gytundebau llafar, sy'n disgrifio'r gwaith sydd i'w wneud, pryd, gan bwy, at ba safon, a chyda pha adnoddau, er mwyn medru cyflawni gofynion ac amcanion 

Cofnodion
Mecanwaith adrodd sefydliadol

Adnodd                          
Gosodiadau gweithredol, cyfarpar, pobl, asiantaethau allanol a gwasanaethau cymorth

Atodlenni 
Dogfennau sy'n dangos y gwaith sydd i'w wneud, pryd a, weithiau, gan bwy 

Math o risg                     
Pobl, eiddo, yr amgylchedd a'r sefydliad 

Aelodau'r Tîm
Pobl sy'n gweithio gyda chi fel rhan o dîm swyddogaethol neu brosiect; gall aelodau'r tîm adrodd i chi naill ai fel eu rheolwr llinell neu fel y rheolwr sy'n gyfrifol am brosiect neu weithgaredd penodol y maent yn gweithio arno​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJ FRS WM8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Gwyliadwriaeth Tân ac Achub

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfarwyddo; helpu; trefnu; cynllunio; ymateb; cydlynu; damwain; digwyddiad; dadfriffio