Ymateb i berfformiad gwael yn eich tîm
URN: SFJFRSWM11
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwyliadwriaeth
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2014
Trosolwg
Gan fod y safon hon yn berthnasol ar draws ystod o gyd-destunau gwaith yn y gwasanaeth tân ac achub, mae'r canllawiau canlynol yn berthnasol ar lefel yr elfennau:
Helpu aelodau o'r tîm sydd â phroblemau sy'n effeithio ar eu perfformiad
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i ddarparu cefnogaeth adeiladol a chadarnhaol i aelodau o'r tîm sy'n cael anawsterau yn eu rôl waith. Gall hyn gynnwys eich bod chi'n rhoi adborth, yn ymchwilio i anghenion datblygu ac yn cyfeirio at bersonél eraill arbenigol.
Cyfrannu at roi gweithdrefnau disgyblu ac achwyn ar waith
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i wneud cyfraniadau effeithiol ac adeiladol i roi gweithdrefnau disgyblu ac achwyn ar waith, i ddelio gydag achosion o berfformiad gwael. Gall olygu eich bod chi'n gweithio o dan oruchwyliaeth i gymhwyso gweithdrefnau mewnol perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu aelodau o'r tîm sydd â phroblemau sy'n effeithio ar eu perfformiad
1. canfod perfformiad gwael a sicrhau bod yr aelodau o'r tîm dan sylw yn cael eu gwneud yn ymwybodol ohono
2. rhoi cyfle i aelodau'r tîm drafod problemau gwirioneddol neu bosibl sy'n effeithio ar eu perfformiad
3. trafod materion gydag aelodau'r tîm ar adeg a lle sy'n briodol ar gyfer math, difrifoldeb a chymhlethdod y broblem
4. casglu gwybodaeth briodol i ganfod natur y broblem
5. gwirio'r wybodaeth briodol i ganfod natur y broblem
6. trafod gydag aelodau'r tîm gamau gweithredu sy'n briodol, yn amserol ac yn effeithiol
7. sicrhau eich bod, lle bo angen, yn cyfeirio aelodau'r tîm at wasanaethau cefnogi sy'n briodol ar gyfer eu hamgylchiadau unigol
8. sicrhau bod y modd rydych chi'n ymateb i broblemau aelodau'r tîm yn parchu unigolion a'r angen am gyfrinachedd
9. hysbysu eraill am broblemau y tu hwnt i'ch lefel o gyfrifoldeb neu gymhwysedd
Cyfrannu at roi gweithdrefnau disgyblu ac achwyn ar waith
10. sicrhau bod gan aelodau eich tîm wybodaeth glir, gywir ac amserol ynghylch gweithdrefnau disgyblu ac achwyn
11. sicrhau bod eich cyfraniadau i weithdrefnau disgyblu ac achwyn yn cael eu darparu mewn modd diduedd ac amserol
12. sicrhau bod eich cyfraniadau at roi gweithdrefnau disgyblu ac achwyn ar waith yn cyfateb i lefel eich awdurdod
13. rhoi gweithdrefnau disgyblu ac achwyn ar waith, ar yr un pryd â chynnal parch at unigolion a'r angen am gyfrinachedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sefydliadol
1. gofynion sefydliadol sy'n berthnasol i weithdrefnau disgyblu ac achwyn
2. yr ystod o wasanaethau cymorth sy'n bodoli y tu mewn i'ch sefydliad a'r tu allan iddo
3. pwysigrwydd cyfrinachedd a phwy gaiff dderbyn pa wybodaeth
Personol a Rhyngbersonol
4. pwysigrwydd darparu cyfleoedd i aelodau'r tîm drafod problemau
5. sut mae annog a galluogi aelodau'r tîm i siarad yn agored am eu problemau
6. eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth ddelio gyda phroblemau aelodau'r tîm
7. y mathau o broblemau y gallai aelodau eich tîm ddod ar eu traws yn y gwaith
8. pwysigrwydd cynnal parch at yr unigolyn
9. y terfynau na ddylech fynd y tu hwnt iddynt wrth ymwneud â phroblem yr unigolyn
Technegol
10. sut mae nodi problemau mae'r unigolyn yn eu hwynebu, a llunio ymatebion priodol
11. pwysigrwydd trafod camau gweithredu gyda'r aelod o'r tîm dan sylw
12. sut mae penderfynu pryd mae'r broblem yn mynd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldeb eich hun
13. pwysigrwydd canfod perfformiad gwael a dod ag ef i sylw aelodau'r tîm yn uniongyrchol
14. pwysigrwydd cymhwyso gweithdrefnau disgyblu ac achwyn a'ch cyfrifoldebau yn y cyswllt hwnnw
15. sefyllfaoedd pryd y dylid rhoi gweithdrefnau disgyblu ac achwyn ar waith
16. pwysigrwydd hysbysu aelodau'r tîm ynghylch gweithdrefnau disgyblu ac achwyn a'r dulliau sydd ar gael i'w defnyddio
17. pwysigrwydd tegwch, bod yn ddiduedd ac ymateb yn brydlon wrth ddelio gyda gweithdrefnau disgyblu ac achwyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Darperir y diffiniadau hyn i esbonio sut defnyddir geiriau a chysyniadau allweddol yn yr uned hon.
Gweithgareddau
Camau gweithredu, prosesau, gweithrediadau neu wasanaethau yn y gweithle y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn cyflawni amcanion
Dyrannu gwaith
Rhoi cyfrifoldeb i dimau ac unigolion am dasgau a ddylai gyflawni amcanion gwaith cytunedig
Cyfrinachedd
Darparu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
Gweithdrefnau disgyblu
Gweithdrefnau, sy'n rhan o'r contract cyflogaeth, y mae'n rhaid eu dilyn
mewn achosion o waith nad yw'n cyrraedd y safon neu gamymddygiad difrifol; mae'r gweithdrefnau hyn fel arfer yn cynnwys proses o rybuddion llafar ac ysgrifenedig, a diswyddo, yn y pen draw
Adborth ar berfformiad
Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i aelodau'r tîm ynghylch lefel eu perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt
Gweithdrefnau achwyn
Gweithdrefnau, sy'n rhan o'r contract cyflogaeth, y mae'n rhaid eu dilyn
os bydd gan aelod o'r tîm gwyn ddifrifol yn erbyn eich sefydliad neu rywun ynddo; mae'r gweithdrefnau hyn fel arfer yn cynnwys proses o apeliadau i reolwyr lefel uwch
Amcanion
Canlyniadau wedi'u diffinio'n glir y mae angen i chi eu cyflawni, ac sy'n benodol, yn fesuradwy, wedi'u cytuno gydag eraill, yn realistig ac yn amser-gyfyngedig
Cyfyngiadau Sefydliadol
Polisïau, amcanion a lefel adnoddau eich sefydliad, sy'n cyfyngu ar eich rhyddid i wneud penderfyniadau a gweithredu
Gofynion sefydliadol
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sy'n berthnasol i weithdrefnau disgyblu ac achwyn
Eraill
Aelodau o'r tîm, cydweithwyr sy'n gweithio ar yr un lefel â chi, rheolwyr lefel uwch, arbenigwyr, pobl, sefydliadau, adrannau, naill ai'r tu mewn neu'r tu allan i'ch sefydliad yr ydych yn darparu tîm gwasanaethau neu gynnyrch ar eu cyfer, pobl eraill berthnasol, noddwyr a phobl y tu allan i'ch sefydliad
Problemau sy'n effeithio ar berfformiad aelodau'r tîm
Problemau yn y gwaith y gellir eu hachosi naill ai gan ffactorau cysylltiedig â gwaith neu ffactorau allanol o fywyd personol aelodau'r tîm
Cynlluniau
Dogfennau neu gytundebau llafar, sy'n disgrifio'r gwaith sydd i'w wneud, pryd, gan bwy, at ba safon, a chyda pha adnoddau, er mwyn medru cyflawni gofynion ac amcanion
Parch at unigolion
Cydnabod yn agored bod gan unigolion hawl i'w safbwyntiau,
eu camau gweithredu a'u datblygiad eu hunain, cyhyd ag nad yw'r rhain yn cyfyngu'n ormodol ar hawliau pobl eraill
Gwasanaethau cymorth
Gwasanaethau arbenigol, megis meddygon neu gynghorwyr, y gall fod gofyn iddynt helpu aelodau'r tîm i ddatrys eu problemau
Atodlenni
Dogfennau sy'n dangos y gwaith sydd i'w wneud, pryd a, weithiau, gan bwy
Aelodau'r Tîm
Pobl sy'n gweithio gyda chi fel rhan o dîm swyddogaethol neu brosiect; gall aelodau'r tîm adrodd i chi naill ai fel eu rheolwr llinell neu fel y rheolwr sy'n gyfrifol am brosiect neu weithgaredd penodol y maent yn gweithio arno
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2019
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Canolfan Safonau Rheoli
URN gwreiddiol
MSC C15
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr Gwyliadwriaeth Tân ac Achub
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Personol; datblygiad; sgiliau; perthnasoedd gwaith