Arwain gwaith timau ac unigolion i gyflawni eu hamcanion
URN: SFJFRSWM1
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gwyliadwriaeth
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
31 Rhag 2014
Trosolwg
Gan fod y safon hon yn berthnasol ar draws ystod o gyd-destunau gwaith yn y gwasanaeth tân ac achub, mae'r canllawiau canlynol yn berthnasol ar lefel yr elfennau:
Cynllunio gwaith timau ac unigolion
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i gynllunio gwaith yn ddyddiol ac yn wythnosol, gan ddyrannu tasgau a dyletswyddau a phennu amcanion.
Asesu gwaith timau ac unigolion
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i asesu unigolion a thimau yn erbyn eu safonau perfformiad rhagnodedig wrth iddynt gwblhau'r tasgau a ddyrannwyd gennych.
Darparu adborth i dimau ac unigolion ar eu gwaith
Mae'r elfen hon yn ymwneud â'ch gallu i roi adborth yn rhagweithiol ac ar gais i'ch tîm ac i unigolion. Mae'n cynnwys eich bod yn manteisio ar gyfleoedd yn ystod gweithgaredd gwaith arferol, yn ystod sesiynau dadfriffio ac yn ystod adolygiadau perfformiad, i roi adborth adeiladol er mwyn gwella perfformiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio gwaith timau ac unigolion
1. rhoi cyfleoedd i aelodau eich tîm gyfrannu at gynllunio a threfnu eu gwaith
2. sicrhau bod eich cynlluniau'n cydweddu ag amcanion eich tîm
3. sicrhau bod eich cynlluniau'n cwmpasu'r holl bersonél yr ydych chi'n gyfrifol am eu gwaith
4. sicrhau bod eich cynlluniau a'ch amserlenni yn realistig ac yn gyflawnadwy oddi mewn i gyfyngiadau sefydliadol
5. sicrhau eich bod yn cynllunio eich dull o ddyrannu gwaith, gan roi ystyriaeth lawn i alluoedd ac anghenion datblygu aelodau'r tîm
6. esbonio eich cynlluniau a'ch gweithgareddau gwaith i aelodau eich tîm yn ddigon manwl, ac ar lefel a chyflymdra sy'n briodol iddyn nhw
7. cadarnhau dealltwriaeth aelodau eich tîm o'ch cynlluniau a'u gweithgareddau gwaith ar adegau priodol
8. diweddaru eich cynlluniau yn rheolaidd, gan roi sylw i newidiadau unigol, tîm a sefydliadol
Asesu gwaith timau ac unigolion
9. esbonio diben asesu yn glir ac yn gywir wrth bawb dan sylw
10. darparu cyfleoedd i aelodau'r tîm asesu eu gwaith eu hunain
11. sicrhau bod eich asesiad o waith yn digwydd ar yr adegau sy'n fwyaf tebygol o gynnal a gwella perfformiad effeithiol
12. sicrhau bod eich asesiadau wedi'u seilio ar wybodaeth ddigonol, ddilys a dibynadwy
13. sicrhau bod eich asesiadau yn cael eu gwneud yn wrthrychol, gan ddefnyddio meini prawf clir, cytunedig
Darparu adborth i dimau ac unigolion ar eu gwaith
14. darparu adborth i aelodau eich tîm mewn sefyllfa, ffurf a modd sy'n cynnal ac yn gwella'u perfformiad
15. sicrhau bod yr adborth a roddwch yn glir ac wedi'i seilio ar asesiad gwrthrychol o waith aelodau'r tîm
16. sicrhau bod eich adborth yn cydnabod cyflawniadau aelodau'r tîm ac yn darparu awgrymiadau adeiladol ac anogaeth i wella eu gwaith
17. sicrhau bod eich dull o roi adborth yn dangos parch at yr unigolion dan sylw
18. cynnal cyfrinachedd adborth a roddwyd i unigolion a thimau
19. darparu cyfleoedd i aelodau'r tîm ymateb i adborth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sefydliadol
1. eich rhwymedigaethau contractiol eich hun, eich hawliau cyflogaeth a therfynau eich awdurdod
2. yr ystod o reoliadau a gofynion allanol sy'n effeithio ar eich gwaith
3. polisïau, nodau ac amcanion y sefydliad
Personol a rhyngbersonol
4. pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol wrth esbonio cynlluniau gwaith a dyraniadau
5. sut mae cyflwyno cynlluniau gwaith mewn modd sy'n ennyn cefnogaeth ac ymrwymiad y rhai dan sylw
6. pwysigrwydd bod yn eglur ynghylch diben asesu a chyfathrebu hynny'n effeithiol i'r rhai dan sylw
7. pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu da wrth ddarparu adborth
8. sut mae rhoi adborth a fydd yn cynnal neu wella'u perfformiad i aelodau'r tîm
9. sut mae ysgogi aelodau'r tîm
10. pwysigrwydd rhoi anogaeth wrth ddarparu adborth i aelodau'r tîm a dangos parch at y rhai dan sylw
Technegol
11. pwysigrwydd cynllunio gweithgareddau gwaith o safbwynt effeithiolrwydd y sefydliad, a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau chi yn y cyswllt hwnnw
12. sut mae datblygu cynlluniau gwaith realistig, cyflawnadwy i dimau ac unigolion yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir
13. sut mae dewis amser a man priodol i roi adborth i dimau ac unigolion
14. pwysigrwydd darparu cyfle i aelodau eich tîm gyfrannu at gynllunio a threfnu eu gwaith
15. pwysigrwydd darparu cyfleoedd i aelodau eich tîm asesu eu gwaith eu hunain, a sut gallwch chi annog a galluogi'r ymwneud hwn
16. pam mae'n bwysig darparu awgrymiadau adeiladol ynghylch sut gellir gwella perfformiad
17. pwysigrwydd rhoi cyfle i'r rhai sy'n cael eu hasesu i gynnig awgrymiadau ynghylch sut mae gwella eu gwaith
18. goblygiadau'r gwahaniaethau rhwng cynllunio gwaith aelodau'r tîm oddi mewn i'ch rheolaeth linell ac eraill
19. sut mae casglu a gwerthuso'r wybodaeth mae ei hangen arnoch i asesu gwaith timau ac unigolion
20. egwyddorion cyfrinachedd wrth ddarparu adborth
21. dibenion asesu gwaith, a sut mae'n chwarae rôl mewn sefydliad
22. sut mae asesu gwaith timau ac unigolion yn y gweithle
23. egwyddorion asesu gwaith yn deg ac yn wrthrychol, a sut mae sicrhau y cyflawnir hynny
24. pwysigrwydd adolygu gwaith yn rheolaidd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Darperir y diffiniadau hyn i esbonio sut defnyddir geiriau a chysyniadau allweddol yn yr uned hon.
Gweithgareddau
Camau gweithredu, prosesau, gweithrediadau neu wasanaethau yn y gweithle y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn cyflawni amcanion
Dyrannu gwaith
Rhoi cyfrifoldeb i dimau ac unigolion am dasgau a ddylai gyflawni amcanion gwaith cytunedig
Cyfrinachedd
Darparu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
Adborth ar berfformiad
Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i aelodau'r tîm ynghylch lefel eu perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt
Amcanion
Canlyniadau wedi'u diffinio'n glir y mae angen i chi eu cyflawni, ac sy'n benodol, yn fesuradwy, wedi'u cytuno gydag eraill, yn realistig ac yn amser-gyfyngedig
Cyfyngiadau Sefydliadol
Polisïau, amcanion a lefel adnoddau eich sefydliad, sy'n cyfyngu ar eich rhyddid i wneud penderfyniadau a gweithredu
Eraill
Aelodau o'r tîm, cydweithwyr sy'n gweithio ar yr un lefel â chi, rheolwyr lefel uwch, arbenigwyr, pobl, sefydliadau, adrannau, naill ai'r tu mewn neu'r tu allan i'ch sefydliad yr ydych yn darparu tîm gwasanaethau neu gynnyrch ar eu cyfer, pobl eraill berthnasol, noddwyr a phobl y tu allan i'ch sefydliad
Cynlluniau
Dogfennau neu gytundebau llafar, sy'n disgrifio'r gwaith sydd i'w wneud, pryd, gan bwy, at ba safon, a chyda pha adnoddau, er mwyn medru cyflawni gofynion ac amcanion
Cofnodion
Mecanwaith adrodd sefydliadol
Atodlenni
Dogfennau sy'n dangos y gwaith sydd i'w wneud, pryd a, weithiau, gan bwy
Aelodau'r Tîm
Pobl sy'n gweithio gyda chi fel rhan o dîm swyddogaethol neu brosiect; gall aelodau'r tîm adrodd i chi naill ai fel eu rheolwr llinell neu fel y rheolwr sy'n gyfrifol am brosiect neu weithgaredd penodol y maent yn gweithio arno
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Rhag 2019
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Canolfan Safonau Rheoli
URN gwreiddiol
MSC C12
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr Gwyliadwriaeth Tân ac Achub
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Personol; datblygiad; sgiliau; perthnasoedd gwaith