Bod yn bresennol mewn tanau gwyllt a’u rheoli
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i weithio fel aelod o dîm wrth ymateb i danau gwyllt a delio â nhw. Mae’r safon hon yn cynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol a gweithredu cyfarpar yn ddiogel i reoli tanau gwyllt ac i gadw’ch hun a chadw pobl eraill yn ddiogel yn ystod tanau gwyllt.
Gall tanau gwyllt ledaenu a newid ymddygiad yn gyflym felly bydd angen i chi ddeall y meysydd allweddol sy’n effeithio ar ddatblygiad ac ymddygiad tanau gwyllt. Trwy gydol y safon hon, mae’n bwysig eich bod yn cyfathrebu’n effeithiol er mwyn cynnal diogelwch.
Argymhellir y safon hon i ymladdwyr tân sy’n bresennol mewn tanau gwyllt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cadarnhau gyda phobl eraill eich tasgau a’ch dyletswyddau yn gysylltiedig â thannau gwyllt yn unol â’ch rôl, eich cyfrifoldebau, eich gallu a’ch profiad
P2 llywio ‘n ddiogel yn ystod tanau gwyllt, yn unol â gwybodaeth sydd ar gael
P3 adnabod ffactorau sy’n achosi newidiadau i ymddygiad tanau gwyllt yn unol â’r System Rhagweld Tanau Gwyllt
P4 rhoi gwybod am unrhyw newidiadau mewn ymddygiad tân gwyllt i bobl eraill wrth y digwyddiad yn unol â gweithdrefnau cyfathrebu’ch sefydliad
P5 gweithredu’n ddiogel yn ystod tanau gwyllt yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol eich sefydliad
P6 defnyddio dulliau ffrwyno i ddelio â thanau gwyllt yn unol â’ch tasgau a’ch dyletswyddau cytunedig
P7 cynnal cyfathrebiadau effeithiol yn ystod tanau gwyllt yn unol â gweithdrefnau cyfathrebu eich sefydliad
P8 defnyddio adnoddau, offer a chyfarpar diogelu personol mewn tanau gwyllt yn unol â’u cyfyngiadau, eu cyfarwyddiadau diogelwch a’u cyfarwyddiadau gweithredu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Lechyd a diogelwch
K1 pwysigrwydd cynnal eich diogelwch a’ch lles chi a diogelwch a lles pobl eraill yn ystod tanau gwyllt
K2 ffactorau sy’n effeithio ar ddiogelwch a lles personél yn ystod ymateb i dân gwyllt
K3 arferion gweithio diogel eich sefydliad wrth ymateb i danau gwyllt
K4 mesurau sydd ar gael ar gyfer cynnal lles yn achos tanau gwyllt, gan gynnwys ardaloedd gorffwys, bwyd, dŵr a chymorth cyntaf
K5 peryglon a risgiau tanau gwyllt sy’n effeithio ar bobl, eiddo a’r amgylchedd K6 sut i ddefnyddio gwybodaeth asesiad risg i wneud penderfyniadau
K7 sut i weithredu a chyfleu penderfyniadau ar sail yr asesiad o risg
K8 mesurau rheoli eich sefydliad i liniaru risgiau
Sefydliadol
K9 deddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau, canllawiau a phrotocolau sy’n berthnasol i’ch rôl yn ystod tanau gwyllt
K10 deddfwriaeth, canllawiau a gweithdrefnau gweithredu safonol sy’n berthnasol i danau gwyllt o fewn maes eich cyfrifoldeb
K11 rolau, cyfrifoldebau a chyfyngiadau eich awdurdod chi, awdurdod pobl eraill ac awdurdod asiantaethau eraill yn gysylltiedig â thanau gwyllt
Personol a rhyngbersonol
K12 dulliau a thechnegau ar gyfer cyfathrebu â phobl eraill
K13 llinellau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle
K14 pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ag eraill yn ystod tanau gwyllt
K15 sut i drin pobl eraill gyda pharch ac ystyriaeth, gan gyfrif am amrywiaeth a’i dderbyn
Technegol
K16 gwybodaeth sydd ar gael i lywio eich dealltwriaeth o danau gwyllt a sut i gael ati
K17 sut i ddefnyddio mapiau, offer neu gyfarwyddiadau i lywio o gwmpas tanau gwyllt
K18 y System Rhagweld Tanau Gwyllt a sut i’w chymhwyso
K19 cyfarpar diogelu personol a chyfarpar gweithredol sy’n cael eu defnyddio mewn tanau gwyllt, gan gynnwys eu galluoedd, eu cyfyngiadau a’r defnydd diogel ohonynt
K20 tactegau ffrwyno a dulliau eich sefydliad ar gyfer rheoli a diffodd tanau gwyllt
K21 protocol diogelwch LACES (Lookouts, Awareness, Communications, Escape Routes, Safety Zones) a sut i’w weithredu’n effeithiol
K22 sut i gynnal ymwybyddiaeth sefyllfaol gan ddefnyddio protocol LACES
Cwmpas/ystod
1 Llywio
1.1 dilyn cyfarwyddiadau
1.2 dilyn arweinwyr a chydweithwyr
1.3 sgiliau sylfaenol darllen mapiau
1.4 GPS
2 Ffynonellau a mathau o wybodaeth
2.1 mapiau
2.2 cynlluniau a strategaethau tân lleol
2.3 polisïau, canllawiau, gweithdrefnau gweithredu safonol ac asesiadau risg yn berthnasol i danau gwyllt
2.4 deallusrwydd dynol
3. Amgylchedd tanau gwyllt
3.1 topograffeg
3.2 tanwydd
3.3 tywydd
3.4 ymddygiad tân
4 Risgiau
4.1 risgiau iechyd a diogelwch i bobl
4.2 risg eiddo, economaidd a masnachol
4.3 amgylcheddol
5 Eraill
5.1 cydweithwyr
5.2 rheolwyr tir
5.3 Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
5.4 Y Weinyddiaeth Amddiffyn
5.5 gwasanaethau brys
5.6 cwmnïau cyfleustodau
5.7 y cyfryngau
5.8 aelodau’r cyhoedd
5.9 gwasanaethau trafnidiaeth
5.10 Timau Chwilio ac Achub
5.11 asiantaethau gwirfoddol
5.12 Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol
5.13 asiantaethau eraill
6. Adnoddau
6.1 adnoddau mewnol
6.2 adnoddau allanol
6.3 personél a’u galluoedd
6.4 cymorth milwrol
6.5 cyfarpar
6.6 darpariaeth dŵr
6.7 grwpiau tanau gwyllt lleol
6.8 meddalwedd ac offer perthnasol fel MDT
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Disgwylir y bydd yr NOS hwn yn cael ei ddefnyddio a’i gymhwyso ar y cyd ag NOS eraill sy’n berthnasol i’ch rôl ym maes tân ac achub.
Cysylltiadau Allanol
Mae ‘Canllawiau Gweithredol – Tanau Gwyllt’ ar gael, ac fe’u datblygwyd er mwyn rhoi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ychwanegol o danau gwyllt i staff Gwasanaethau Tân ac Achub (FRS) y Deyrnas Unedig.
Cyhoeddir ‘Canllawiau Gweithredol – Tanau Gwyllt’ (Saesneg) gan Lywodraeth yr Alban:
http://www.scotland.gov.uk/Topics/Justice/public-safety/fire-and-rescue-
services/fire-rescue-advisory-unit/publications/wildfireopsguidancedraft