Darparu cyngor arbenigol i reoli tanau gwyllt
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i ddarparu arbenigedd mewn tanau gwyllt, gan gynnwys tactegau ymladd tân, dulliau rheoli a sicrhau diogelwch mewn tanau gwyllt.
Gall rheoli tanau gwyllt ddefnyddio technegau unigryw i ffrwyno tân, felly bydd eich dealltwriaeth o amgylchedd tanau gwyllt a datblygiad tanau gwyllt yn rhan allweddol o’ch gallu i nodi tactegau priodol. Gall tanau gwyllt gael effaith sylweddol ac, felly, bydd angen i chi gyfathrebu’n effeithiol er mwyn rhoi gwybodaeth i bawb a’u cadw’n ddiogel.
Argymhellir y safon hon i’r rhai sy’n cynghori ar dechnegau arbenigol i reoli tanau gwyllt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 casglu gwybodaeth sydd ar gael ar gyfer tanau gwyllt yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P2 nodi a chynnal ymwybyddiaeth o risg tanau gwyllt yn unol â phrosesau asesu risg
P3 nodi mesurau rheoli i leihau risg tanau gwyllt yn unol â phrosesau asesu risg
P4 asesu ffactorau sy’n effeithio ar ymddygiad tanau gwyllt yn unol â’r System Rhagweld Tanau Gwyllt
P5 cysylltu ag eraill i lunio cynlluniau tactegol diogel gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael ac yn unol â gofynion eich sefydliad
P6 nodi tactegau sy’n caniatáu dulliau rheoli effeithiol gan ddefnyddio’r System Rhagweld Tanau Gwyllt
P7 monitro ac adolygu’r cynllun tactegol yn barhaus gan ddefnyddio’r System Rhagweld Tanau Gwyllt
P8 cyfleu newidiadau i’r cynllun tactegol i bobl eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfathrebu eich sefydliad
P9 cynnal eich diogelwch a’ch lles chi a diogelwch a lles pobl eraill yn ystod tanau gwyll, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gweithio’n ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Lechyd a diogelwch
K1 pwysigrwydd cynnal eich diogelwch a’ch lles chi a diogelwch a lles pobl eraill yn ystod tanau gwyllt
K2 ffactorau sy’n effeithio ar les personél yn ystod ymateb i dân gwyllt
K3 arferion gweithio diogel eich sefydliad wrth ymateb i danau gwyllt
K4 mesurau ar gyfer cynnal lles yn achos tanau gwyllt, gan gynnwys ardaloedd gorffwys, bwyd, dŵr a chymorth cyntaf
K5 peryglon a risgiau tanau gwyllt sy’n effeithio ar bobl, eiddo a’r amgylchedd
K6 sut i ddefnyddio gwybodaeth asesiad risg i wneud penderfyniadau
K7 sut i weithredu penderfyniadau ar sail yr asesiad o risg
K8 mesurau rheoli eich sefydliad i liniaru risgiau
Sefydliadol
K9 systemau cyfathrebu a rheoli digwyddiadau eich sefydliad chi a sefydliadau eraill a ddefnyddir yn ystod tanau gwyllt
K10 deddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau, canllawiau a phrotocolau sy’n berthnasol i’ch rôl yn ystod tanau gwyllt
K11 sut i ddefnyddio systemau, offer, dulliau a thempledi sydd ar gael i gynorthwyo â’r broses gynllunio
Personol a rhyngbersonol
K12 eich rôl a’ch cyfrifoldebau wrth ymateb i danau gwyllt, gan gynnwys yr ardal ddaearyddol rydych yn gyfrifol amdani
K13 pobl eraill berthnasol y gallech weithio gyda nhw a’u rôl yn ystod tanau gwyllt
K14 llinellau a dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle
K15 sut i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gydag eraill
K16 sut i drin pobl eraill gyda pharch ac ystyriaeth, gan gyfrif am amrywiaeth a’i dderbyn
K17 pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ag eraill yn ystod tanau gwyllt
Technegol
K18 protocol diogelwch LACES (Lookouts, Awareness, Communications, Escape Routes, Safety Zones) a sut i’w weithredu’n effeithiol
K19 sut i gael at wahanol ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i danau gwyllt, a’u defnyddio
K20 y System Rhagweld Tanau Gwyllt a sut i’w chymhwyso
K21 yr adnoddau sydd ar gael i ymateb i danau gwyllt a sut gallant gael eu defnyddio i reoli tanau gwyllt
K22 pwysigrwydd neilltuo staff i dasgau yn unol â lefel eu profiad, eu galluoedd a’u gwybodaeth
K23 tactegau a dulliau ffrwyno, eu defnyddio’n ddiogel a’u heffaith ar reoli tanau gwyllt
Cwmpas/ystod
1. Casglu gwybodaeth
1.1 Gwybodaeth am ddigwyddiad
1.2 Yr adnoddau yn y fan a’r lle
1.3 Yr adnoddau sydd ar gael
1.4 Asiantaethau allanol a’r adnoddau sydd ar gael ganddynt
2. Ffynonellau a mathau o wybodaeth
2.1 mapiau
2.2 Rhagolygon meteorolegol a data hanesyddol
2.3 Gwybodaeth am ddigwyddiadau hanesyddol
2.4 Cofrestri gallu lleol a chenedlaethol
2.5 Cynlluniau a strategaethau digwyddiadau tân lleol, strategol a mawr
2.6 Strategaethau tân cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
2.7 Polisïau, canllawiau, gweithdrefnau gweithredu safonol ac asesiadau risg yn berthnasol i danau gwyllt
2.8 Meddalwedd ac offer perthnasol
2.9 Systemau gwybodaeth a graddio perygl tân
2.10 Deallusrwydd dynol
3. Amgylchedd tanau gwyllt
3.1 Topograffeg
3.2 Tanwydd
3.3 Tywydd
3.4 Ymddygiad tân
4. Risgiau
4.1 Risgiau iechyd a diogelwch i bobl
4.2 Risg eiddo, economaidd a masnachol
Amgylcheddol
5. Eraill
5.1 Cydweithwyr
5.2 Rheolwyr tir
5.3 Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
5.4 Y Weinyddiaeth Amddiffyn
5.5 gwasanaethau brys
5.6 cwmnïau cyfleustodau
5.7 Y cyfryngau
5.8 Aelodau’r cyhoedd
5.9 Gwasanaethau trafnidiaeth
5.10 Timau Chwilio ac Achub
5.11 Asiantaethau gwirfoddol
5.12 Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol
5.13 Asiantaethau eraill
6. Adnoddau
6.1 Adnoddau mewnol
6.2 Adnoddau allanol
6.3 Personél a’u galluoedd
6.4 Cymorth milwrol
6.5 Cyfarpar
6.6 Darpariaeth dŵr
6.7 Grwpiau tanau gwyllt lleol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Disgwylir y bydd yr NOS hwn yn cael ei ddefnyddio a’i gymhwyso ar y cyd ag NOS eraill sy’n berthnasol i’ch rôl ym maes tân ac achub.
Cysylltiadau Allanol
Mae ‘Canllawiau Gweithredol – Tanau Gwyllt’ ar gael, ac fe’u datblygwyd er mwyn rhoi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ychwanegol o danau gwyllt i staff Gwasanaethau Tân ac Achub (FRS) y Deyrnas Unedig.
Cyhoeddir ‘Canllawiau Gweithredol – Tanau Gwyllt’ (Saesneg) gan Lywodraeth yr Alban:
http://www.scotland.gov.uk/Topics/Justice/public-safety/fire-and-rescue-
services/fire-rescue-advisory-unit/publications/wildfireopsguidancedraft