Paratoi a chynllunio ar gyfer tanau gwyllt

URN: SFJFRSWF01
Sectorau Busnes (Suites): Tân ac Achub - ymdrin ag achosion o Danau Gwyllt,Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2013

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynllunio ar gyfer tanau gwyllt. Mae’n ymdrin â’ch gallu i nodi a chasglu gwybodaeth a’i defnyddio i gyfrannu at gynlluniau gweithredol a strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol ar gyfer delio â thanau gwyllt. Mae’n cynnwys asesu risg tanau gwyllt yn yr ardal rydych chi’n gyfrifol amdani, gan nodi adnoddau a datblygu cynlluniau tanau gwyllt. Fel rhan o’r safon hon, bydd disgwyl i chi weithio gyda thirfeddianwyr ac asiantaethau eraill.

Argymhellir y safon hon ar gyfer arbenigwyr tanau gwyllt a phobl sydd â rôl strategol, dactegol neu weithredol wrth ddelio â thanau gwyllt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1     cytuno ar eich rôl a’ch cyfrifoldebau am ymateb i danau gwyllt gyda phobl eraill berthnasol yn eich sefydliad
P2     nodi a dehongli ffynonellau gwybodaeth am danau gwyllt o fewn eich rôl mewn ymateb i danau gwyllt
P3     casglu gwybodaeth sy’n gyfredol, yn berthnasol ac sy’n bodloni gofynion gwybodaeth eich sefydliad am danau gwyllt
P4     casglu gwybodaeth am amgylcheddau tanau gwyllt yn yr ardal ddaearyddol rydych chi’n gyfrifol amdani
P5     asesu risgiau tanau gwyllt i bobl, eiddo a’r amgylchedd yn unol â gweithdrefnau asesu risg eich sefydliad
P6     nodi mesurau rheoli er mwyn lleihau risg i bobl, eiddo a’r amgylchedd yn unol â gweithdrefnau asesu risg eich sefydliad
P7     monitro gwybodaeth er mwyn nodi sbardunau cynnydd mewn risg tanau gwyllt yn unol â gweithdrefnau asesu risg eich sefydliad
P8     cyfrannu at gynlluniau rheoli risg yn unol â gofynion eich sefydliad
P9     datblygu cynlluniau tanau gwyllt gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn unol â gofynion eich sefydliad ar gyfer parodrwydd gweithredol
P10 adolygu cynlluniau tanau gwyllt i ymateb i newidiadau mewn amgylchiadau yn unol â gofynion eich sefydliad
P11 sefydlu’r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i ymateb i danau gwyllt yn unol â gweithdrefnau adnoddau eich sefydliad
P12 neilltuo adnoddau i gynlluniau tanau gwyllt i fodloni gofynion eich sefydliad am ymateb i danau gwyllt a’i strategaeth ymateb i danau gwyllt
P13 rhannu gwybodaeth am gynlluniau tanau gwyllt gyda phobl berthnasol eraill yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Lechyd a diogelwch
K1     arferion gweithio diogel eich sefydliad wrth ymateb i danau gwyllt
K2     peryglon a risgiau tanau gwyllt sy’n effeithio ar bobl, eiddo a’r amgylchedd
K3     sut i ddefnyddio gwybodaeth asesiad risg i wneud penderfyniadau
K4     sut i gymhwyso penderfyniadau ar sail yr asesiad o risg
K5     mesurau rheoli eich sefydliad i liniaru risgiau

Sefydliadol
K6     deddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau, canllawiau a phrotocolau sy’n berthnasol i’ch rôl yn paratoi ar gyfer tanau gwyllt
K7     systemau, offer, dulliau a thempledi sy’n addas i baratoi gwybodaeth ar gyfer tanau gwyllt
K8     gofynion eich sefydliad ar gyfer cynnal cynlluniau tanau gwyllt

Personol a rhyngbersonol
K9     eich rôl a’ch cyfrifoldebau wrth baratoi ar gyfer tanau gwyllt, gan gynnwys maes eich cyfrifoldeb
K10   pobl eraill berthnasol y gallech weithio gyda nhw wrth baratoi ar gyfer tanau gwyllt a’u rôl yn achos tanau gwyllt
K11   llinellau a dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle
K12   sut i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gydag eraill
K13   sut i drin pobl eraill gyda pharch ac ystyriaeth, gan gyfrif am amrywiaeth a’i dderbyn
 
Technegol
K14    sut i gael at wahanol ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i danau gwyllt, a’u defnyddio
K15    mathau o amgylcheddau tanau gwyllt yn eich ardal a’u heffaith
K16    y System Rhagweld Tanau Gwyllt a sut i’w defnyddio yn y broses gynllunio
K17 dulliau a thechnegau lleihau risg tanau gwyllt
K18 gwahanol adnoddau sydd ar gael i ymateb i danau gwyllt
K19 sut gall adnoddau gael eu defnyddio i reoli tanau gwyllt
|


Cwmpas/ystod

1             Ffynonellau gwybodaeth a mathau o wybodaeth
1.1            mapiau
1.2            rhagolygon meteorolegol a data hanesyddol
1.3            gwybodaeth am ddigwyddiadau hanesyddol
1.4            cofrestri gallu lleol a chenedlaethol
1.5            cynlluniau a strategaethau digwyddiadau tân lleol, strategol a mawr
1.6            mathau o danwydd a llwyth tanwydd
1.7            strategaethau tân cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
1.8            polisïau, canllawiau, gweithdrefnau gweithredu safonol ac asesiadau risg yn berthnasol i danau gwyllt
1.9            meddalwedd ac offer perthnasol
1.10       systemau gwybodaeth a graddio perygl tân
1.11       deallusrwydd dynol
 
2             Amgylchedd tanau gwyllt
2.1            topograffeg
2.2            tanwydd
2.3            tywydd
2.4            ymddygiad tân
 
3             Risgiau
3.1            risgiau iechyd a diogelwch i bobl
3.2            risg eiddo, economaidd a masnachol
3.3            risg amgylcheddol
3.4            cynlluniau rheoli risg, fel Cynlluniau Rheoli Risg Integredig a Chofrestri Risg Cymunedol

4 Eraill
4.1 cydweithwyr
4.2 rheolwyr tir
4.3 Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
4.4 Y Weinyddiaeth Amddiffyn
4.5 gwasanaethau brys
4.6 cwmnïau cyfleustodau
4.7 y cyfryngau
4.8 aelodau’r cyhoedd
4.9 gwasanaethau trafnidiaeth
4.10 Timau Chwilio ac Achub
4.11 Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol
4.12 asiantaethau gwirfoddol
4.13 asiantaethau eraill

5. Adnoddau 
5.1 adnoddau mewnol
5.2 adnoddau allanol
5.3 personél a’u galluoedd
5.4 cymorth milwrol
5.5 cyfarpar
5.6 darpariaeth dŵr
5.7 grwpiau tanau gwyllt lleol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Disgwylir y bydd yr NOS hwn yn cael ei ddefnyddio a’i gymhwyso ar y cyd ag NOS eraill sy’n berthnasol i’ch rôl ym maes tân ac achub.


Cysylltiadau Allanol

Mae ‘Canllawiau Gweithredol – Tanau Gwyllt’ ar gael, ac fe’u datblygwyd er mwyn rhoi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ychwanegol o danau gwyllt i staff Gwasanaethau Tân ac Achub (FRS) y Deyrnas Unedig.
 
Cyhoeddir ‘Canllawiau Gweithredol – Tanau Gwyllt’ (Saesneg) gan Lywodraeth yr Alban:
http://www.scotland.gov.uk/Topics/Justice/public-safety/fire-and-rescue-
services/fire-rescue-advisory-unit/publications/wildfireopsguidancedraft


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJFRSWF01

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Tân ac Achub - Rheolwr Gorsaf, Rheolwyr Gwylfa Tân ac Achub

Cod SOC

3313

Geiriau Allweddol

Tân; achub; arbenigol; gwybodaeth; strategaeth; asesu; cynlluniau; risg;