Darparu cyngor arbenigol i reoli digwyddiadau tân ac achub
Trosolwg
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu gwybodaeth ar gyfer digwyddiadau tân ac achub o fewn eich maes arbenigedd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- nodi a chynnal ymwybyddiaeth o risg ar gyfer digwyddiadau tân ac achub oddi mewn i'ch maes arbenigedd, yn unol â phrosesau asesu risg
- nodi mesurau rheoli i leihau risgiau tân ac achub yn unol â phrosesau asesu risg
- asesu'r ffactorau sy'n effeithio ar ddigwyddiadau tân ac achub ar gyfer eich maes arbenigedd, ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cysylltu ag eraill i drafod manylion yr hyn a gynhwysir mewn cynlluniau tactegol, gan gynnwys yr wybodaeth sydd ar gael, yn unol â gofynion eich sefydliad
- llunio cynlluniau tactegol diogel ar gyfer digwyddiadau yn eich maes arbenigedd, yn unol â gofynion eich sefydliad
- gweithredu cynlluniau tactegol diogel ar gyfer digwyddiadau yn eich maes arbenigedd, yn unol â gofynion eich sefydliad
- nodi tactegau sy'n caniatáu dulliau rheoli effeithiol yn unol â gofynion eich sefydliad
- monitro ac adolygu cynlluniau tactegol yn barhaus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- rhoi gwybod am newidiadau i gynlluniau tactegol i'r bobl eraill sy’n berthnasol, yn unol â gweithdrefnau cyfathrebu eich sefydliad
- cynnal eich diogelwch a'ch lles eich hun ac eraill yn ystod digwyddiadau tân ac achub, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gweithio'n ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cynnal eich diogelwch a'ch lles eich hun ac eraill yn ystod digwyddiadau tân ac achub
- ffactorau sy'n effeithio ar les personél yn ystod ymateb tân ac achub
- arferion gwaith diogel eich sefydliad wrth ymateb i ddigwyddiadau tân ac achub
- peryglon a risgiau digwyddiadau tân ac achub sy'n effeithio ar bobl, eiddo a'r amgylchedd
- sut mae defnyddio gwybodaeth asesu risg i wneud penderfyniadau
- sut mae rhoi penderfyniadau ar waith ar sail yr asesiad risg
- mesurau rheoli eich sefydliad i liniaru risg
systemau cyfathrebu a rheoli digwyddiadau a ddefnyddir yn ystod digwyddiadau tân ac achub
deddfwriaeth, polisïau, gweithdrefnau, canllawiau a phrotocolau sy'n berthnasol i'ch rôl
- sut mae defnyddio systemau, offer, dulliau a thempledi sydd ar gael i helpu gyda'r broses gynllunio
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth ymateb i ddigwyddiadau tân ac achub, gan gynnwys eich maes cyfrifoldeb daearyddol
- pobl eraill perthnasol y gallech weithio gyda nhw, eu rôl a'u cyfrifoldebau
- llinellau a dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle
- sut mae cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol gydag eraill
- sut mae trin eraill â pharch ac ystyriaeth, gan roi sylw i amrywiaeth a'i dderbyn
- pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol gydag eraill yn ystod digwyddiadau tân ac achub
- sut mae defnyddio dulliau rheoli digwyddiadau sy'n berthnasol i ddigwyddiadau tân ac achub
- sut mae cyrchu a defnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth sy'n berthnasol i ddigwyddiadau tân ac achub oddi mewn i'ch maes arbenigedd
- sut mae llunio cynlluniau tactegol oddi mewn i'ch maes arbenigedd
- yr adnoddau sydd ar gael i ymateb i ddigwyddiadau tân ac achub
- pwysigrwydd dyrannu personél i dasgau yn unol â lefel eu profiad, eu galluoedd a'u gwybodaeth
- tactegau a dulliau cyfyngu, defnydd diogel ohonynt, a'u heffaith ar reoli digwyddiadau tân ac achub
Cwmpas/ystod
Casglu Gwybodaeth
1.1 Gwybodaeth am ddigwyddiadau
1.2 Yr adnoddau sydd ar y safle
1.3 Yr adnoddau sydd ar gael
1.4 Asiantaethau allanol a'r adnoddau sydd ar gael ganddynt
* 2. Ffynonellau a mathau o wybodaeth*
2.1 Mapiau
2.2 Rhagolygon meteorolegol a data hanesyddol
2.3 Gwybodaeth am ddigwyddiadau hanesyddol
2.4 Cofrestrau gallu lleol a chenedlaethol
2.5 Cynlluniau a strategaethau tân lleol, strategol ac ar gyfer digwyddiadau mawr
2.6 Strategaethau tân cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
2.7 Polisïau, canllawiau, gweithdrefnau gweithredu safonol ac asesiadau risg sy'n berthnasol i ddigwyddiadau tân ac achub
2.8 Meddalwedd ac offer perthnasol
2.9 Systemau gwybodaeth a sgorio perygl tân
2.10 Deallusrwydd dynol
* 3* Risgiau
3.1 Risgiau iechyd a diogelwch i bobl
3.2 Risg eiddo, economaidd a masnachol
3.3 Amgylcheddol
* 4* Eraill* *
4.1 Cydweithwyr
4.2 Y Weinyddiaeth Amddiffyn
4.3 Y gwasanaethau brys
4.4 Cwmnïau cyfleustodau
4.5 Y Cyfryngau
4.6 Aelodau o'r cyhoedd
4.7 Gwasanaethau trafnidiaeth
4.8 Timau Chwilio ac Achub
4.9 Asiantaethau gwirfoddol
4.10 Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol
4.11 Asiantaethau eraill
* 5. Adnoddau*
5,1 Adnoddau mewnol
5.3 Personél a'u galluoedd
5.4 Cefnogaeth filwrol
5.5 Offer
5.7 Grwpiau tanau gwyllt lleol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Darperir y diffiniadau hyn i esbonio sut defnyddir geiriau a chysyniadau allweddol yn yr uned hon.
Gweithgareddau
Camau gweithredu, prosesau, gweithrediadau neu wasanaethau yn y gweithle y mae'n rhaid eu cwblhau er mwyn cyflawni amcanion
* *Dyrannu gwaith
Rhoi cyfrifoldeb i dimau ac unigolion am dasgau a ddylai gyflawni amcanion gwaith cytunedig
Cyfrinachedd
Darparu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
Cyfraniadau
Syniadau a gwybodaeth y mae pobl angen neu eisiau eu codi mewn trafodaethau
Crwydriadau
Trafodaethau neu gyfraniadau sy'n crwydro oddi wrth ddiben ac amcanion y cyfarfod
Adborth ar berfformiad
Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i aelodau'r tîm ynghylch lefel eu perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt
Gwybodaeth
Beth sydd ei angen arnoch chi a phobl eraill i gyflawni eich gwaith yn effeithiol
Anghenion gwrandawyr
Cyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd sy'n bodloni unrhyw ofynion penodol gan y gwrandawr
Arwain cyfarfodydd
Sut rydych chi'n rheoli'r trafodaethau, yn osgoi crwydriadau, yn osgoi gwrthdaro ac yn annog ymgysylltiad, fel bod modd cyflawni canlyniad boddhaol
Cyfarfodydd
Dod ynghyd gyda phobl eraill i roi gwybodaeth iddynt, i ymgynghori â nhw neu i ddod i benderfyniadau, llunio agenda, cofnodion, pwyntiau gweithredu ac ati
Amcanion
Canlyniadau wedi'u diffinio'n glir y mae angen i chi eu cyflawni, ac sy'n benodol, yn fesuradwy, wedi'u cytuno gydag eraill, yn realistig ac yn amser-gyfyngedig
Cyfyngiadau Sefydliadol
Polisïau, amcanion a lefel adnoddau eich sefydliad, sy'n cyfyngu ar eich rhyddid i wneud penderfyniadau a gweithredu
Eraill
Aelodau o'r tîm, cydweithwyr sy'n gweithio ar yr un lefel â chi, rheolwyr lefel uwch, arbenigwyr, pobl, sefydliadau, adrannau, naill ai'r tu mewn neu'r tu allan i'ch sefydliad yr ydych yn darparu tîm gwasanaethau neu gynnyrch ar eu cyfer, pobl eraill perthnasol, noddwyr a phobl y tu allan i'ch sefydliad
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol
Y polisïau a'r gweithdrefnau sy'n effeithio ar unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddwch
Cynlluniau
Dogfennau neu gytundebau llafar, sy'n disgrifio'r gwaith sydd i'w wneud, pryd, gan bwy, at ba safon, ac â pha adnoddau, er mwyn medru cyflawni gofynion ac amcanion
Derbynyddion
Y bobl sy'n derbyn yr wybodaeth a'r cyngor rydych chi'n eu darparu
Cofnodion
Mecanwaith adrodd sefydliadol
Cyfyngiadau ar adnoddau
Cyfyngiadau ar faint o amser, ymdrech a deunyddiau y gallwch eu neilltuo ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i eraill
Atodlenni
Dogfennau sy'n dangos y gwaith sydd i'w wneud, pryd a hefyd, weithiau, gan bwy
Systemau a gweithdrefnau ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
Y dulliau o gofnodi a ffeilio gwybodaeth ar gyfer defnydd yn y dyfodol sy'n ofynnol gan eich sefydliad
Aelodau'r Tîm
Pobl sy'n gweithio gyda chi fel rhan o dîm swyddogaethol neu brosiect; gall aelodau'r tîm adrodd i chi naill ai fel eu rheolwr llinell neu fel y rheolwr sy'n gyfrifol am brosiect neu weithgaredd penodol y maent yn gweithio arno
Technoleg
Gall hyn gynnwys defnyddio cynadledda fideo, tele-cit neu unrhyw ddull arall addas o gyfathrebu nad yw'n defnyddio'r cyfrwng wyneb yn wyneb