Rheoli digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid

URN: SFJEFSS006
Sectorau Busnes (Suites): Tân ac Achub
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 30 Gorff 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i weithio fel aelod o'r tîm i fynychu a rheoli digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. Mae'r safon hon yn cynnwys defnyddio cyfarpar amddiffynnol personol a defnyddio cyfarpar yn ddiogel i reoli anifeiliaid ac i'ch cadw chi'n ddiogel adeg digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. 

Gall fod yn anodd rhagweld ymddygiad anifeiliaid, a gall newid yn gyflym iawn, felly bydd angen i chi ddeall y meysydd allweddol a all effeithio ar ymddygiad anifeiliaid mewn digwyddiadau tân ac achub. Ar hyd y safon hon, mae'n bwysig eich bod chi'n cyfathrebu'n effeithiol er mwyn eich cadw chi eich hun ac eraill yn wybodus ac yn ddiogel. 

Rydym yn argymell y safon hon ar gyfer diffoddwyr tân sy'n mynychu digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cadarn​hau gyda phobl eraill perthnasol eich tasgau a'ch dyletswyddau yng nghyswllt digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â'ch rôl, eich cyfrifoldebau, eich gallu a'ch profiad 2. eich lleoli eich hun mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yn unol â gofynion eich rôl 3. nodi ffactorau sy'n effeithio ar ymddygiad anifeiliaid mewn digwyddiadau tân ac achub 4. rhoi gwybod i bobl eraill perthnasol sy'n mynychu digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid am unrhyw newid yn ymddygiad yr anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau cyfathrebu eich sefydliad 5. gweithredu'n ddiogel mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 6. defnyddio dulliau a thechnegau cydnabyddedig i ddelio gyda digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol   7. cynnal cyfathrebu effeithiol gyda phobl eraill perthnasol mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau cyfathrebu eich sefydliad 8. defnyddio adnoddau, cyfarpar a chyfarpar amddiffynnol personol mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â'u cyfyngiadau, diogelwch a chyfarwyddiadau gweithredu​

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Iechyd a Diogelwch

1. pwysigrwydd cynnal eich diogelwch a'ch lles eich hun ac eraill mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid 
2. ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelwch a lles personél wrth ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
3. arferion gwaith diogel eich sefydliad wrth ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid 
4. y mesurau sydd ar gael i gynnal lles mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, gan gynnwys ardaloedd gorffwys, bwyd, dŵr, a chefnogaeth cymorth cyntaf 
5. peryglon a risgiau digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid sy'n effeithio ar bobl, eiddo a'r amgylchedd 
6. sut mae defnyddio gwybodaeth asesu risg 
7. sut mae defnyddio gwybodaeth asesu risg i wneud penderfyniadau 
8. sut mae cymhwyso penderfyniadau ar sail yr asesiad risg
9. mesurau rheoli eich sefydliad i liniaru risg
10. cyfarpar gweithredol ac amddiffynnol personol a ddefnyddir mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, gan gynnwys eu galluoedd, eu cyfyngiadau a defnydd diogel ohonynt

Sefydliadol

11. gofynion eich rôl mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, gan gynnwys; polisïau a gweithdrefnau sydd i'w dilyn 
y ddeddfwriaeth ddiweddaraf sydd i'w dilyn
12. canllawiau gweithredol protocolau perthnasol 
13. rolau, cyfrifoldebau a therfynau awdurdod o'ch rhan eich hun, eraill ac asiantaethau eraill yng nghyswllt digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid

Personol a rhyngbersonol

14. dulliau a thechnegau ar gyfer cyfathrebu gydag eraill 
15. llinellau a dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle
16. pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol gydag eraill yn ystod digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
17. sut mae trin eraill â pharch ac ystyriaeth, gan roi sylw i amrywiaeth a'i dderbyn 

Technegol

18. gwybodaeth sydd ar gael i lywio eich dealltwriaeth o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a sut mae ei chyrchu
19. sut mae defnyddio technegau priodol i symud a lleoli eich hunan ac eraill mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
20. tactegau achub a dulliau ar gyfer rheoli a rhyddhau anifeiliaid
21. sut mae cynnal ymwybyddiaeth o'r sefyllfa mewn digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
22. sut mae ymateb i wahanol fathau o ymddygiad anifeiliaid
23. yr adnoddau sydd ar gael i chi, a phryd i'w dethol, ar gyfer delio gyda digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid


Cwmpas/ystod

1. Ffynonellau a mathau o wybodaeth

1.1 gwybodaeth arbenigol am achub anifeiliaid
1.2 data lleoliad, defnydd a chludiant
1.3 cofrestrau gallu lleol a chenedlaethol
1.4 cynlluniau a strategaethau tân ac achub lleol, strategol ac ar gyfer digwyddiadau mawr
1.5 gwybodaeth am ddigwyddiadau hanesyddol
1.6 strategaethau achub anifeiliaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
1.7 polisïau, canllawiau, gweithdrefnau gweithredu safonol ac asesiadau risg sy'n berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid
1.8 meddalwedd ac offer perthnasol

2 Nodweddion digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid

2.1 ymddygiad anifeiliaid
2.2 ymddygiad dynol
2.3 rheoli anifeiliaid (gan gynnwys rheolaeth gorfforol a chemegol)
2.4 sbardunau
2.5 Mae risgiau cyffredinol yn troi'n ddeinamig eu natur pan fo anifeiliaid dan sylw

3 Risgiau

3.1 risgiau iechyd a diogelwch i bobl
3.2 risg eiddo, economaidd a masnachol
3.3 risg amgylcheddol
3.4 cynlluniau rheoli risg, megis cynlluniau Rheoli Risg Integredig a Chofrestrau Risg Cymunedol

4 Eraill 

4.1 BARTA (Cymdeithas Achub Anifeiliaid a Gofal Trawma Prydain)
4.2 CFOA ARPF (Fforwm Ymarferwyr Achub Anifeiliaid)
4.3 cydweithwyr
4.4 perchnogion/personau cyfrifol
4.5 milfeddygon
4.6 RSPCA, SSPCA, USPCA
4.7 Safonau Masnach
4.8 DEFRA
4.9 y gwasanaethau brys 
4.10 cwmnïau cyfleustodau
4.11 y cyfryngau
4.12 aelodau o'r cyhoedd 
4.13 gwasanaethau trafnidiaeth
4.14 Timau Chwilio ac Achub
4.15 Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol
4.16 Asiantaethau ymchwil
4.17 Asiantaethau gwirfoddol
4.18 Asiantaethau eraill

5 Adnoddau

5.1 adnoddau mewnol
5.2 adnoddau allanol 
5.3 personél a'u galluoedd
5.4 cymorth milfeddygol/arbenigol
5.5 cyfarpar


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Disgwylir i'r SGC hon gael ei defnyddio a'i chymhwyso ar y cyd â SGC eraill sy'n berthnasol i'ch rôl ym maes tân ac achub.


Cysylltiadau Allanol

​​Mae ‘Canllawiau Gweithredol Tân ac Achub - GRA 2.5 - Achub anifeiliaid mawr' ar gael, ac fe'u datblygwyd i ddarparu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ychwanegol o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid mawr i bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub y Deyrnas Unedig.​


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Gorff 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJEFSS006

Galwedigaethau Perthnasol

Diffoddwyr tân, Gwasanaeth Cyhoeddus, Gofal anifeiliaid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

tân; achub; anifail; digwyddiad; arbenigol; gwybodaeth; strategaeth; ymddygiad anifeiliaid