Cynllun ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
Trosolwg
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid gyda phobl eraill perthnasol yn eich sefydliad
- casglu gwybodaeth am nodweddion risg anifeiliaid sy'n ffactorau yn eich lleoliad a'ch maes cyfrifoldeb
- dehongli ffynonellau o wybodaeth a ganfuwyd ynghylch digwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gofynion eich rôl, oddi mewn i'ch rôl
- casglu gwybodaeth sydd wedi'i diweddaru, sy'n berthnasol, ac sy'n bodloni gofynion gwybodaeth eich sefydliad ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
- nodi risgiau digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid i bobl, eiddo a'r amgylchedd yn unol â gweithdrefnau asesu risg sefydliadol
- nodi mesurau rheoli er mwyn lleihau'r risg i bobl, eiddo a'r amgylchedd, yn unol â gweithdrefnau asesu risg sefydliadol
- monitro data i ganfod sbardunau risg gynyddol digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau asesu risg sefydliadol
- cyfrannu at gynlluniau rheoli risg, yn unol â gofynion sefydliadol
- datblygu cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid o wybodaeth a gasglwyd yn unol â gofynion sefydliadol
- canfod yr ystod o adnoddau sydd ar gael i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- dyrannu adnoddau i gynlluniau digwyddiadau anifeiliaid er mwyn bodloni gofynion eich sefydliad ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a strategaeth ymateb i achub anifeiliaid
- rhannu gwybodaeth am gynlluniau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid gyda phobl eraill perthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Iechyd a Diogelwch
- arferion gwaith diogel eich sefydliad wrth ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
- peryglon a risgiau digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid sy'n effeithio ar bobl, eiddo a'r amgylchedd
- sut mae defnyddio gwybodaeth asesu risg i wneud penderfyniadau
- sut mae cymhwyso penderfyniadau ar sail yr asesiad risg
- mesurau rheoli eich sefydliad i liniaru risg
Sefydliadol
- polisïau a gweithdrefnau sy'n berthnasol i'ch rôl wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
- y protocol sydd i'w ddilyn sy'n berthnasol i'ch rôl wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
- systemau, offer, dulliau a thempledi sy'n addas i'w defnyddio wrth gynllunio gwybodaeth ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
gofynion eich sefydliad ar gyfer cynnal cynlluniau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
Personol a rhyngbersonol
eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran cynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid sy'n cynnwys eich maes cyfrifoldeb
- pobl eraill berthnasol y bydd angen i chi weithio gyda nhw wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a'u rôl yn y fath ddigwyddiadau
- llinellau a dulliau cyfathrebu ac adrodd yn y gweithle
- sut mae cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol gydag eraill
- sut mae trin eraill â pharch ac ystyriaeth, gan roi sylw i amrywiaeth a'i dderbyn
Technegol
- gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael ac sy'n gallu llywio eich dealltwriaeth o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a sut mae eu cyrchu
- y mathau o nodweddion sydd gan ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yn eich ardal a'u heffaith
- pwysigrwydd technegau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a sut mae eu defnyddio yn y broses gynllunio
- dulliau a thechnegau o atal digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
- y gwahanol adnoddau sydd ar gael i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
- sut gellir defnyddio adnoddau i reoli digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
Cwmpas/ystod
1. Ffynonellau a mathau o wybodaeth
1.1 gwybodaeth arbenigol am achub anifeiliaid1.2 data lleoliad, defnydd a chludiant1.3 cofrestrau gallu lleol a chenedlaethol1.4 cynlluniau a strategaethau tân ac achub lleol, strategol ac ar gyfer digwyddiadau mawr1.5 gwybodaeth am ddigwyddiadau hanesyddol1.6 strategaethau achub anifeiliaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol1.7 polisïau, canllawiau, gweithdrefnau gweithredu safonol ac asesiadau risg sy'n berthnasol i ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid1.8 meddalwedd ac offer perthnasol
2 Nodweddion digwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid
2.1 ymddygiad anifeiliaid2.2 ymddygiad dynol2.3 rheoli’r anifeiliaid (gan gynnwys rheolaeth gorfforol a chemegol)2.4 sbardunau2.5 Mae risgiau cyffredinol yn troi'n ddeinamig eu natur pan fo anifeiliaid dan sylw
3 Risgiau
3.1 risgiau iechyd a diogelwch i bobl3.2 risg eiddo, economaidd a masnachol3.3 risg amgylcheddol3.4 cynlluniau rheoli risg, megis cynlluniau Rheoli Risg Integredig a Chofrestrau Risg Cymunedol
4 Eraill *
4.1 BARTA (Cymdeithas Achub Anifeiliaid a Gofal Trawma Prydain)4.2 CFOA ARPF (Fforwm Ymarferwyr Achub Anifeiliaid)4.3 cydweithwyr4.4 perchnogion/personau cyfrifol4.5 milfeddygon4.6 RSPCA4.7 SSPCA4.8 USPCA4.9 Safonau Masnach4.10 DEFRA4.11 y gwasanaethau brys4.12 cwmnïau cyfleustodau4.13 y cyfryngau4.14 aelodau o'r cyhoedd4.15 gwasanaethau trafnidiaeth4.16 Timau Chwilio ac Achub4.17 Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol4.18 Asiantaethau ymchwil4.19 Asiantaethau gwirfoddol4.20 Asiantaethau eraill
5 Adnoddau*
5.1 adnoddau mewnol5.2 adnoddau allanol5.3 personél a'u galluoedd5.4 cymorth milfeddygol/arbenigol5.5 cyfarpar
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Disgwylir i'r SGC hon gael ei defnyddio a'i chymhwyso ar y cyd â SGC eraill sy'n berthnasol i'ch rôl ym maes tân ac achub.
Cysylltiadau Allanol
Mae ‘Canllawiau Gweithredol Tân ac Achub - GRA 2.5 - Achub anifeiliaid mawr' ar gael, ac fe'u datblygwyd i ddarparu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ychwanegol o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid i bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub y Deyrnas Unedig.