Darparu gwaith grŵp yn mynd i’r afael ag ymddygiad ac agweddau cyflawnwyr yn gysylltiedig â’u cam-drin domestig neu eu trais rhywiol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch gallu i ddarparu a hwyluso gwaith grŵp sy’n cynnwys cyflawnwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Dim ond cyflawnwyr yr aseswyd eu bod yn addas i fynychu rhaglen o’r fath fydd yn cymryd rhan mewn gwaith grŵp.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith grŵp i gyflawnwyr er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
- gwirio bod trefniadau ac adnoddau ar gyfer gwaith grŵp gyda chyflawnwyr yn ystyried diogelwch a lles pawb sy’n cymryd rhan
- cytuno ar nodau ar gyfer y gwaith grŵp gyda chyflawnwyr, yn unol â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau
- cadarnhau bod cyflawnwyr sy’n mynychu sesiynau gwaith grŵp:
• wedi cael asesiad a’u bod yn addas ar gyfer gwaith grŵp
• wedi cael caniatâd i fynychu - gyda chyflawnwyr, cytuno ar reolau sylfaenol ar gyfer cymryd rhan mewn gwaith grŵp, gan gynnwys rheolau cyfrinachedd
- nodi unrhyw rwystrau neu bryderon sydd gan gyflawnwyr ac eraill sy’n cymryd rhan ynghylch cyflawni nodau gwaith grŵp
- cytuno ar y canlynol gyda chyflawnwyr:
• sut dylid mynd i’r afael â phryderon a rhwystrau
• meini prawf ar gyfer monitro a gwerthuso llwyddiant ac effaith gwaith grŵp - cadarnhau bod y rhai sy’n cymryd rhan mewn cyflwyno gwaith grŵp yn deall eu rôl ac yn gymwys ar gyfer eu rôl
- gwirio bod y rhai sy’n cymryd rhan mewn cyflwyno gwaith grŵp wedi cael briff ymlaen llaw, yn unol â gofynion y sefydliad
- hwyluso gwaith grŵp yn unol â chanllawiau sydd ar gael, ac mewn ffyrdd sydd:
• yn annog yr holl gyflawnwyr i gymryd rhan yn llawn
• yn ymatebol i anghenion cyflawnwyr - herio a mynd i’r afael ag unrhyw agweddau neu ymddygiadau a all ymledu camdriniaeth gan ddefnyddio dulliau a thechnegau cyfathrebu priodol
- gweithio gyda grwpiau o gyflawnwyr, mewn ffyrdd sydd:
• yn eu hannog i gymryd rheolaeth dros eu hymddygiad
• yn eu cynorthwyo i nodi camau gweithredu i lwyddo i reoli eu hymddygiad
• yn annog unigolion i rannu adborth agored a gonest am waith grŵp - cynnwys cyflawnwyr wrth fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwaith grŵp a gweithgareddau
- nodi agweddau ar ddatblygu gwaith grŵp gyda’r cyflawnwyr sy’n cymryd rhan, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- mynd i’r afael â meysydd datblygu gwaith grŵp a nodwyd gan y cyflawnwyr sy’n cymryd rhan
- darparu adroddiadau i bobl berthnasol eraill am gynnydd cyflawnwyr mewn rhaglenni gwaith grŵp, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- cynnal cofnodion cyfredol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad ac i’r gweithgareddau sy’n cael eu cyflawni.
- y canllawiau, y polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd y dylid troi atynt
- yr ystod o asiantaethau a gwasanaethau y gallech weithio gyda nhw
- rolau, amcanion, cylch gwaith a gwasanaethau eich sefydliad ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich cyfrifoldeb a’ch cymhwysedd proffesiynol
- beth yw cam-drin domestig neu drais rhywiol, a pha mor gyffredin ydyw yn eich cymuned leol
- arwyddion o gam-drin a’r dulliau y mae camdrinwyr yn eu defnyddio i ennill grym a rheolaeth
- effaith cam-drin ar bawb y mae’n effeithio arnynt, gan gynnwys unigolion a dibynyddion
- sut gall dibynyddion gael eu defnyddio gan gamdrinwyr fel rhan o’u camdriniaeth
- sut mae agweddau’n gysylltiedig â diwylliant, cymdeithas a rhywedd yn effeithio ar gam-drin domestig neu drais rhywiol
- sut mae croestoriadedd yn effeithio ar brofiad unigolyn o wasanaethau
- rôl asiantaethau a sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth, gwasanaethau ac ymyriadau i fynd i’r afael â cham-drin domestig neu drais rhywiol yn eich ardal
- y prosesau asesu perthnasol a ddefnyddir wrth bennu addasrwydd cyflawnwyr ar gyfer gwaith grŵp a sut i gymhwyso’r rhain
- cyfyngiadau prosesau asesu a sut maent yn dibynnu ar y safbwynt a’r wybodaeth sydd ar gael
- meini prawf derbyn ar gyfer presenoldeb cyflawnwyr mewn rhaglenni grŵp
- ffynonellau gwybodaeth am gyflawnwyr rydych chi’n gweithio gyda nhw a sut i gael at y rhain
- dulliau o wirio a chadarnhau gwybodaeth
- sut i wahaniaethu rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol, tystiolaeth o ffynonellau dibynadwy ac adroddiadau ail-law
- beth yw ystyr gwaith grŵp a phwysigrwydd dynameg grŵp wrth reoli gweithgarwch o’r fath
- pwysigrwydd a chyfyngiadau gwaith grŵp o ran hyrwyddo newidiadau yn ymddygiad cyflawnwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol
- gwahanol ymatebion i drawma a’u heffaith
- pwysigrwydd cytuno ar nodau penodedig ar gyfer gwaith grŵp
- yr adnoddau y mae eu hangen ar gyfer gweithgareddau grŵp
- sut i gael adnoddau gwaith grŵp o fewn gofynion y gyllideb ac amser
- pwysigrwydd dyluniad y rhaglen o fewn gwaith grŵp
- rhwystrau posibl rhag gweithio’n effeithiol mewn grŵp a dulliau o fynd i’r afael â’r rhain
- ffyrdd o annog cyflawnwyr i gymryd rhan ac i ofyn cwestiynau
- pwysigrwydd monitro gweithgarwch am wrthdaro a sut i fynd i’r afael â hyn
- ffyrdd effeithiol o fonitro a gwerthuso gweithgareddau gwaith grŵp a sut i gynnwys cyflawnwyr wrth wneud hynny
- dulliau a thechnegau ar gyfer adnabod llwyddiant a’i gydnabod
- sut i ddarparu adborth adeiladol i gyflawnwyr
- ffynonellau gwybodaeth, arweiniad a chymorth ar gyfer:
- hwyluso gwaith grŵp
- gweithio gyda chyflawnwyr
- yr ystod o arddulliau a thechnegau cyfathrebu sydd ar gael, gan gynnwys pryd a sut i’w haddasu
- sut mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn ffyrdd gwahanol
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’ch gwerthoedd a’ch credoau eich hun a’r effaith y gall eich gwerthoedd a’ch credoau eich hun ei chael wrth weithio gyda chyflawnwyr ac unigolion
- sut i herio agweddau ac ymddygiad gwahaniaethol neu a allai fod yn niweidiol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- rhwystrau cyffredin rhag cyfathrebu a ffyrdd o’u goresgyn
- ffynonellau cymorth a goruchwyliaeth sydd ar gael i chi fel ymarferwr
- pa gymorth y gall fod ei angen a sut i gael ato
- cyfyngiadau cyfrinachedd sy’n berthnasol wrth ddelio â chyflawnwyr
- yr amgylchiadau pan fydd angen rhoi gwybod i eraill am gyflawnwyr, gan gynnwys pan fydd gennych bryderon am ddiogelwch pobl eraill oherwydd ymddygiad y cyflawnydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cam-drin Domestig
Patrwm o ymddygiad rheolaethol, ymddygiad gorfodaethol, ymddygiad bygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn sydd, neu a fu, yn bartneriaid clos neu’n aelodau teulu, ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gyfuniad o gam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol ac emosiynol.
Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys trais ar sail ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod. Mae plant hefyd yn cael profiad o gam-drin domestig pan fyddant yn dyst i gam-drin domestig.
Croestoriadedd
Natur gysylltiedig categoreiddiadau cymdeithasol fel hil, dosbarth a rhywedd, yr ystyrir eu bod yn creu systemau gwahaniaethu neu anfantais sy’n gorgyffwrdd ac sy’n gyd-ddibynnol
Dull dan arweiniad anghenion
Math o eiriolaeth sy’n gosod y goroeswr yn ganolog i ymyriadau a gwaith cymorth. Mae hyn yn golygu gwrando ar eu hanes, eu pryderon a’u hanawsterau, a nodi cryfderau. Mae’n arwain at gynhyrchu pecynnau cymorth yn gydgynhyrchiol, sy’n benodol i anghenion unigol goroeswyr. Mae dull dan arweiniad anghenion yn ymdrech ymrymusol sy’n talu sylw i amgylchiadau croestoriadol goroeswyr, gan osgoi maglau rhagfarn sefydliadol neu ymatebion aneffeithiol.
Dull seiliedig ar gryfderau
Cydnabod bod gan unigolion gryfderau. Cydnabyddir y cryfderau hyn ac adeiladir arnynt fel rhan o gynorthwyo ag adfer.
Pobl mewn perygl
Unigolyn y diffinnir bod arno angen gofal, cymorth neu amddiffyniad arbennig oherwydd oedran, anabledd, risg cam-drin neu esgeulustod
Trais Rhywiol (gweler hefyd ddiffiniadau isod y gellir eu defnyddio sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol)
Yn debyg o ran ei natur i gam-drin rhywiol, ond defnyddir y term hwn yn fwy aml i ddisgrifio digwyddiadau byr neu unigol, megis ymosodiad rhywiol gan ddieithryn.
Cam-drin Rhywiol
Ymddygiad rhywiol digroeso gan un person tuag at berson arall. Mae hwn yn aml yn cael ei gyflawni trwy rym neu trwy gymryd mantais ar y person arall. Defnyddir y term hwn yn gyffredinol pan fydd yr ymddygiad rhywiol yn rheolaidd neu’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Ymosodiad Rhywiol
Unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso nad yw person wedi cydsynio iddo. Gall hyn amrywio o drais i voyeuriaeth i orchestu, i gyffwrdd digroeso dros neu o dan ddillad.
Ymarfer Ystyriol o Drawma
Ymagwedd at ymyriadau iechyd a gofal sydd â’i sail mewn deall bod amlygiad i drawma’n gallu effeithio ar unigolyn. Bydd ymarferwyr yn gweithio mewn ffyrdd nad ydynt yn ailachosi trawma yn anfwriadol i’r unigolyn, ac mae pwyslais ar ddiogelwch, dewis, cydweithrediad a grymuso’r cleient.